2001 Rhif 2356 (Cy.194)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, gan weithredu i arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio)(Cymru) 2001, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001

Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 19982

1

Caiff Rheoliadau Tatws sy'n deillio o'r Aifft 19983 eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o “the Decision” rhoddir—

  • “the Decision” means Commission Decision 96/301/EC authorising Member States temporarily to take additional measures against the dissemination of Pseudomanas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt4) as amended by the instruments listed in the Schedule to these Regulations;

2

Ar ôl rheoliad 6, mewnosodir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.

Dafydd Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENAtodlen Newydd i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998

Rheoliad 2(3)

SCHEDULEInstruments amending Commission Decision 96/301/EC

Regulation 2

Instrument

Reference

Commission Decision 98/105/EC

OJ No. L25, 31.1.98, p.101

Commission Decision 98/503/EC

OJ No. L225, 12.8.98, p.34

Commission Decision 99/842/EC

OJ No. L326, 18.12.99, p.68

Commission Decision 2000/568/EC

OJ No. L238, 22.9.00, p.59

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2000/568/EC sy'n diwygio Penderfyniad 96/301/EC sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn perthynas â'r Aifft (OJ Rhif L238, 22.9.2000, t.59).

Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r diffiniad o “the Decision” yn Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (rheoliad 2(2)). Mae Penderfyniad y Comisiwn 2000/568/EC yn adnewyddu'r fframwaith y gellir mewnforio tatws o'r Aifft i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd o'i fewn.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.