Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2359 (Cy. 196)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

26 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n fel arall—

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001(2);

  • ystyr “y Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl” (“the Travelling Expenses and Remission of Charges Regulations”) yw Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988(3).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau

2.—(1Diwygir rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (tystysgrifau rhagdalu) yn unol â'r darpariaethau canlynol.

(2Ym mharagraff (6) yn lle “pharagraffau (7) ac (8)” rhowch “pharagraffau (13) i (15)”.

(3Yn lle paragraffau (7) ac (8) rhowch y paragraffau canlynol—

(7) Os oes swm rhagnodedig wedi'i dalu a bod y person y talwyd ar ei gyfer ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001—

(a)yn marw; neu

(b)yn dod yn breswylydd mewn ysbyty ac wedyn naill ai—

(i)yn marw; neu

(ii)yn aros yn yr ysbyty

yn ystod y cyfnod perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff (9) gellir gwneud cais am ad-daliad, gan y person hwnnw neu ar ei ran neu gan ei ystâd, yn unol â pharagraffau (13) — (15), mewn perthynas â phob mis cyfan yn dilyn y dyddiad pan fu'r person farw neu pan ddaeth yn breswylydd mewn ysbyty.

(8) Rhaid i'r ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) gael ei gyfrifo fel a ganlyn—

(a)yn achos tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am bedwar mis, un chwarter o'r swm rhagnodedig sydd wedi'i dalu am bob mis cyfan pryd y mae neu yr oedd y dystysgrif ragdalu yn ddilys;

(b)yn achos tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis, deuddegfed ran o'r swm rhagnodedig sydd wedi'i dalu am bob mis cyfan pryd y mae neu yr oedd y dystysgrif ragdalu yn ddilys;

ac at ddibenion y cyfrifiadau hyn, ystyr “mis cyfan” yw mis sy'n dechrau union fis ar ôl y dyddiad y daeth y dystysgrif ragdalu yn ddilys ac yn diweddu ar y dyddiad yn union o flaen y dyddiad hwnnw yn y mis canlynol.

(9) Ym mharagraff (7), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw cyfnod dilysrwydd y dystysgrif ragdalu heb gynnwys y mis y gellir gwneud cais am ad-daliad mewn perthynas ag ef.

(10) Os oes swm rhagnodedig wedi'i dalu mewn perthynas â thystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis a bod y person y gwnaed y taliad ar ei gyfer ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001 ac yn ystod y cyfnod perthnasol a ddiffinnir ym mharagraff (12)—

(a)yn dod yn berson y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu

(b)yn dod yn berson sydd â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988,

gall cais am ad-daliad gael ei wneud, gan neu ar ran y person hwnnw yn unol â pharagraffau (13) i (15).

(11) Swm yr ad-daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) fydd y gwahaniaeth rhwng y swm rhagnodedig a dalwyd a'r swm a gafodd ei ragnodi am dystysgrif ragdalu a oedd yn ddilys am bedwar mis ar y dyddiad y talwyd y swm rhagnodedig.

(12) Ym mharagraff (10) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o dri mis sy'n dilyn yn union ar ôl y mis y gellir gwneud cais o dan baragraff (6) mewn perthynas ag ef.

(13) Rhaid i geisiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r Awdurdod Iechyd a gafodd y swm rhagnodedig a chyda hwy rhaid cynnwys y dystysgrif (os cafodd un ei rhoi) a datganiad i ategu'r cais, a rhaid i'r cais ac unrhyw ad-daliad gael ei wneud mewn unrhyw fodd ac o dan unrhyw amodau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15) rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gael ei wneud os bydd y person y talwyd y swm rhagnodedig mewn perthynas ag ef—

(a)yn marw neu'n dod yn breswylydd mewn ysbyty ac wedyn yn marw, o fewn 24 mis o ddyddiad ei farwolaeth; neu

(b)â thystysgrif ragdalu ddilys am bedwar mis ac yn dod yn berson—

(i)y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu

(ii)â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988

o fewn pedwar mis i'r dyddiad y daw'r dystysgrif ragdalu yn ddilys; neu

(c)â thystysgrif ragdalu ddilys am 12 mis ac yn dod yn berson—

(i)y mae unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1)(b) i (d) yn gymwys iddo; neu

(ii)â hawl i beidio â thalu o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988

o fewn saith mis i'r dyddiad y daw'r dystysgrif ragdalu yn ddilys; neu

(ch)yn dod yn breswylydd mewn ysbyty ac yn aros yno hyd nes y bydd y dystysgrif ragdalu yn dirwyn i ben, o fewn tri mis ar ôl iddi ddirwyn i ben.

(15) Os gwneir cais o dan y rheoliad hwn y tu allan i'r terfynau amser a bennir ym mharagraff (14) mewn perthynas â marwolaeth sy'n digwydd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001 neu mewn perthynas â pherson sy'n dod yn berson y mae paragraff 14(b) i (ch) yn gymwys iddo ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2001, rhaid i'r Awdurdod Iechyd ei dderbyn os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod achos da dros yr oedi wrth gyflwyno'r cais..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”), sy'n darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Gwneir darpariaeth ar gyfer ffioedd deintyddol a ffioedd optegol ar wahân.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 10 o'r prif Reoliadau (sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer prynu tystysgrifau rhagdalu am ffioedd am gyffuriau a chyfarpar). Mae'r diwygiadau'n ymestyn y cyfnod pryd y gellir hawlio ad-daliad o'r ffi a dalwyd am dystysgrif ragdalu ar farwolaeth y deiliad neu pan dderbynnir y deiliad i ysbyty yn glaf preswyl i nifer y misoedd cyfan sy'n para heb ddirwyn i ben ar ddyddiad y farwolaeth neu ar ddyddiad y derbyn i'r ysbyty.

Mae hefyd yn ymestyn y cyfnod pryd y gellir hawlio ad-daliad pan yw deiliad tystysgrif ragdalu sy'n ddilys am 12 mis yn cael yr hawl i gael esemptiad o ffioedd am gyffuriau a chyfarpar neu ryddhad rhagddynt

Mae'n pennu'r terfynau amser ar gyfer gwneud cais am ad-daliad ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer derbyn cais o'r fath y tu allan i'r terfynau amser penodedig mewn achosion lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i fodloni bod achos da dros yr oedi wrth gyflwyno'r cais.

(1)

1977 p.49. Gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (c. 19)(“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” Diwygiwyd adran 83A gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 6; gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(5); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 40 a chan erthygl 2 o O.S.1998/2385. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y pwerau uchod eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources