Rheoliadau Grant Prosesu a Marchnata Amaethyddol (Cymru) 2001
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2017-11-10
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol sy'n cael ei rhestru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau (“y ddeddfwriaeth Gymunedol”). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (“cymorth Cymunedol”) tuag at fuddsoddi at ddibenion gwella gwaith prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu o fewn cwmpas y darpariaethau hyn er mwyn caniatáu talu grant tuag at wariant sy'n cael ei dynnu mewn cysylltiad â gweithrediadau sy'n cynnwys gwelliannau o'r fath.
2001 Rhif 2446 (Cy.199)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Grant Prosesu a Marchnata Amaethyddol (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: