Search Legislation

Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2360 (Cy.197)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

26 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) honno, drwy hyn yn gwneud yn Rheoliadau canlynol:—

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheolidau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw byffalo o'r rhywogaeth bubalus bubalis neu bison bison, tarw, buwch, bustach, treisiad neu lo;

  • ystyr “anifail buchol hysbysadwy” (“a notifiable bovine animal”) yw anifail buchol dros 30 mis oed sydd—

    (a)

    yn marw ar unrhyw fferm neu wrth gael ei gludo; neu

    (b)

    sydd wedi'i ladd heblaw i gael ei fwyta gan bobl;

    ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw—

    (a)

    person a benodwyd felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Gweinidog, gan gynnwys arolygydd milfeddygol; a

    (b)

    person a benodwyd felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan awdurdod lleol mewn perthynas â'i gyfrifoldebau gorfodi o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw arolygydd milfeddygol a benodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Gweinidog;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol, yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

  • ystyr “BSE” (“BSE”) yw'r clefyd enseffalopathi sbyngffurf buchol;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Gorchymyn BSE (Rhif 2)” (“the BSE (No.2) Order”) yw Gorchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Rhif 2) 1996(3);

  • ystyr “y Gweinidog” (“the Minister”) yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd;

  • ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr milfeddygon neu yn y gofrestr filfeddygol atodol;

  • ystyr “Penderfyniadau'r Comisiwn” (“the Commission Decisions”) yw—

    (a)

    Penderfyniad y Comisiwn 2000/764/EC(4) ynghylch profi anifeiliaid buchol am bresenoldeb enseffalopathi sbyngffurf buchol ac yn diwygio Penderfyniad 98/272/EC(5) ynghylch arolygaeth epidemiolegol am enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy; a

    (b)

    Penderfyniad y Comisiwn 2001/233/EC(6) yn diwygio Penderfyniad 2000/418/EC(7)) o ran cig wedi'i adfer yn fecanyddol ac esgyrn cefn buchol;

  • ystyr “safle” (“premises”) yw unrhyw le (gan gynnwys unrhyw strwythur neu gerbyd) lle gall anifeiliaid buchol gael eu bridio, eu trafod, eu dal, eu cadw, eu marchnata neu eu dangos i'r cyhoedd, ac mae'n cynnwys unrhyw le o'r fath sy'n cael ei feddiannu fel annedd breifat.

(2Mae i'r ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod ac sydd i'w gweld yn y naill neu'r llall o Benderfyniadau'r Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y Penderfyniad y maent i'w gweld ynddo.

(3Bernir bod unrhyw berson a benodwyd gan y Gweinidog neu gan awdurdod lleol at ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(8) wedi'i benodi gan y Gweinidog neu gan yr awdurdod hwnnw i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Gofynion sy'n ymwneud ag anifeiliaid buchol dros 30 mis oed

3.—(1Rhaid i berson y mae ganddo anifail buchol hysbysadwy neu garcas anifail o'r fath yn ei feddiant neu o dan ei ofal, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac o fewn 24 awr beth bynnag o'r adeg y bydd yr anifail yn marw neu y mae'r carcas yn dod i'w feddiant, roi gwybod am y ffaith i'r Cynulliad Cenedlaethol neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, i'r asiant hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw filfeddyg neu berson arall sydd, yng nghwrs ei ddyletswyddau—

(a)yn archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail buchol hysbysadwy sy'n marw yn ystod cwrs y dyletswyddau hynny; neu

(b)yn archwilio neu'n arolygu carcas anifail o'r fath,

cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr beth bynnag o'r adeg y bydd yr anifail yn marw neu y mae'r carcas yn cael ei archwilio neu ei arolygu, roi gwybod am y ffaith i'r Cynulliad Cenedlaethol neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, i'r asiant hwnnw.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi, drwy unrhyw gyfrwng a wêl yn dda, gan gynnwys hysbysiad yn y London Gazette, enw'r asiant, ei gyfeiriad a'r manylion perthnasol eraill ar gyfer cysylltu ag ef ac ar ba ddyddiad ac o ba ddyddiad y mae'n rhaid i hysbysiadau o dan y rheoliad hwn gael eu gwneud i'r asiant yn lle eu gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i berson y mae ganddo anifail buchol hysbysadwy, neu garcas anifail o'r fath, yn ei feddiant neu o dan ei ofal ar unrhyw safle, ei gadw ar y safle nes iddo gael ei gasglu gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.

4.—(1Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw safle (gan gynnwys unrhyw safle, neu unrhyw ran o safle, sy'n cael ei meddiannu fel annedd breifat)—

(a)er mwyn darganfod a oes unrhyw anifail buchol hysbysadwy yn cael ei gadw neu wedi cael ei gadw ar y safle;

(b)er mwyn darganfod a oes neu a fu unrhyw dorri ar y Rheoliadau hyn neu fethiant â chydymffurfio â hwy.

(2Os oes ynad heddwch, ar ôl cael hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod yna sail resymol dros fynd i unrhyw safle (heblaw unrhyw safle sy'n cael ei feddiannu fel annedd breifat) at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod a naill ai—

(a)bod mynediad i'r safle wedi'i wrthod, neu'n debyg o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai gwneud cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yna frys ynglŷn â'r achos, neu nad yw'r safle yn cael ei feddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

fe gaiff yr ynad heddwch, drwy gyfrwng gwarant a lofnodir ganddo, awdurdodi arolygydd i fynd i'r safle, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.

(3Caiff arolygydd sy'n mynd i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol, ac wrth ymadael ag unrhyw safle sydd heb ei feddiannu rhaid iddo sicrhau ei fod yn cael ei adael wedi'i gau yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod â phan ddaeth o hyd iddo.

(4Caiff arolygydd—

(a)arolygu ac archwilio unrhyw anifail buchol neu garcas unrhyw anifail o'r fath ar y safle;

(b)gwneud unrhyw brofion mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol neu garcas unrhyw anifail o'r fath ar y safle a chymryd unrhyw samplau ohonynt y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol at ddibenion y Rheoliadau hyn;

(c)marcio unrhyw anifail buchol neu garcas unrhyw anifail o'r fath ar y safle, a hynny at ddibenion adnabod;

(ch)archwilio unrhyw gofnodion, ar ba ffurf bynnag, ar y safle, a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;

(d)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael eu defnyddio neu sydd wedi'u defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw gofnodion a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad, a gall ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n gofalu am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi unrhyw gymorth iddo y gall yn rhesymol ofyn amdano;

(dd)pan fydd cofnodion yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu cynhyrchu ar ffurf y gellir mynd â hwy oddi yno;

(e)mynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol at unrhyw ddiben mewn perthynas â gorfodi'r Rheoliadau hyn; a

(f)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at unrhyw ddiben mewn perthynas â Phenderfyniadau'r Comisiwn gydag ef.

Rhwystro

5.—(1Ni chaiff neb—

(a)rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sydd wrthi yn gweithredu'r Rheoliadau hyn;

(b)methu, heb esgus rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu

(c)darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) uchod fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno pe bai'n gwneud hynny.

Tramgwyddo a chosbi

6.—(1Bydd unrhyw berson sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, y mae'n rhaid iddo yntau eu profi—

(a)yn torri neu yn methu â chydymffurfio â rheoliad 3(1), 3(2) neu 3(4); neu

(b)yn fwriadol yn achosi neu'n caniatáu unrhyw dorri neu fethu â chydymffurfio o'r fath,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod na fydd yn fwy na dwy flynedd neu i'r ddau;

(b)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol neu i garchar am gyfnod na fydd yn fwy na thri mis neu i'r ddau.

Tramgwyddau cyrff corfforaethol

7.—(1Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

neu y gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd yntau, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Gorfodi

8.  Caiff darpariaethau'r Rheoliadau hyn eu gweithredu a'u gorfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr awdurdod lleol.

Diwygio Gorchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Rhif 2) 1996

9.—(1Caiff erthygl 11 of Orchymyn BSE (Rhif 2), i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (1) ar ôl y gair “carcase” caiff y geiriau canlynol eu mewnosod—

or any blood derived from any carcase whether or not the carcase from which it is derived is seized, destroyed or disposed of by an inspector.

(3Ym mharagraff (2)—

(a)ar ôl y gair “carcase”, lle y'i gwelir gyntaf, caiff y geiriau canlynol eu mewnosod—

or any blood derived from any carcase.; a

(b)ar ôl y gair “carcase” lle y'i gwelir wedyn caiff y geiriau canlynol eu mewnosod—

or blood.

(4Ym mharagraff (3), ar ôl y gair “carcases” caiff y geiriau canlynol eu mewnosod—

or any blood derived from the carcases.

Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998

10.—(1Caiff Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(9) eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) ar ôl y diffiniad o “local authority” caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod—

  • “notifiable bovine animal” means a bovine animal over 30 months of age which—

    (a)

    dies on any farm or in transport; or

    (b)

    has been killed otherwise than for human consumption;.

(3Yn rheoliad 26(1) ar ddechrau paragraff (1) caiff y geiriau canlynol eu mewnosod—

Subject to paragraph (1A) below,.

(4Yn rheoliad 26, ar ôl paragraff (1) caiff y paragraff canlynol ei fewnosod—

(1A) If a notifiable bovine animal with a cattle passport dies, the keeper will be treated as having complied with paragraph (1) above if, on notifying the fact in accordance with regulation 3(1) of the BSE Monitoring (Wales) Regulations 2001, the keeper surrenders the cattle passport to the Minister or, where the Minister has appointed an agent to receive notifications, to that agent..

Diwygio Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000

11.—(1Caiff Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000(10) eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1), cyn y diffiniad o “Arolygydd” caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod—

  • ystyr “anifail buchol hysbysadwy” (“notifiable bovine animal”) yw anifail buchol dros 30 mis oed sydd—

    (a)

    yn marw ar unrhyw fferm neu wrth gael ei gludo; neu

    (b)

    sydd wedi'i ladd heblaw i'w fwyta gan bobl;.

(3Yn rheoliad 9 ar y dechrau caiff y geiriau canlynol eu mewnosod—

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod.

(4Yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (1) caiff y paragraff canlynol ei fewnosod—

(2) Os bydd anifail buchol hysbysadwy a chanddo dystysgrif gofrestru yn marw, trinnir y ceidwad fel pe bai wedi cydymffurfio â pharagraff (1) uchod os yw, wrth hysbysu'r ffaith yn unol â rheoliad 3(1) o Reoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001, yw ildio'r dystysgrif gofrestru i'r Cynulliad Cenedlaethol neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi asiant i dderbyn hysbysiadau, i'r asiant hwnnw..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

Dafydd Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i ymdrin yng Nghymru â'r rhwymedigaethau a geir yn y canlynol—

(a)yn erthygl 1.2 o Benderfyniad y Comisiwn 2000/764/EC (OJ Rhif L 305, 6.12.2000, t.35) ynghylch profi anifeiliaid buchol am bresenoldeb enseffalopathi sbyngffurf buchol ac sy'n diwygio Penderfyniad 98/272/EC (OJ Rhif L122, 24.4.1998, t.59) ynghylch arolygiaeth epidemiolegol am enseffalopathïau trosglwyddadwy; a

(b)Penderfyniad y Comisiwn 2001/233/EC (OJ Rhif L 84, 23.3. 2001, t.59) sy'n diwygio Penderfyniad 2000/418/EC o ran cig wedi'i adfer yn fecanyddol ac esgyrn cefn buchol.

Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau sicrhau bod categorïau penodol o anifeiliaid buchol dros 30 mis oed yn cael eu harchwilio yn unol â gofynion rhagnodedig ar gyfer monitro BSE.

Er mwyn i'r rhwymedigaethau hyn gael eu rhoi ar waith, mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei ofal anifail buchol hysbysadwy, a ddiffinnir yn rheoliad 2 fel anifail buchol dros 30 mis oed sy'n marw ar unrhyw fferm neu wrth gael ei gludo neu sydd wedi'i ladd heblaw i'w fwyta gan bobl, roi gwybod am y farwolaeth i'r asiant a benodir at y diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio, tramgwyddo a chosbi a gorfodi.

Mae diwygiadau cysylltiedig, i ymdrin â'r rhwymedigaethau Cymunedol hyn, yn cael eu gwneud i erthygl 11 o Orchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Rhif 2) 1996 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru (O.S. 1996/3183, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2387, O.S. 1998/3071 ac O.S. 1999/921) a rheoliadau 2 a 26 o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/2969 ac O.S. 1999/1339) a rheoliadau 2 a 9 o Reoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) (O.S. 2000/3339 (Cy.217)).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).

(4)

OJ Rhif L 305, 6.12.2000, t.35.

(5)

OJ Rhif L122, 24.4.1998, t.59.

(6)

OJ Rhif L 84, 23.3.2001 t. 59.

(7)

OJ Rhif L 158, 30.6.2000, t. 76, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/2/EC (OJ Rhif L 1, 4.1.2001).

(11)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources