2001 Rhif 2501 (Cy.204)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 20001.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

2

Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

3

Yn y Rheoliadau hyn mae'r cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

4

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adroddiad arolygu” (“inspection report”) yw adroddiad ar arolygiad neu arolygiad ardal y mae'n ofynnol i'r Prif Arolygydd ei wneud o dan adran 76(2)(c), 77(3) neu 83(8);

  • ystyr “arolygiad” (“inspection”) (heb ragor) yw arolygiad addysg neu hyfforddiant y mae adran 75 wedi dod ag ef o fewn cylch gwaith y Prif Arolygydd, ond nid yw'n cynnwys arolygiad ardal;

  • ystyr “arolygiad ardal” (“area inspection”) yw arolygiad o dan adran 83;

  • ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw'r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn adran 80(3), 84(2) neu 84(3);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly” ) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵ yl banc nac yn rhan o wyliau hwy nag wythnos sy'n cael eu cymryd gan y sefydliad o dan sylw (pan fydd yr addysg a'r hyfforddiant sy'n cael eu harolygu yn cael eu darparu mewn sefydliad addysgol); ac

  • ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru2.

Ysbeidiau arolygu2

Mae arolygiadau i'w cynnal o fewn pum mlynedd i'r dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, ac yna o fewn pob pum mlynedd i'r arolygiad diweddaraf.

Adroddiadau arolygu3

Rhaid gwneud adroddiadau arolygu o fewn y cyfnod o 55 niwrnod gwaith o'r dyddiad y mae'r arolygiad neu'r arolygiad ardal yn cael ei gwblhau, neu pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw.

Cynlluniau gweithredu4

1

Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu o fewn y cyfnod o 40 niwrnod gwaith neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith o'r dyddiad (yn y naill achos neu'r llall) y cafodd y corff o dan sylw gopi o'r adroddiad arolygu.

2

Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu drwy drefnu ei fod ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y corff o dan sylw, ac ar unrhyw wefan sydd gan y corff hwnnw ar y rhyngrwyd.

3

Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu at bob un o'r canlynol—

a

y Prif Arolygydd;

b

y Cynulliad Cenedlaethol;

c

Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

ch

unrhyw awdurdod addysg lleol neu gorff neu berson arall sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer unrhyw addysg neu hyfforddiant a arolygwyd (oni bai mai'r awdurdod, y person neu'r corff hwnnw sydd wedi paratoi'r cynllun gweithredu).

4

Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu hefyd at unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n gofyn am gopi (yn ddi-dâl).

5

Yn y rheoliad hwn, ystyr “y corff o dan sylw” (“the body concerned”) yw'r corff y mae'n ofynnol, o dan adran 80(3) neu is-adran (2) neu (3) o adran 84 (yn ôl fel y digwydd), iddo baratoi'r cynllun gweithredu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D.Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan IV o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn estyn cylch gwaith Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i gynnwys y mathau o addysg a hyfforddiant y cyfeirir atynt yn adran 75 o'r Ddeddf honno. Mae'r fframwaith ar gyfer arolygiadau o'r fath wedi'i nodi yn y Ddeddf, ond mae'r Ddeddf yn darparu i lawer o'r manylion gael eu nodi mewn Rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol. O dan y Ddeddf rhaid i arolygiadau gael eu cynnal mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant penodol y mae'r Ddeddf yn dod â hwy o fewn cylch gwaith Prif Arolygydd Cymru, ond gall y Prif Arolygydd gynnal arolygiadau ardal hefyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â'r ddau fath o arolygu.

Mae Rheoliad 1 yn cynnwys diffiniadau.

Mae Rheoliad 2 yn darparu bod arolygiadau addysg neu hyfforddiant penodol i'w cynnal bob pum mlynedd.

Mae Rheoliad 3 yn nodi o fewn pa gyfnod y mae rhaid i adroddiadau arolygu gael eu gwneud (ar gyfer arolygiadau ac arolygiadau ardal).

Mae Rheoliad 4 yn nodi o fewn pa gyfnod y mae rhaid cyhoeddi cynlluniau gweithredu ac yn darparu ar gyfer dull cyhoeddi cynlluniau o'r fath. Mae'n pennu hefyd y personau neu'r cyrff y mae'n rhaid anfon copi o gynllun gweithredu atynt. Mae'n gymwys i arolygiadau ac arolygiadau ardal.