Search Legislation

Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2536 (Cy.211)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

10 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

1 Medi 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 50 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986(1), ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” gan adran 2 o Ddeddf Addysg 1996(3);

  • ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sydd—

    (a)

    yn athro neu athrawes gymwysedig yn unol â darpariaeth a wnaed gan neu o dan reoliadau a wnaed ar gyfer naill ai Cymru neu Loegr o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4); neu

    (b)

    yn athro neu athrawes gymwysedig yn ôl penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed felly;

  • ystyr “cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach” (“post-graduate FE teacher training course”) yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon sydd—

    (a)

    yn cael ei ddarparu mewn sefydliad achrededig yng Nghymru; a

    (b)

    wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ddarparydd cyrsiau sy'n bodloni unrhyw ddarpariaethau ynghylch cwricwla a meini prawf eraill a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol(5).

Cymhellion i bersonau ddilyn hyfforddiant athrawon addysg bellach

3.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y rheoliad hwn yn gymhellion i bersonau cymwys ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach.

(2Mae'r pŵ er a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan baragraff (1) uchod yn cynnwys pŵ er i dalu grant i berson cymwys os yw'r person hwnnw—

(a)wedi cwblhau cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus mewn sefydliad yn Lloegr sydd wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;

(b)wedi cael swm llawn unrhyw randaliadau grant a oedd yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod pryd yr oedd yn dilyn y cwrs o dan unrhyw drefniadau a oedd yn gymwys yn Lloegr y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni eu bod yn cyfateb i'r trefniadau a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac

(c)wedi ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach ac sydd wedi'i leoli yng Nghymru.

(3Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr “cymwys” yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(6).

Amodau

4.—(1Rhaid peidio â thalu unrhyw daliad o dan reoliad 3 i berson—

(a)sydd wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2001 o fath sydd wedi'i ddylunio'n benodol i alluogi personau sy'n dilyn y cwrs i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliad neu mewn man arall sy'n darparu addysg bellach;

(b)sydd wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon cyn 1 Medi 2001 o fath sy'n arwain person sy'n ei gwblhau'n llwyddiannus i ddod yn athro neu athrawes gymwysedig; neu

(c)sy'n dilyn (ond nad yw wedi cwblhau) cwrs o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2001.

(2Rhaid peidio â thalu unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw bryd a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol a chan gynnwys unrhyw fanylion a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid peidio â chymryd bod dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu pŵ er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3.

Amodau Pellach

5.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion y bydd grant a delir yn unol â rheoliad 3 yn ad-daladwy odanynt.

(2Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir gosod gofyniad o dan baragraff (1)—

(a)os yw'n ofyniad sydd â'r nod o sicrhau bod diben rhoi'r grant yn cael ei gyflawni;

(b)os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu'r grant os yw'r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad grant, yn methu â bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwyster a fabwysiedir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu

(c)os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu grant os yw'r derbynnydd wedi rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu yn sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant neu mewn perthynas ag ef.

Swm y grant a thaliadau grant

6.—(1Rhaid i grantiau o dan reoliad 3 beidio â bod yn fwy nag unrhyw symiau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Gellir penderfynu ar wahanol symiau o dan baragraff (1) ar gyfer gwahanol achosion ac amgylchiadau.

(3Yn achos grant sy'n daladwy i berson yn rhinwedd rheoliad 3(2), rhaid i'r cyfanswm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol beidio â bod yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng swm y grant y mae wedi'i gael oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y trefniadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr a'r swm y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) uchod fel yr uchafswm sy'n daladwy i berson sydd—

(a)yn cwblhau yn llwyddiannus, mewn sefydliad achrededig, gwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach o'r un disgrifiad â'r cwrs yn y sefydliad yn Lloegr;

(b)yn bodloni'r holl amodau perthnasol a geir yn y Rheoliadau hyn; ac

(c)yn bodloni unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3 a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn cyfandaliad neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall yng Nghymru sy'n darparu addysg bellach.

(5Yn achos unrhyw grant sy'n daladwy tra bydd person yn dilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi arian i sefydliad achrededig i'w dalu i'r person hwnnw ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

John Marek

Dirpwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Gorffennaf 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan y Rheoliadau hyn caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau fel cymhellion i annog mwy o bobl i ddilyn cyrsiau ôl-raddedig o hyfforddiant sy'n seiliedig mewn colegau ac sydd wedi'u dylunio'n unswydd i'w paratoi i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliadau addysg bellach neu mewn mannau eraill.

O dan y Rheoliadau, caiff y Cynulliad Cenedlalaethol dalu'r grant i gyd tra bod y derbynnydd yn dilyn yr hyfforddiant neu, ar y llaw arall, dalu rhan o'r grant tra bod y derbynnydd yn dilyn yr hyfforddiant a thalu rhan ar ôl iddo neu iddi gwblhau'r hyfforddiant ac ymgymryd â swydd addysgu. Yn yr achos olaf, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos person sy'n cael rhandaliadau grant mewn perthynas â chwrs mewn sefydliad yn Lloegr y mae grantiau tebyg yn daladwy ar ei gyfer o dan drefniadau cyfochrog, dalu unrhyw randaliadau sy'n weddill y byddai gan y person hwnnw hawl iddynt o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi cwblhau cwrs yng Nghymru y byddai grant wedi'i dalu ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 3 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dalu grantiau fel cymhellion i bersonau sy'n gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr i ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon o'r math y cyfeirir atynt uchod.

Mae Rheoliad 4 yn nodi nifer o achosion lle na ellir talu grantiau o dan Reoliad 3, ond yn darparu nad yw hyn yn cyfyngu ar bŵ er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf cymhwyster ar gyfer grantiau o'r fath.

Mae Rheoliad 5 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu grant o dan Reoliad 3 ar yr amod ei bod yn ofynnol ei ad-dalu o dan amgylchiadau penodedig.

Mae Rheoliad 6 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu swm y grant, y gellir ei dalu naill ai mewn cyfandaliad neu mewn rhandaliadau (y gellir gohirio rhai ohonynt hyd nes bod y person wedi cwblhau'r cwrs ac wedi ymgymryd â swydd addysgu). Mae hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfeirio taliadau'r grant drwy'r sefydliad sydd o dan sylw.

(1)

1986 p.61. Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107(a) o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

1988 p.40. Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)) a Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166) yw'r Rheoliadau cyfredol.

(5)

Gellir cael rhestr o'r sefydliadau achrededig cyfredol oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn Linden Court, The Orchards, Ty Glas Avenue, Llanisien, Caerdydd, CF4 5DZ.

(6)

1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001 (O.S. 2001/951) yw'r Rheoliadau cyfredol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources