xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2354 (Cy.192) (C.80)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

29 Mehefin 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1):

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

Y diwrnod penodedig

2.  1 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod penodedig i adran 98 o'r Ddeddf (cyllido unigolion sy'n darparu gofal drwy daliadau uniongyrchol) ddod i rym mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

Rhodri Morgan

Prif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Gorffennaf 2001 yn ddiwrnod pan yw adran 98 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) i ddod i rym mewn perthynas â Chymru.

Mae adran 98 o'r Ddeddf yn diwygio Deddf Amddiffyn Plant 1999 (“Deddf 1999”). Dyma yw effaith y diwygiadau:

(a)caiff awdurdod lleol yng Nghymru gyfeirio unigolyn sy'n cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi i ddarparu gofal i blentyn at yr Ysgrifennydd Gwladol, at ddibenion ei swyddogaethau o dan adran 1 o Ddeddf 1999, pan yw'r awdurdod yn cyllido'r gofal hwnnw o dan adran 17A o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”)(3), os ydynt o'r farn bod yr unigolyn yn euog o gamymddwyn a niweidiodd blentyn, neu a roddodd blentyn mewn risg o niwed(4);

(b)os yw person sy'n cyflogi neu'n bwriadu cyflogi unigolyn i ddarparu gofal i blentyn o dan adran 17A o Ddeddf 1989 yn gofyn i'r awdurdod lleol cyllido ddarganfod a yw'r unigolyn wedi'i gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf 1999 (neu mewn rhestrau penodol eraill a grybwyllir yn adran 7 o Ddeddf 1999) rhaid i'r awdurdod lleol ddarganfod a yw'r unigolyn wedi'i gynnwys yn unrhyw un o'r rhestrau hynny;

(c)os gofynnir i awdurdod lleol ddarganfod a yw unigolyn wedi'i gynnwys yn unrhyw un o'r rhestrau a grybwyllir yn (b) uchod mae'n ddigonol i'r awdurdod ei fodloni'i hun fod y corff a gyflenwodd yr unigolyn wedi darganfod, ar ddyddiad o fewn y deuddeg mis diwethaf, a oedd yr unigolyn wedi'i gynnwys felly os bydd yr awdurdod hefyd yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'r ffeithiau a ddarganfuwyd gan y corff.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Cafodd darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag “(a)” eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â “(b)” eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); a chafodd y rhai a ddilynir ag “(c)” eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152 ) (C.70 ) .

Y ddarpariaethY dyddiad cychwyn
Adrannau 1—5 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 7(7) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 8 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 9(3)—(5) (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 11—12 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 14—15 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 16 (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 22—23 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 25 (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 33—35 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 36 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 38(c)1 Gorffennaf 2001
Adran 40 (yn rhannol) (b)1 Chwefror 2001
Adran 40 (y gweddill) (b)28 Chwefror 2001
Adran 41 (b)28 Chwefror 2001
Adrannau 42—43 (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 48—52 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 54(1), (3)—(7) (a)1 Ebrill 2001
Adran 55 & Atodlen 1 (a)1 Ebrill 2001
Adran 72 & Atodlen 2 (a)13 Tachwedd 2000
Adran 79(1) (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 79(3),(4) (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 107—108 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 112 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 113 (2)—(4) (a)1 Ebrill 2001
Adran 114 (yn rhannol) (a)1 Ebrill 2001
Adran 114 (y gweddill) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 115 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b)28 Chwefror 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001

Cafodd darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.

Y ddarpariaethY dyddiad cychwyn
Adran 80(8)2 Hydref 2000
Adran 942 Hydref 2000
Adran 96 (yn rhannol)15 Medi 2000
Adran 96 (y gweddill)2 Hydref 2000
Adran 9915 Medi 2000
Adran 1002 Hydref 2000
Adran 1012 Hydref 2000
Adran 1032 Hydref 2000
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol)2 Hydref 2000
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol)2 Hydref 2000

Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68).

(1)

2000 c. 14. Mae'r pŵer yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.

(3)

Mae adran 17A o Ddeddf 1989 yn caniatáu i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol mewn amgylchiadau penodol wneud taliadau uniongyrchol i berson sydd â gofal rhiant dros blentyn anabl neu i blentyn anabl 16 neu 17 oed mewn perthynas â sicrhau darpariaeth gwasanaethau ar gyfer y plentyn anabl o dan adran 17 o Ddeddf 1989 er mwyn diogelu a hybu eu lles. Mewnosodir adran 17A gan adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 a fydd yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2001 ymlaen mewn perthynas â Chymru.

(4)

O dan adran 1 o Ddeddf 1999 mae'r Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr o bersonau y credir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant.