- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Wedi'i wneud
29 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
2. 1 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod penodedig i adran 98 o'r Ddeddf (cyllido unigolion sy'n darparu gofal drwy daliadau uniongyrchol) ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mehefin 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Gorffennaf 2001 yn ddiwrnod pan yw adran 98 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) i ddod i rym mewn perthynas â Chymru.
Mae adran 98 o'r Ddeddf yn diwygio Deddf Amddiffyn Plant 1999 (“Deddf 1999”). Dyma yw effaith y diwygiadau:
(a)caiff awdurdod lleol yng Nghymru gyfeirio unigolyn sy'n cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi i ddarparu gofal i blentyn at yr Ysgrifennydd Gwladol, at ddibenion ei swyddogaethau o dan adran 1 o Ddeddf 1999, pan yw'r awdurdod yn cyllido'r gofal hwnnw o dan adran 17A o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”)(3), os ydynt o'r farn bod yr unigolyn yn euog o gamymddwyn a niweidiodd blentyn, neu a roddodd blentyn mewn risg o niwed(4);
(b)os yw person sy'n cyflogi neu'n bwriadu cyflogi unigolyn i ddarparu gofal i blentyn o dan adran 17A o Ddeddf 1989 yn gofyn i'r awdurdod lleol cyllido ddarganfod a yw'r unigolyn wedi'i gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf 1999 (neu mewn rhestrau penodol eraill a grybwyllir yn adran 7 o Ddeddf 1999) rhaid i'r awdurdod lleol ddarganfod a yw'r unigolyn wedi'i gynnwys yn unrhyw un o'r rhestrau hynny;
(c)os gofynnir i awdurdod lleol ddarganfod a yw unigolyn wedi'i gynnwys yn unrhyw un o'r rhestrau a grybwyllir yn (b) uchod mae'n ddigonol i'r awdurdod ei fodloni'i hun fod y corff a gyflenwodd yr unigolyn wedi darganfod, ar ddyddiad o fewn y deuddeg mis diwethaf, a oedd yr unigolyn wedi'i gynnwys felly os bydd yr awdurdod hefyd yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'r ffeithiau a ddarganfuwyd gan y corff.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Cafodd darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag “(a)” eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â “(b)” eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); a chafodd y rhai a ddilynir ag “(c)” eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152 ) (C.70 ) .
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adrannau 1—5 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 7(7) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 9(3)—(5) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 11—12 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 14—15 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 16 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 22—23 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 25 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 33—35 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 38(c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) | 1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42—43 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 48—52 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 54(1), (3)—(7) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 55 & Atodlen 1 (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 72 & Atodlen 2 (a) | 13 Tachwedd 2000 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(3),(4) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107—108 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 112 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 113 (2)—(4) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (y gweddill) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 115 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Cafodd darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adran 80(8) | 2 Hydref 2000 |
Adran 94 | 2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) | 15 Medi 2000 |
Adran 96 (y gweddill) | 2 Hydref 2000 |
Adran 99 | 15 Medi 2000 |
Adran 100 | 2 Hydref 2000 |
Adran 101 | 2 Hydref 2000 |
Adran 103 | 2 Hydref 2000 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68).
2000 c. 14. Mae'r pŵer yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae adran 17A o Ddeddf 1989 yn caniatáu i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol mewn amgylchiadau penodol wneud taliadau uniongyrchol i berson sydd â gofal rhiant dros blentyn anabl neu i blentyn anabl 16 neu 17 oed mewn perthynas â sicrhau darpariaeth gwasanaethau ar gyfer y plentyn anabl o dan adran 17 o Ddeddf 1989 er mwyn diogelu a hybu eu lles. Mewnosodir adran 17A gan adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 a fydd yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2001 ymlaen mewn perthynas â Chymru.
O dan adran 1 o Ddeddf 1999 mae'r Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr o bersonau y credir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: