xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Mehefin 2001
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, gan weithredu i arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio)(Cymru) 2001, byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001
2.—(1) Caiff Rheoliadau Tatws sy'n deillio o'r Aifft 1998(3) eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o “the Decision” rhoddir—
““the Decision” means Commission Decision 96/301/EC authorising Member States temporarily to take additional measures against the dissemination of Pseudomanas solanacearum (Smith) Smith as regards Egypt(4)) as amended by the instruments listed in the Schedule to these Regulations;”.
(2) Ar ôl rheoliad 6, mewnosodir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mehefin 2001
Rheoliad 2(3)
Regulation 2
Instrument | Reference |
---|---|
Commission Decision 98/105/EC | OJ No. L25, 31.1.98, p.101 |
Commission Decision 98/503/EC | OJ No. L225, 12.8.98, p.34 |
Commission Decision 99/842/EC | OJ No. L326, 18.12.99, p.68 |
Commission Decision 2000/568/EC | OJ No. L238, 22.9.00, p.59” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2000/568/EC sy'n diwygio Penderfyniad 96/301/EC sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn perthynas â'r Aifft (OJ Rhif L238, 22.9.2000, t.59).
Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r diffiniad o “the Decision” yn Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (rheoliad 2(2)). Mae Penderfyniad y Comisiwn 2000/568/EC yn adnewyddu'r fframwaith y gellir mewnforio tatws o'r Aifft i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd o'i fewn.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167 ac O.S. 2000/350 (Cy.8).
OJ Rhif L115, 9.5.96, t.47.