- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'i wneud
10 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
2.—(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (3) o'r erthygl hon i rym mewn perthynas â Chymru ar 31 Gorffennaf 2001.
(2) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (4) o'r erthygl hon i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 2001.
(3) Dyma'r darpariaethau—
(a)Adran 63 (cymeradwyo cyrsiau);
(b)Adran 66 (ymwelwyr ar gyfer cyrsiau penodol mewn gwaith cymdeithasol);
(c)Adran 71 (rheolau) i'r graddau y mae'n gymwys i adrannau 63 a 66 o'r Ddeddf.
(4) Dyma'r darpariaethau—
(a)Adran 67 (swyddogaethau'r Gweinidog priodol);
(b)Adran 70(1) (swyddogaethau'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol yn darfod mewn perthynas â Chymru).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
John Marek
Islywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Gorffennaf 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi diwrnodau i rai o ddarpariaethau Rhan IV (gweithwyr gofal cymdeithasol) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ddod i rym. Ymwneud â hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru y mae'r darpariaethau y mae'r Gorchymyn hwn yn dod â hwy i rym.
31 Gorffennaf 2001 yw'r diwrnod a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:
(a)Adran 63, sy'n caniatáu i Gyngor Gofal Cymru ('y Cyngor) gymeradwyo cyrsiau penodol mewn gwaith cymdeithasol yn unol â rheolau a wneir ganddo;
(b)Adran 66, sy'n caniatáu i'r Cyngor wneud darpariaeth, drwy reolau, ar gyfer ymweld â mannau lle mae cyrsiau penodol mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu cynnal;
(c)Adran 71, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch natur y rheolau y caiff y Cyngor eu gwneud. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol sicrhau cydsyniad y Cynulliad cyn y gall unrhyw reolau gael eu gwneud gan y Cyngor.
1 Hydref 2001 yw'r diwrnod a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:
(a)Adran 67, sy'n rhoi nifer o swyddogaethau i'r Cynulliad mewn perthynas â hyfforddiant gwaith gofal cymdeithasol. Mae'n caniatáu i'r Cynulliad annog personau i gymryd rhan mewn cyrsiau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a darparu cyrsiau o'r fath. Mae hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad dalu grantiau a lwfansau eraill i bersonau sy'n preswylio yng Nghymru i sicrhau eu hyfforddiant mewn gwaith gofal cymdeithasol. Caiff y Cynulliad ddirprwyo'i swyddogaethau o dan y ddarpariaeth hon i'r Cyngor;
(b)Adran 70(1), sy'n darparu i rai o ddarpariaethau'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol ('CCETSW') beidio â chael eu harfer mwyach mewn perthynas â Chymru (caiff CCETSW ei ddileu drwy gyfrwng Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 70(2) o'r Ddeddf). Mae'r swyddogaethau y mae i roi'r gorau i'w harfer yn debyg i'r swyddogaethau sy'n cael eu rhoi i'r Cyngor a'r Cynulliad gan y darpariaethau eraill y mae'r Gorchymyn hwn yn dod â hwy i rym.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir ag '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir ag '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); a chafodd y rhai a ddilynir â '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82).
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adrannau 1—5 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 7(7) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 8 ) (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 9(3)—(5) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 11—12 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 14—15 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 16 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 22—23 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 25 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 33—35 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 38(c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (yn rhannol) (d) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (y gweddill) (d) | 31 Awst 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) | 1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42—43 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 48—52 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 54(1), (3)—(7) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) | 13 Tachwedd 2000 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(3), (4) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 98 (ch) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107— 108 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 112 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 113 (2)—(4) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (y gweddill) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 115 (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) | 1 Gorffennaf 2001 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adran 80(8) | 2 Hydref 2000 |
Adran 94 | 2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) | 15 Medi 2000 |
Adran 96 (y gweddill) | 2 Hydref 2000 |
Adran 99 | 15 Medi 2000 |
Adran 100 | 2 Hydref 2000 |
Adran 101 | 2 Hydref 2000 |
Adran 103 | 2 Hydref 2000 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: