Search Legislation

Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2537 (Cy.212)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

10 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddaliadau amaethyddol, y mae'r cyfan neu ran ohonynt wedi eu lleoli yng Nghymru, ac y mae ceisiadau am daliad yn unol a'r System Integredig Gweinyddu a Rheoli yn cael eu gwneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “blwyddyn IACS” (“IACS year”) yw cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 16 Mai ac ystyr “blwyddyn IACS 2001” (“IACS year 2001”) yw cyfnod felly yn dechrau ar 16 Mai 2001;

  • ystyr “cynllun IACS” (“IACS scheme”) yw un o gynlluniau'r System Integredig Gweinyddu a Rheoli Cymunedol a nodir yn Erthygl 1.1 o Reoliad y Cyngor 3508/92; mae i “daliad” yr un ystyr â “holding” yn Rheoliad y Cyngor Rhif 3508/92;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 3887/92” (“Commission Regulation 3887/92”) yw Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3887/92 (2) sy'n nodi'r rheolau ar gyfer cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth Cymunedol penodol fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC Rhif 229/95(3), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1648/95(4), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2015/95(5)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 613/97(6), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1678/98(7)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2801/1999(8) a Rheoliad y Comisiwn 2721/2000(9); ac

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3508/92(10)) sy'n sefydlu system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth Cymunedol penodol fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 3235/1994(11), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 3072/1995(12)), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1577/96(13), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2466/96(14), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 613/97(15), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1593/2000(16) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 495/2001(17)).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson y cyfeirir penderfyniad ato, ceisydd ar gyfer adolygiad neu berson sy'n apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw olynydd, ysgutor, ymddiredolwr mewn methdaliad, derbynnydd neu ddatodwr i berson neu geisydd o'r fath.

Cymhwyso

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i benderfyniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 isod mewn perthynas â daliadau a weinyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993(18).

Penderfyniadau y mae modd eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn

4.  Gellir adolygu'r penderfyniadau canlynol ac apelio yn eu herbyn yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn —

(a)penderfyniad, o dan Reoliad y Comisiwn 3887/92 neu yn unol ag ef (gan gynnwys unrhyw beth a wneir yn unol ag Erthygl 11.1 o'r Rheoliad), gan y Cynulliad Cenedlaethol i wrthod, gostwng neu adennill (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) taliad o dan unrhyw gynllun a bennir yn yr Atodlen ar gyfer blwyddyn IACS 2001 neu unrhyw flwyddyn IACS wedi hynny, a chan gynnwys taliadau a wneir o dan y Cynllun Tir Mynydd yn 2001; a

(b)penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chwotau defaid a gwartheg at ddibenion y polisi amaethyddol cyffredin, ond dim ond ynghylch ceisiadau am gymorthdaliadau ar gyfer blwyddyn IACS 2001 neu unrhyw flwyddyn IACS wedi hynny ac nid ynghylch unrhyw flynyddoedd cyn hynny.

Adolygu penderfyniadau – Cam 1

5.—(1Caiff person y mae penderfyniad a grybwyllir yn rheoliad 4 uchod yn cael ei gyfeirio ato, wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol ymhen heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r person hwnnw am y penderfyniad i'w adolygu, am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.

(2Rhaid i gais am adolygiad fod yn ysgrifenedig ar ffurf a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo nodi —

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd, ac ar ba sail y ceisir yr adolygiad;

(b)y cynllun cymhorthdal y ceisir yr adolygiad mewn perthynas ag ef a'r flwyddyn IACS y cyfeiriodd y penderfyniad ati;

(c)y penderfyniad sydd i'w adolygu a'i ddyddiad;

(ch)manylion llawn y seiliau y ceisir yr adolygiad arnynt; a

(d)y newid yn y penderfyniad a geisir.

(3Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn y Swyddfa Ranbarthol y gwnaed y penderfyniad gwreiddiol ynddi.

6.—(1Pan wneir cais o dan reoliad 5 uchod, rhaid i bennaeth Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r penderfyniad a bennir ynddo.

(2Wrth adolygu penderfyniad caiff y pennaeth y Swyddfa Ranbarthol—

(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a ddangosir gan y ceisydd (p'un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael adeg y penderfyniad gwreiddiol neu beidio);

(b)gwahodd y ceisydd i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r ceisydd yn credu ei bod yn briodol; ac

(c)rhoi cyfle i'r ceisydd i gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig.

7.—(1Yn dilyn adolygiad o benderfyniad yn unol â rheoliad 6 uchod caiff pennaeth Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)cadarnhau'r penderfyniad;

(b)diwygio neu newid y penderfyniad mewn unrhyw agwedd y mae yn credu ei bod yn briodol; neu

(c)diddymu'r penderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.

(2Rhaid i bennaeth y Swyddfa Ranbarthol roi ei benderfyniad o dan baragaff (1) uchod yn ysgrifenedig, gan nodi'r ffeithiau y seilir y penderfyniad arnynt a'r rhesymau dros y penderfyniad.

(3Mewn achos pan na fydd penderfyniad yn darparu'r rhwymedi a bennir gan y ceisydd yn unol â rheoliad 5(2)(d) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnig cyfle i'r ceisydd gael adolygiad o'i benderfyniad o dan y rheoliad hwn gan yr Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol.

Adolygu penderfyniadau – Cam 2

8.—(1Caiff person y mae penderfyniad a adolygwyd yn unol â rheoliad 7 uchod yn cael ei gyfeirio ato, wneud cais i Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol ymhen heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r ceisydd am y penderfyniad a adolygwyd, am adolygiad pellach o'r penderfyniad hwnnw.

(2Rhaid i gais am adolygiad pellach fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu —

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd, ac ar ba sail y ceisir yr adolygiad;

(b)y cynllun cymhorthdal y ceisir yr adolygiad mewn perthynas ag ef a'r flwyddyn IACS y cyfeiriodd y penderfyniad ati;

(c)y penderfyniad gan y Swyddfa Ranbarthol sydd i'w adolygu a'i ddyddiad;

(ch)manylion llawn y seiliau y ceisir yr adolygiad pellach arnynt; a

(d)y newid yn y penderfyniad a geisir .

(3Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei swyddfeydd ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ wedi'i farcio “ar gyfer yr Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol ”.

9.—(1Pan wneir cais o dan reoliad 8 uchod, rhaid i Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r penderfyniad a bennir ynddo.

(2Wrth adolygu penderfyniad caiff yr Uned Apelau —

(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a ddangosir gan y ceisydd (p'un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael adeg y penderfyniad gwreiddiol neu gam cyntaf yr adolygiad neu beidio);

(b)gwahodd y ceisydd i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r ceisydd yn credu ei bod yn briodol; ac

(c)rhoi cyfle i'r ceisydd i gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig.

10.—(1Yn dilyn adolygiad o benderfyniad yn unol â rheoliad 9 uchod caiff Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)cadarnhau y penderfyniad;

(b)diwygio neu newid y penderfyniad mewn unrhyw agwedd y mae yn credu ei bod yn briodol; neu

(c)diddymu'r penderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.

(2Rhaid i'r Uned Apelau roi ei benderfyniad o dan baragaff (1) uchod yn ysgrifenedig, gan nodi'r ffeithiau y seilir y penderfyniad arnynt a'r rhesymau dros y penderfyniad.

(3Mewn achos pan na fydd penderfyniad yn darparu'r rhwymedi a bennir gan y ceisydd yn unol â rheoliad 8(2)(d) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnig cyfle i'r ceisydd apelio yn erbyn y penderfyniad a adolygwyd i bersonau a benodir ganddo.

Cam 3 – Apelau i bersonau a apwyntiwyd

11.—(1Caiff person y mae rheoliad 10(3) yn gymwys iddo, wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn pen 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod iddo neu iddi am y penderfyniad o dan reoliad 10 uchod, am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw gan bersonau a benodwyd ganddo.

(2Pan fydd y penderfyniad sydd i'w adolygu yn benderfyniad o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 10(1)(b) neu (c) gall y ceisydd ategu'r cais gwreiddiol o dan reoliad 8(2) uchod fel y bydd natur y penderfyniad hwnnw yn gofyn amdano.

(3Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu swyddfeydd ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ wedi'i farcio “ar gyfer yr Ysgrifenyddiaeth Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol” a bod y ffi ganlynol wedi'i amgáu gyda'r cais:

(a)£100 yn achos apêl y mae'r ceisydd am gael gwrandawiad llafar ar ei gyfer; a

(b)£50 yn achos apêl y mae'r ceisydd yn fodlon iddo gael ei ystyried heb wrandawiad llafar.

12.—(1Pan wneir cais o dan reoliad 11, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi y personau hynny y mae yn credu eu bod yn briodol i adolygu'r penderfyniad a rhoi copïau o'r canlynol i'r personau hynny —

(a)y cais;

(b)y penderfyniad o dan reoliad 10 uchod; ac

(c)unrhyw ddogfen neu nodyn o dystiolaeth a ddangoswyd neu a gymerwyd mewn perthynas ag adolygiad blaenorol.

(2Rhaid i'r personau a benodir o dan y rheoliad hwn adolygu'r penderfyniad ac fe gânt —

(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a ddangosir gan y ceisydd neu'r Cynulliad Cenedlaethol (p'un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael adeg y penderfyniad o dan reoliad 10 uchod neu beidio);

(b)gwahodd y ceisydd a'r Cynulliad Cendlaethol i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad y mae'r personau a benodir yn credu eu bod yn briodol; ac

(c)rhoi cyfle i'r ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol roi tystiolaeth neu wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu ar lafar yn ddibynnol ar y ffurf o apêl y gofynnodd y ceisydd amdano ac y talodd y ffi briodol ar ei gyfer.

(3Yn dilyn eu hadolygiad o'r mater rhaid i'r personau a benodir gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)am eu casgliadau ffeithiol ar y mater; a

(b)am eu argymhellion ynghylch dyfarnu ar y cais gan ystyried y gyfraith sy'n gymwys i'r ffeithiau.

(4Ar ôl ystyried y materion a adroddir iddynt o dan baragraff (3) uchod caiff y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)cadarnhau ei benderfyniad;

(b)diwygio neu newid ei benderfyniad mewn unrhyw fodd y mae yn credu ei fod yn briodol; neu

(c)diddymu ei benderfyniad yn ei gyfanrwydd a rhoi penderfyniad newydd yn ei le.

(5Wrth ddod i'w benderfyniad yn unol â pharagraff (4) uchod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i'r casgliadau a'r argymhellion a adroddir iddo gan y personau a benodir o dan y rheoliad hwn ond nid yw yn rhwym i ddilyn y cyfan neu unrhyw ran o'r argymhellion hynny.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn yn ysgrifenedig a phan na fydd yn mabwysiadu'r argymhellion a adroddir iddo, rhaid iddo nodi —

(a)y ffeithiau perthnasol y seilir ei benderfyniad arnynt;

(b)y rhesymau dros y penderfyniad;

(c)ei resymau am beidio â dilyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol argymhellion y personau penodedig; ac

(ch)effaith ei benderfyniadau ar dalu neu beidio â thalu'r cymhorthdal.

(7Os y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud penderfyniad yn unol a pharagraff (4)(b) neu (c) uchod, rhaid dychwelyd y ffi y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 11(3) uchod i'r ceisydd.

(8Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw daliad ar ffurf ffi neu ad-daliad treuliau, i unrhyw berson a benodwyd o dan baragraff (1) uchod, fel y gwel ei bod yn briodol.

Hysbysu Penderfyniadau

13.—(1Rhaid hysbysu'r ceisydd o unrhyw benderfyniad o dan reoliadau 6, 9 neu 12 uchod more fuan ag sy'n ymarferol wedi iddo gael ei wneud gan ddefnyddio post y mae dosbarthiad wedi'i gofnodi i'r cyfeiriad a ddangosir yn y cais am adolygiad.

(2Yn achos penderfyniad o dan reoliad 12, rhaid hysbysu darganfyddiadau ac argymhellion y personau a benodwyd ynghyd â'r penderfyniad.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Gorffennaf 2001

Rheoliad 4

YR ATODLEN

  • Cynllun Premiwn Blynyddol Defaid

  • Atodiad Ardal Lai Ffafriol y Cynllun Premiwn Blynyddol Defaid

  • Cynllun Premiwn Arbennig Cig Eidion

  • Cynllun Premiwn Buchod Sugno

  • Cynllun Taliadau Anarddwys

  • Cynllun Taliadau Arwynebedd Tir År

  • Cynllun Tir Mynydd

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â daliadau (p'un a ydynt wedi'u lleoli yn gyfan gwbl yng Nghymru neu'n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig), a weinyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993. Maent yn cyflwyno hawliau cyfreithiol am y tro cyntaf i geisio adolygiad o benderfyniadau penodol gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chymorthdaliadau amaethyddol a chwotas penodol ac i apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny ar ôl eu hadolygu. Maent yn gymwys o'r flwyddyn IACS 2001 ymlaen ac hefyd i daliadau Tir Mynydd a wneir yn 2001.

Nodir y mathau o benderfyniadau y gellir eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn yn rheoliad 4. Penderfyniadau yw'r rhain i wrthod, gostwng neu adennill yn gyfan gwbl neu'n rhannol daliadau a wnaed o dan y cynlluniau a nodir yn yr Atodlen a phenderfyniadau mewn perthynas â chwotau da byw at ddibenion y polisi amaethyddiaeth cyffredin.

Gweithredir y weithdrefn ar gyfer adolygu drwy gais a wneir heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r ceisydd am y penderfyniad sydd i'w adolygu (rheoliad 5).

Cam 1

Cynhelir yr adolygiad yn y lle cyntaf gan bennaeth y Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol lle gwnaed y penderfyniad gwreiddiol. Rhoddir pwerau penodol mewn perthynas ag adolygiadau o'r fath, ac yn dilyn adolygiad rhaid rhoi'r penderfyniad ar ffurf benodedig (rheoliadau 5-7).

Cam 2

Caiff ceisydd sydd heb ei fodloni gan ganlyniad yr adolygiad gan bennaeth Swyddfa Ranbarthol wneud cais am adolygiad pellach gan Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r broses yn debyg i'r un ar gyfer Cam 1 ac fe'i nodir yn rheoliadau 8-10.

Cam 3

Caiff ceisydd sydd yn parhau yn anfodlon wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael adolygiad ar y penderfyniad gan banel o bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 11(1)).

Mae ffi o £100 yn daladwy mewn perthynas â chais o'r fath sydd i'w glywed ar lafar a £50 os yw'r cais i gael ei ystyried yn ysgrifenedig yn unig (rheoliad 11(3)).

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi personau i gynnal y cam hwn o'r adolygiad (rheoliad 12(1)).

Mae'n rhaid i bersonau a benodir o dan reoliad 12 adolygu penderfyniad yr Uned Cymorthdaliadau Amaethyddol Canolog ac mae ganddynt bwer i ystyried gwybodaeth ychwanegol neu i wahodd sylwadau oddi wrth y ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 12(2)).

Yn dilyn eu hadolygiad o'r penderfyniad rhaid i'r personau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau ffeithiol a'u hargymhellion i'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 12(3)).

Mae angen i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud penderfyniad gan roi sylw i'r casgliadau a'r argymhellion a gyflwynir iddo gan y personau a benodir (rheoliad 12(4) a (5)).

Mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei benderfyniad yn ysgrifenedig a rhoi manylion llawn y ffeithiau a'r rhesymau dros ei benderfyniad (rheoliad 12(6)).

Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod ceisydd wedi bod yn llwyddiannus yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn yr adolygiad rhaid iddo ad-dalu'r ffi a dalwyd (rheoliad 12(7)).

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau i bersonau a benodir ganddo o dan reoliad 12(1) (rheoliad 12(8)).

Rhaid i benderfyniadau gael eu hysbysu yn unol â rheoliad 13.

(1)

1972 p.68. Dynodwyd y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 2(2) gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).

(2)

O.J. L391, 31.12.1992, t.36.

(3)

O.J. L27, 4.2.1995, t.3.

(4)

O.J. L156, 7.7.1995, t.27.

(5)

O.J. L197, 22.8.1995, t.2.

(6)

O.J. L94, 9.4.1999, t.1.

(7)

O.J. L212, 30.7.1998, t.23.

(8)

O.J. L340, 31.12.1999, t.29.

(9)

O.J. L314, 14.12.2000, t.8.

(10)

O.J. L355, 5.12.1992, t.1.

(11)

O.J. L338, 28.12.1994, t.16,

(12)

O.J. L329, 30.12.1995, t.18.

(13)

O.J. L206, 16.8.1996, t.4.

(14)

O.J. L335, 24.12.1996, t.1.

(15)

O.J. L94, 9.4.1997, t.1.

(16)

O.J. L182, 21.7.2000, t.4.

(17)

O.J. L72, 14.03.2001, t.6.

(19)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources