2001 Rhif 2550 (Cy.215)
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol1, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.
Pennu Cyrff Cyhoeddus2
Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982
YR ATODLENENW CYMRAEG NEU GYFIEITHIAD O'R ENW
Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol
Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch
Awdurdod Cwynion yr Heddlu
Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol
Yr Awdurdod Radio
Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr
Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol
Y Bwrdd Marchnata Gwlân
Byrddau Prawf Lleol yng Nghymru
Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
Y Comisiwn Gwella Iechyd
Y Comisiwn Hawliau Anabledd
Y Comisiwn Safonau Darlledu
Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol
Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Y Cyngor Ffilm
Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol
Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol
Y Gronfa Cyfleoedd Newydd
Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau
Panel Asesu Rhenti i Gymru
Syniad
UFI Cyf.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)