Search Legislation

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2550 (Cy.215)

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001

Wedi'i wneud

12 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.

Pennu Cyrff Cyhoeddus

2.  Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2001

YR ATODLENENW CYMRAEG NEU GYFIEITHIAD O'R ENW

  • Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol

  • Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch

  • Awdurdod Cwynion yr Heddlu

  • Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol

  • Yr Awdurdod Radio

  • Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr

  • Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol

  • Y Bwrdd Marchnata Gwlân

  • Byrddau Prawf Lleol yng Nghymru

  • Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol

  • Y Comisiwn Gwella Iechyd

  • Y Comisiwn Hawliau Anabledd

  • Y Comisiwn Safonau Darlledu

  • Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol

  • Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

  • Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol

  • Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru

  • Y Cyngor Ffilm

  • Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol

  • Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol

  • Y Gronfa Cyfleoedd Newydd

  • Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau

  • Panel Asesu Rhenti i Gymru

  • Syniad

  • UFI Cyf.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

Mae dau Orchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (1996/1898); a

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (1999/1100).

(1)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources