Search Legislation

Rheoliadau Grant Prosesu a Marchnata Amaethyddol (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2446 (Cy.199)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Grant Prosesu a Marchnata Amaethyddol (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

03 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

04 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Prosesu a Marchnata Amaethyddol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 04 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “ardal Amcan 1” (“Objective 1 area”) yw'r ardal honno a ddisgrifir ym Mhenderfyniad y Comisiwn dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 (y cyfeirir ato yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn), fel “West Wales and the Valleys”, sef ardaloedd awdurdodau lleol Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili, a Tor-faen;

  • ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person sydd wedi cael cymorth ariannol;

  • ystyr “y CDGC” (“the RDPW”) yw Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000—2006 a gymeradwywyd gan Benderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Hydref 2000 y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Rheoliadau hyn, ac ystyr “y rhan berthnasol o'r CDGC” (“the relevant part of the RDPW”) yw'r rhan honno o'r CDGC sy'n ymwneud â gwariant y gall cymorth gael ei roi ar ei gyfer yn unol ag Erthyglau 4 i 7 a 25 i 28 o Reoliad y Cyngor 1257/1999/EC;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;

  • ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian y trefnir ei fod ar gael gan—

    (a)

    corff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig; neu

    (b)

    y Cymunedau Ewropeaidd;

  • mae i “cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(3);

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial support”) yw swm sy'n cael ei dalu o dan y Rheoliadau hyn neu sy'n daladwy odanynt;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community support”) yw cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop sy'n daladwy yn unol â'r ddeddfwriaeth Gymunedol;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y ddeddfwriaeth Gymunedol” (“the Community legislation”) yw'r offerynnau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn ymwneud â gwariant y gall cymorth gael ei roi ar ei gyfer yn unol ag Erthyglau 4 i 7 a 25 i 28 o Reoliad y Cyngor 1257/1999/EC;

  • ystyr “yr DRS” (“the SPD”) yw'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol y Gymuned o dan Amcan 1 ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a gymeradwywyd gan Benderfyniad y Comisiwn dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 y cyfeirir ato yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”), mewn perthynas ag unrhyw weithrediad, yw gwariant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo ar gyfer derbyn cymorth ariannol, a dehonglir “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) yn unol â hynny;

  • ystyr “gweithrediad” (“operation”) yw buddsoddiad neu brosiect;

  • mae i “mentrau bach a chanolig” yr un ystyr â “small and medium-sized enterprises” yn yr Atodiad i Argymhelliad y Comisiwn (EC) Rhif 96/280 dyddiedig 3 Ebrill 1996 ynghylch diffinio mentrau bach a chanolig(4);

  • ystyr “person a awdurdodwyd” (“authorised person”) yw person a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol naill ai'n gyffredinol neu'n benodol i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn sy'n mynd gyda pherson a awdurdodwyd;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999(5) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2000(6);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF)(7); ac

  • ystyr “ymrwymiad” (“commitment”) yw unrhyw rwymedigaeth a osodir ar fuddiolwr, o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, ac/neu'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir mewn ysgrifen neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebiad electronig sydd wedi'i gofnodi ac a all gael ei atgynhyrchu o ganlyniad i hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud.

Grantiau Prosesu a Marchnata

3.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant, o'r enw Grant Prosesu a Marchnata, tuag at wariant a gymeradwywyd sy'n cael ei dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad.

(2Ni chaiff grant ei dalu o dan paragraff (1) pan fydd cost gweithrediad yn llai na £40,000.

(3£1,200,000 fydd uchafswm y grant sy'n daladwy o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw weithrediad penodol.

Grantiau Bach Prosesu a Marchnata

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant, o'r enw Grant Bach Prosesu a Marchnata, i fuddiolwr tuag at wariant a gymeradwywyd sy'n cael ei dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad.

(2Caiff grant ei dalu o dan paragraff (1) dim ond pan fydd cost gweithrediad yn fwy na £1,500 ond yn llai na £40,000.

(3Os nad yw'r gweithrediad wedi'i leoli yn ardal Amcan 1, cyfyngir y cymhwyster i gael grant o dan baragraff (1) i unigolion y mae ganddynt ddaliad amaethyddol wedi'i gofrestru.

Swm y Grant

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni fydd swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 3 neu 4 yn fwy na'r canlynol

(a)30 y cant o'r gwariant a gymeradwywyd; neu

(b)os yw'r gweithrediad o dan sylw wedi'i leoli yn ardal Amcan 1, 40 y cant o'r gwariant a gymeradwywyd.

(2Os oes unrhyw grant arall yn daladwy o gronfeydd cyhoeddus mewn perthynas â'r gwariant a gymeradwywyd, y swm a fyddai, o'i ychwanegu at y grant arall hwnnw yn hafal i 30 y cant, neu yn achos gweithrediadau yn ardal Amcan 1, 40 y cant o'r gwariant a gymeradwywyd, fydd swm y grant sy'n daladwy.

Cymeradwyo gwariant

6.—(1Rhaid i gais am gymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â gweithrediad gael ei wneud ar y ffurf ac ar yr adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i gais gynnwys unrhyw wybodaeth arall y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â gweithrediad, neu ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ond, wrth wneud y naill neu'r llall, rhaid iddo roi sylw i'r manteision a gâi cymeradwyaeth o'r fath ar gyfer mentrau bach a chanolig, a beth bynnag ni chaiff ei gymeradwyo oni bai ei fod wedi'i fodloni ei fod yn gymwys i gael cymorth Cymunedol a'i fod yn cyd-fynd â'r rhan berthnasol o'r CDGC a/neu'r DRS.

(4Gall cymeradwyaeth gael ei rhoi o dan unrhyw amodau y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio unrhyw gymeradwyaeth o'r fath drwy amrywio unrhyw amod y mae'n ddarostyngedig iddo, neu drwy osod amodau.

(6Cyn amrywio cymeradwyaeth o dan baragraff (5), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r buddiolwr ei fod yn bwriadu gwneud hynny gyda datganiad o'i resymau;

(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

(7Rhaid i gymeradwyaeth neu amrywiad o dan y rheoliad hwn fod mewn ysgrifen.

Hawliadau

7.  Rhaid i hawliad am gymorth ariannol gael ei wneud ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ffurf a chael ei anfon ynghyd ag unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

Talu

8.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant mewn perthynas â gwariant a gymeradwywyd mewn cysylltiad â gweithrediad fel un cyfandaliad neu fesul rhandaliad.

(2Gall taliadau gael eu gwneud—

(a)ar unrhyw adeg neu adegau y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn rhesymol arnynt; a

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.

Gwybodaeth

9.—(1Rhaid i fuddiolwr roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth am unrhyw wariant a gymeradwywyd ac unrhyw weithrediad y mae gwariant o'r fath yn cael ei dynnu mewn cysylltiad ag ef ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth o'r fath, rhaid i'r buddiolwr ei rhoi o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn rhesymol arno.

Cadw cofnodion

10.—(1Rhaid i fuddiolwr gadw unrhyw anfoneb, cyfriflen neu ddogfen arall sy'n ymwneud â'r gwariant a gymeradwywyd neu ag unrhyw weithrediad y mae gwariant o'r fath yn cael ei dynnu mewn cysylltiad ag ef am y cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau ar y diwrnod y gwneir y taliad cymorth ariannol olaf iddo o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r gwariant neu'r gweithrediad hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3).

(2Os bydd buddiolwr yn trosglwyddo copi gwreiddiol unrhyw ddogfen i berson arall yng nghwrs arferol busnes, rhaid i'r buddiolwr gadw copi o'r ddogfen am y cyfnod hwnnw.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r ddogfen wedi'i chymryd gan unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi'n gyfreithiol i'w chymryd.

Pwerau personau awdurdodedig

11.—(1Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, caiff swyddog awdurdodedig fynd ar bob adeg resymol i unrhyw dir heblaw tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion ty annedd yn unig:—

(a)y mae cymorth ariannol neu ymrwymiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)y mae ganddo sail resymol dros gredu bod dogfennau sy'n ymwneud â chymorth ariannol neu ag ymrwymiad yn cael eu cadw yno,

at unrhyw un o'r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r dibenion hynny—

(a)archwilio'r tir y mae cymorth ariannol neu ymrwymiad yn ymwneud ag ef;

(b)cadarnhau bod unrhyw wybodaeth a roddwyd gan fuddiolwr sy'n ymwneud â chymorth ariannol neu ymrwymiad yn gywir; ac

(c)darganfod a yw buddiolwr wedi cydymffurfio ag ymrwymiad neu beidio.

(3Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i unrhyw dir o dan baragraff (1)—

(a)archwilio'r tir ac unrhyw ddogfen, cofnod neu offer arno, y mae'n credu'n rhesymol eu bod yn ymwneud â chymorth ariannol neu ag ymrwymiad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r buddiolwr, neu i unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr o'r fath, gyflwyno neu sicrhau y cyflwynir, unrhyw ddogfen neu roi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth sy'n ymwneud â chymorth ariannol neu ymrwymiad;

(c)os oes unrhyw wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio i storio'r wybodaeth honno, a'i gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth gael ei chyflwyno mewn ffurf sy'n ddarllenadwy ac a all gael ei chymryd i ffwrdd;

(ch)ei gwneud yn ofynnol i gopïau neu ddetholiadau o unrhyw ddogfen neu gofnod arall o'r fath y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) yn cael eu cyflwyno;

(d)cadw copi o unrhyw ddogfen a gyflwynir iddo; ac

(dd)cipio a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod arall y mae'n credu'n rhesymol y gall fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i fuddiolwr neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr roi i berson awdurdodedig bob cymorth rhesymol mewn perthynas ag arfer ei bwerau o dan baragraffau (1) a (3).

(5Caiff person awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw dir o dan baragraff (1) fynd yng nghwmni—

(a)unrhyw swyddog o'r Comisiwn, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol,

a bydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw bersonau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) wrth weithredu o dan gyfarwyddiadau person awdurdodedig, fel pe bai'n berson awdurdodedig.

Torri ymrwymiadau

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2)—

(a)os oes unrhyw wybodaeth a roddir gan fuddiolwr i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ffug neu'n gamarweiniol,

(b)os yw'r buddiolwr yn torri unrhyw un o delerau ymrwymiad,

(c)os yw'r buddiolwr yn torri unrhyw ofyniad y mae'n ddarostyngedig iddo o dan y Rheoliad hwn neu o dan ddeddfwriaeth y Gymuned, neu

(ch)os byddai'r cyfan neu unrhyw ran o'r cymorth ariannol yn dyblygu cymorth a ddarparwyd neu sydd i'w ddarparu, ag arian y trefnwyd ei fod ar gael—

(i)gan y Cymunedau Ewropeaidd;

(ii)gan y Cynulliad Cenedlaethol; neu

(iii)gan gorff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer y pwerau a nodir yn rheoliad 14(1).

(2At ddibenion paragraff (1) (ch), mae swm yn dyblygu cymorth o'r fath os câi ei dalu ar gyfer unrhyw un o'r un dibenion.

(3Os bydd—

(a)buddiolwr wedi trosglwyddo'r cyfan neu ran o'r tir y mae ymrwymiad yn ymwneud ag ef i berson arall (“y trosglwyddai”),

(b)y trosglwyddai, o fewn tri mis o ddyddiad y trosglwyddiad, wedi rhoi ymrwymiad i'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn ymgymryd â'r ymrwymiad yn lle'r buddiolwr, ac

(c)y Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn yr ymgymeriad hwnnw,

caiff y buddiolwr ei ryddhau o'i ymrwymiad, heblaw mewn perthynas ag unrhyw doriad neu fater arall sy'n digwydd cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol dderbyn ymgymeriad y trosglwyddai.

Achosion eraill lle mae pwerau adennill etc. yn gymwys

13.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer y pwerau a bennir ym mharagraffau 1(a) a (b) o reoliad 14—

(a)os oes newid o sylwedd wedi bod yn natur, graddfa, costau neu amseriad y gweithrediad y mae cymorth ariannol wedi'i roi neu y mae ymrwymiad wedi'i wneud mewn perthynas ag ef; neu

(b)os yw'r gweithrediad y rhoddwyd y cymorth ariannol neu y gwnaed yr ymrwymiad mewn perthynas ag ef wedi'i ohirio neu'n cael ei ohirio, neu'n annhebyg o gael ei gwblhau.

Pwerau'r Cynulliad i adennill etc

14.—(1Y pwerau a roddir gan reoliadau 12(1) ac 13 yw—

(a)dal y cyfan neu unrhyw ran o'r symiau sy'n daladwy i'r buddiolwr yn ôl; a

(b)adennill ar gais y cyfan neu ran o'r symiau sydd eisoes wedi'u talu i'r buddiolwr.

(2Pan fydd yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 12(1) wedi eu bwriadu gan y buddiolwr, neu'n codi oherwydd iddo fod yn ddi-hid, caiff y Cynulliad Cenedlaethol hefyd fynnu bod y buddiolwr yn talu iddo swm ychwanegol sy'n cyfateb i ddim mwy na 10% o'r symiau a dalwyd neu sy'n daladwy iddo neu iddi.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), caiff hefyd atal neu derfynu unrhyw gymorth ariannol a/neu unrhyw ymrwymiad a wnaed gan fuddiolwr, ac o wneud hynny bydd unrhyw hawl sydd gan y buddiolwr i gael taliad mewn perthynas â'r cyfnod o'r ymrwymiad sydd heb ddod i ben hefyd yn cael ei hatal neu ei therfynu yn ôl fel y digwydd.

(4Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn terfynu ymrwymiad o dan baragraff (3), caiff hefyd wahardd y buddiolwr rhag gwneud unrhyw ymrwymiad newydd am unrhyw gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) o'r dyddiad terfynu y mae'n ei bennu.

(5Bydd y pwerau a roddir i'r Cynulliad gan baragraffau (2), (3) a (4) yn arferadwy drwy gyfrwng hysbysiad a gyflwynir i'r buddiolwr drwy'r post yn ei gyfeiriad hysbys diwethaf, ac ym mharagraff (4) ystyr “ei bennu” yw ei bennu mewn hysbysiad o'r fath.

(6Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), (2), (3) neu (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr am y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

Adennill Llog

15.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfer y pŵer a roddir gan reoliad 14(1)(b), fe gaiff hefyd adennill llog ar y swm sydd i'w adennill, ar gais, ac un y cant uwchben LIBOR fesul dydd fydd y gyfradd llog.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “LIBOR” yw'r gyfradd sterling sy'n cael ei gynnig rhwng banciau Llundain am dri mis sydd mewn grym rhwng y dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y taliad sydd i'w adennill a'r dyddiad y mae'n ei adennill.

(3Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan y LIBORa oedd yn gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r gyfradd a oedd yn gymwys yn ystod y cyfnod penodedig os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi rhoi gwybod am y gyfradd honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol i fod yn adenilladwy fel dyled

16.  Mewn unrhyw achos lle mae swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y rheoliadau hyn (neu yn rhinwedd cam a gymerir odanynt), bydd y swm sydd i'w dalu felly yn adenilladwy fel dyled.

Tramgwyddo a chosbi

17.—(1Mae person yn euog o dramgwydd os yw—

(a)er mwyn sicrhau cymorth ariannol o dan y Rheoliadau hyn iddo'i hun neu i unrhyw berson arall, yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol; neu

(b)yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig (neu berson sy'n mynd gyda pherson awdurdodedig ac sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau) wrth arfer ei bwerau o dan reoliad 11.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1)(a) yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1)(b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4Rhaid peidio â dechrau erlyniad ynglŷn â thramgwydd o dan baragraff (1) a all gael ei brofi, yn rhinwedd paragraff 2(a), yn ddiannod, ar ôl i dair blynedd ddod i ben o gyflawni'r tramgwydd neu un flwyddyn o'r dyddiad y cafodd yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos, pa bynnag un sydd gyntaf.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys—

(a)bydd datganiad o'r dyddiad y cafodd yr erlynydd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'i gynnwys os yw wedi'i lofnodi gan yr erlynydd neu ar ei ran; a

(b)trinnir datganiad sy'n ymhonni ei fod wedi'i lofnodi felly fel pe bai wedi'i lofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

(6Pan brofir bod tramgwydd o dan y rheoliad hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff hwnnw, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, mae'r person hwnnw hefyd yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(7Pan fydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (6) yn gymwys i weithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr.

Diddymiadau ac eithriad trosiannol

18.—(1Mae Rheoliadau Grantiau Marchnata a Phrosesu Amaethyddol 1995(8) (“Rheoliadau 1995”), yn ddarostyngedig i baragraff (2) drwy hyn yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(2Ni fydd y diddymiad ym mharagraff (1) yn effeithio ar barhad rheoliadau 4(3), 4(4) a 5 i 8 o Reoliadau 1995 mewn perthynas â chymorth ariannol sy'n cael ei dalu o dan y Rheoliadau hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Gorffennaf 2001

Rheoliad 2(1)

YR ATODLENYSTYRY DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

1.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80).

2.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 dyddiedig 23 Gorffennaf 1999 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) (OJ Rhif L214, 13.8.99, t.32) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2000 dyddiedig 29 Medi 2000 (OJ Rhif L246, 30.9.2000, t.46).

3.  Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2932 dyddiedig 11 Hydref 2000 yn cymeradwyo dogfen rhaglen datblygu gwledig ar gyfer Cymru (DU) ar gyfer cyfnod rhaglennu 2000—06.

4.  Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2049 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer Cymorth Strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1, ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn y Deyrnas Unedig.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol sy'n cael ei rhestru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau (“y ddeddfwriaeth Gymunedol”). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (“cymorth Cymunedol”) tuag at fuddsoddi at ddibenion gwella gwaith prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu o fewn cwmpas y darpariaethau hyn er mwyn caniatáu talu grant tuag at wariant sy'n cael ei dynnu mewn cysylltiad â gweithrediadau sy'n cynnwys gwelliannau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth, fel rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru (“y CDGC”) a'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 ar gyfer y Gorllewin a'r Cymoedd (“yr DRS”), i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) dalu grantiau mewn perthynas ag unrhyw wariant y mae wedi'i gymeradwyo (rheoliadau 3 a 4).

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer talu dau fath o grant: Grant Prosesu a Marchnata (mewn perthynas â gweithrediadau sy'n costio £40,000 a throsodd), a Grant Bach Prosesu a Marchnata (mewn perthynas â gweithrediadau sy'n costio mwy na £1,500 a llai na £40,000).

30 y cant o'r gwariant a gymeradwywyd yw uchafswm y grant sydd i fod ar gael, neu 40 y cant o'r gwariant hwnnw os yw'r gweithrediad wedi'i leoli yn ardal Amcan 1 (rheoliad 5). Gall gwariant o'r fath gael ei gymeradwyo os yw'n gymwys i gael cymorth o dan y ddeddfwriaeth Gymunedol ac yn wariant sy'n dod o fewn y rhannau hynny o'r CDGC neu'r DRS sy'n ymwneud â gwella prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol (rheoliad 6).

Yn benodol, mae'r Rheoliadau'n gweithredu ac yn cydategu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80) (“Rheoliad y Comisiwn”). Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am grantiau. a thalu grantiau, yn sgil cymeradwyaeth (rheoliadau 7 ac 8) ac ar gyfer darparu gwybodaeth, a chadw cofnodion, gan y rhai sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 9 a 10). Mae rheoliad 11 yn rhoi pwerau mynediad a phwerau archwilio i bersonau awdurdodedig penodol (gan gynnwys swyddogion o'r Comisiwn Ewropeaidd).

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu Erthygl 48(2) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau i'w gosod os caiff rhwymedigaeth ei thorri) drwy roi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol ddal taliadau'n ôl neu eu hadennill ac i gymryd camau penodol eraill, gan gynnwys terfynu'r ymrwymiad (a therfynu'r hawl i gael taliadau mewn perthynas ag ef), os caiff rhwymedigaeth sy'n codi o dan y rheoliadau ei thorri gan rywun sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 12, 13 a 14).

Mae rheoliad 15 yn darparu pŵer i godi llog ar symiau a gaiff eu hadennill ac mae rheoliad 16 yn darparu bod symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol yn adenilladwy fel dyledion.

Mae'r rheoliadau hefyd yn creu tramgwyddau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth ffug er mwyn sicrhau cymorth ac mewn perthynas â rhwystro personau awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau (rheoliad 17).

Yn ddarostyngedig i eithriad trosiannol, mae'r Rheoliadau'n diddymu Rheoliadau Grantiau Prosesu a Marchnata Amaethyddol 1995 (O.S. 1995/362).

Mae copïau o Benderfyniadau'r Comisiwn y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 a 4 o'r Atodlen, y CDGC a'r DRS ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).

(4)

OJ Rhif L107, 30.4.96, t.4.

(5)

OJ Rhif L214, 13.8.1999, t.31.

(6)

OJ Rhif L246, 30.9.2000, t.46.

(7)

OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.80.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources