xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2293 (Cy. 181)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(7), (8), (9) ,105(2) a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.

Enwi, chychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen

3.—(1Er mwyn llunio cynigion rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phersonau eraill ynddi sydd â buddiant, a rhaid iddo gydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) wrth gynnal yr ymgynghori hwnnw.

(2Wrth gynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod lleol, os oes mwy nag un math o drefniadau amgen yn cael ei ganiatáu gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf:

(a)disgrifio a mynegi mewn ffordd deg a chytbwys bob un o'r mathau o drefniadau amgen sy'n cael eu caniatáu am y tro gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf;

(b)sicrhau bod gan etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phartïon eraill ynddi sydd â buddiant, yn cael cyfle i fynegi eu dewis yn glir o blaid unrhyw un o'r mathau hynny o drefniadau amgen; a

(c)defnyddio cyfuniad o ddulliau ymgynghori ansoddol a meintiol.

(3Wrth gynnal yr ymgynghori sy'n ofynnol o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod lleol (p'un a oes mwy nag un math o drefniadau amgen yn cael ei ganiatáu gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf neu beidio):

(a)sicrhau bod pob etholwr lleol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phartïon eraill ynddi sydd â buddiant, yn cael cyfle i ymateb i'r ymgynghori hwnnw; a

(b)peidio â chynnwys yn yr ymgynghori hwnnw unrhyw ymgynghori y mae'r awdurdod wedi penderfynu ei gynnal er mwyn cyflwyno sylwadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefnu bod math penodol o drefniadau amgen ar gael mewn rheoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf.

(4Wrth lunio ei gynigion, rhaid i awdurdod lleol—

(a)penderfynu pa fath o drefniadau amgen sydd i'w gynnwys yn y cynigion; a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(5Rhaid i awdurdod lleol gynnwys yn ei gynigion—

(a)datganiad (drwy gyfeirio at reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 32 o'r Ddeddf) ynghylch y math penodol o drefniadau amgen y mae'r cynigion yn ymwneud â hwy;

(b)disgrifiad o rolau'r awdurdod ei hun o dan y trefniadau arfaethedig;

(c)datganiad ynghylch y nifer o bwyllgorau ac is-bwyllgorau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu sefydlu ar gyfer cyflawni'r swyddogaethau y mae'r awdurdod yn bwriadu iddynt gael eu cyflawni gan y pwyllgorau a'r is-bwyllgorau hynny o dan y trefniadau amgen arfaethedig;

(ch)disgrifiad o'r trefniadau arfaethedig sydd i'w cynnwys yn y trefniadau amgen arfaethedig ar gyfer gweithredu pwyllgorau neu is-bwyllgorau i adolygu penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, neu i graffu arnynt mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod;

(d)amserlen mewn perthynas â gweithredu'r cynigion;

(dd)manylion unrhyw drefniadau trosiannol y mae eu hangen er mwyn gweithredu'r cynigion;

(e)disgrifiad o unrhyw nodweddion eraill ar y trefniadau amgen arfaethedig y bydd yr awdurdod yn penderfynu eu cynnwys yn y cynigion; ac

(f)unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani mewn cyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6Rhaid i awdurdod lleol anfon y canlynol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o'i gynigion; a

(b)datganiad sy'n disgrifio—

(i)y camau a gymerodd yr awdurdod i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod, a phersonau eraill ynddi sydd â buddiant, yn unol ag adran 31(5) o'r Ddeddf a pharagraff (1) uchod;

(ii)canlyniad yr ymgynghori hwnnw ac i ba raddau y mae'r canlyniad hwnnw'n cael ei adlewyrchu yn y cynigion;

(iii)y rhesymau pam mae'r awdurdod yn credu y bydd ei gynigion yn fwy addas ar gyfer yr amgylchiadau yn yr awdurdod hwnnw a'i ardal nag unrhyw fath o weithrediaeth a bennir yn adran 11 o'r Ddeddf neu odani; a

(iv)y rhesymau pam mae'r awdurdod yn credu y byddai ei gynigion, o'u gweithredu, yn debyg o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, tryloyw ac atebol.

(7Rhaid i awdurdod lleol weithredu ei gynigion yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”), mae'n ofynnol i'r awdurdodau lleol wneud trefniadau i'w swyddogaethau gael eu cyflawni gan weithrediaethau y mae'n rhaid iddynt fod yn un o'r mathau a bennir yn adran 11(2) i (4) o'r Ddeddf neu mewn rheoliadau o dan adran 11(5). Mae adran 25 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol lunio cynigion ar gyfer trefniadau gweithrediaeth. Mae adran 31 o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod lleol y mae'r adran honno'n gymwys iddo lunio cynigion ar gyfer trefniadau amgen o fath penodol a ganiateir gan reoliadau o dan adran 32 o'r Ddeddf. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys gofynion ynglŷn â'r cynigion hynny ar gyfer trefniadau amgen.

Mae rheoliad 3(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gymryd camau rhesymol i ymgynghori ac mae'r ymagwedd y dylai'r awdurdod ei chymryd at yr ymgynghori wedi'i nodi yn rheoliad 3(2). Mae rheoliad 3(4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod benderfynu pa fath o drefniadau amgen i'w gynnwys yn ei gynigion ac i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 3(5) yn pennu'r materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn y cynigion ac mae rheoliad 3(6) yn ei gwneud yn ofynnol bod copi o'r cynigion a'r wybodaeth sy'n cyd-fynd â hwy yn cael ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r gofyniad i awdurdod weithredu ei gynigion ar gyfer trefniadau amgen yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion hynny wedi'i nodi yn rheoliad 3(7).