xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2351 (Cy. 191) (C. 79)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD,CYMRU

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

12 Mehefin 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 125(3) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd 1995 (Cychwyn a Darpariaeth Arbed Tir Halogedig) (Cymru) 2001.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at adran neu Atodlen a rifwyd yn gyfeiriad at yr adran neu Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf 1995 onibai bod datganiad pendant i'r gwrthwyneb.

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

2.  —Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd darpariaethau canlynol Deddf 1995 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001:—

(a)adran 57;

(b)adran 120(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 79, 89, 91 a 92 o Atodlen 22; ac

(c)adran 120(3) i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 61 a 143 o Ddeddf 1990 yn Atodlen 24.

Darpariaeth arbed

3.  Os oes, cyn 1 Gorffennaf 2001,—

(a)hysbysiad atal niwsans wedi'i gyflwyno o dan adran 80(1) o Ddeddf 1990; neu

(b)cŵ yn wedi'i chyflwyno i lys ynadon o dan adran 82(1) o Ddeddf 1990 neu os oes gorchymyn wedi'i wneud o dan adran 82(2) o'r Ddeddf honno,

cyn 1 Gorffennaf 2001, bydd yr hysbysiad, y gŵ yn neu'r gorchymyn ac unrhyw achos sy'n dilyn yn eu sgil yn parhau'n effeithiol er gwaethaf y diwygiadau a wnaed i adran 79 o Ddeddf 1990 gan baragraff 89 o Atodlen 22 i Ddeddf 1995.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dod ag amryfal ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”) i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Gorffennaf 2001.

Mae Erthygl 2(a) yn dod ag adran 57 o Ddeddf 1995 i rym, sef adran sy'n mewnosod Rhan IIA yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”).

Mae Erthygl 2(b) yn dod ag adran 120(1) o Ddeddf 1995 i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau canlynol yn Atodlen 22—

(a)paragraff 79, sy'n darparu i effaith adran 61 o Ddeddf 1990 (dyletswydd awdurdodau rheoleiddio gwastraff mewn perthynas â safleoedd tirlenwi a gaewyd) ddarfod;

(b)paragraff 89, sy'n diwygio adran 79 o Ddeddf 1990 (niwsansau statudol ac archwiliadau ar eu cyfer);

(c)paragraff 91, sy'n darparu i effaith adran 143 o Ddeddf 1990 (cofrestrau cyhoeddus tir a all fod wedi'i halogi) ddarfod; ac (ch) paragraff 92, sy'n diwygio adran 161(4) o Ddeddf 1990 (rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau).

Mae Erthygl 2(c) yn dod ag adran 120(3) o Ddeddf 1995 i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 61 a 143 o Ddeddf 1990 yn Atodlen 24.

Mae Erthygl 3 yn gwneud darpariaeth eithrio mewn cysylltiad â chychwyn paragraff 89 o Atodlen 22 i Ddeddf 1995.

(2)

Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.