Search Legislation

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2662 (Cy.218)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

20 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

21 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, drwy weithredu ar y cyd i arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 37, 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso ac ymestyn diffiniadau

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio)(Cymru) 2001 a daw i rym ar 21 Gorffennaf 2001.

(2Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn—

(a)estynnir y diffiniadau o “animals” (“anifeiliaid”) yn is-adran (1) o adran 87 o'r Ddeddf honno i gynnwys pob mamal ac eithrio dyn ;

(b)estynnir y diffiniad o “poultry” (“dofednod”) yn is-adran (4) o adran 87 o'r Ddeddf honno i gynnwys pob aderyn;

(c)estynnir y diffiniadau o “disease” (“clefyd”) yn is-adran (1) o adran 88 o'r Ddeddf honno i gynnwys pob clefyd anifeiliaid; ac

(ch)estynnir y diffiniad o “disease” (“clefyd”) yn is-adran (3) o adran 88 o'r Ddeddf honno er mwyn cynnwys pob clefyd dofednod.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys aderyn;

  • mae “cyfrwng cludo” (“means of transport”) yn cynnwys ei ffitiadau, ei rannau datodadwy ac unrhyw gynwysyddion (p'un a ydynt yn ddatodadwy neu beidio) a ddefnyddir gydag ef;

  • mae i “Cymru” yr un ystyr ag yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

(2Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddiddymu mewn ysgrifen unrhyw bryd.

Glanhau a diheintio mewn perthynas â chludo anifeiliaid carnog a dofednod

3.—(1Bydd yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a ddefnyddir ar gyfer yr anifeiliaid canlynol (heblaw o dan yr amgylchiadau a bennir yn Atodlen 2)—

(a)anifeiliaid carnog;

(b)colomennod rasio; ac

(c)y canlynol os cânt eu magu neu eu cadw mewn caethiwed ar gyfer bridio, cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta neu er mwyn ailstocio cyflenwadau adar hela: ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl.

(2Os oes cyfrwng cludo wedi'i ddefnyddio i gludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai arwain at drosglwyddo clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid, rhaid i ddefnyddiwr y cyfrwng cludo sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a dim mwy na 24 awr ar ôl cwblhau'r daith, fod y cyfrwng cludo hwnnw a'i offer yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 1, neu, os yw'n briodol, yn cael eu dinistrio.

(3Ni chaiff neb ddefnyddio, na pheri na chaniatáu defnyddio unrhyw gyfrwng cludo i gludo unrhyw anifail oni bai bod y cyfrwng cludo a'i offer wedi'u glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 1 ers iddo gael ei ddefnyddio ddiwethaf i gludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai arwain at drosglwyddo clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid.

(4Os yw cyfrwng cludo wedi'i faeddu fel y gallai beri risg o drosglwyddo clefyd ers ei lanhau a'i ddiheintio ddiwethaf, ni chaiff neb lwytho, na pheri na chaniatáu llwytho unrhyw anifail i mewn i'r cyfrwng cludo oni bai bod y cyfrwng cludo hwnnw wedi'i lanhau a'i ddiheintio eto yn unol â pharagraffau 3 a 4 o Atodlen 1.

(5Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo unrhyw anifail symud ymaith unrhyw anifeiliaid meirw, gwelltach budr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted â phosibl.

Glanhau a diheintio mewn perthynas â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod o dan amgylchiadau penodol

4.—(1Bydd yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â chludo—

(a)pob mamal ac eithrio dyn heblaw anifeiliaid carnog;

(b)pob aderyn nad yw wedi'i gynnwys yn erthygl 3; ac

(c)anifeiliaid a bennir yn erthygl 3 o dan yr amgylchiadau a bennir yn Atodlen 2;

ond ni fydd yn gymwys yn achos—

(i)cludiant nad yw o natur fasnachol;

(ii)anifail unigol y mae person, sy'n gyfrifol am yr anifail tra bydd yn cael ei gludo, yn mynd gydag ef wrth iddo gael ei gludo;

(iii)cludo anifeiliaid anwes sy'n mynd gyda'u perchennog ar daith breifat.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu'n peri neu'n caniatáu iddynt gael eu cludo pan fydd yr erthygl hon yn gymwys sicrhau—

(a)eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi'i lanhau, a phan fydd angen, wedi'i ddiheintio yn unol ag Atodlen 1; a

(b)bod anifeiliaid meirw, sarn budr a charthion yn cael eu symud ymaith cyn gynted â phosibl.

Gwaredu deunydd ar ôl glanhau

5.  Rhaid i bopeth a dynnir o'r cyfrwng cludo yn unol ag Atodlen 1—

(a)cael eu dinistrio;

(b)cael eu trin fel bod y risg o drosglwyddo clefyd yn cael ei ddileu; neu

(c)cael eu gwaredu fel na fydd anifeiliaid yn gallu mynd atynt.

Pwerau arolygwyr, etc.

6.—(1Pan fydd arolygydd wedi'i fodloni bod cyfrwng cludo, neu unrhyw offer sy'n cael ei gario gyda'r cyfrwng cludo, naill ai—

(a)heb gael eu glanhau a'u diheintio yn unol â'r Gorchymyn hwn; neu

(b)bod angen eu glanhau a'u diheintio am y gallai beri risg o drosglwyddo clefyd,

caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r offer.

(2Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol—

(a)gwahardd defnyddio'r cyfrwng cludo neu'r offer nes iddynt gael eu glanhau a'u diheintio;

(b)gwahardd cadw anifeiliaid ar y cyfrwng cludo nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfrwng cludo neu'r offer o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu

(ch)ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo waredu'r holl borthiant yr oedd yr anifeiliaid yn gallu mynd ato, yr holl welltach, yr holl garthion a'r holl ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid yn y ffordd a nodir yn yr hysbysiad.

(3Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid cyflawni'r gwaith glanhau a diheintio yn unol ag Atodlen 1 oni bai bod yr hysbysiad yn pennu dull gwahanol o lanhau a diheintio.

(4Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gyflawni gwaith glanhau a diheintio yn unol ag erthyglau 3 neu 4 yn mynnu bod y person hwnnw yn ei lanhau a'i ddiheintio fel a bennir yn yr hysbysiad yn lle gwneud hynny yn unol ag Atodlen 1 os yw'r arolygydd wedi'i fodloni bod hynny'n angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid.

(5Pan na fydd person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir â darpariaethau'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo .

Gorfodi

7.  Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.

Diddymu a diwygio

8.—(1Mae'r Gorchmynion a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan I o Atodlen 3 yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru ac i'r graddau a nodir yn nhrydedd golofn y tabl hwnnw.

(2Mae'r Gorchymyn yn Rhan II o Atodlen 3 yn cael ei ddiwygio yn unol â'r Rhan honno i'r graddau y mae'n gymwys yng Nghymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

J. E. Randerson

Ysgrifennydd Cynulliad

20 Gorffennaf 2001

Alun Michael

Gweinidog Gwladol

20 Gorffennaf 2001

Erthyglau 3, 4, 5 a 6

ATODLEN 1Glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo

Lefel y glanhau a'r diheintio

1.  Rhaid cyflawni pob gwaith glanhau a diheintio er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo clefyd cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Y rhannau o'r cyfrwng cludo y mae angen eu glanhau

2.—(1Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd—

(a)rhaid glanhau'r canlynol p'un a ydynt wedi'u baeddu neu beidio: holl wynebau mewnol y rhannau hynny o'r cyfrwng cludo y cludir yr anifeiliaid ynddynt, a phob rhan o'r cyfrwng cludo y mae'n bosibl bod yr anifeiliaid wedi cael mynd ati yn ystod y daith; a

(b)rhaid glanhau'r canlynol os ydynt wedi'u baeddu—

(i)unrhyw ffitiadau datodadwy nas defnyddiwyd yn ystod y daith,

(ii)unrhyw ran arall o'r cyfrwng cludo,

(iii)unrhyw offer a gariwyd yn ystod y daith i'w ddefnyddio gyda'r anifail.

(2Yn achos anifeiliaid a gludir mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi'i faeddu neu beidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.

Y dull glanhau

3.  Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw welltach, unrhyw garthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, ac yna eu glanhau â dŵr, stêm neu gyfansoddion cemegol pan fo'n briodol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes eu bod yn rhydd o faw.

Diheintio ar ôl glanhau

4.  Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei lanhau o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(4) yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.

Erthyglau 3 a 4

ATODLEN 2Yr amgylchiadau y bydd erthygl 4 yn gymwys odanynt

Taith a wneir o fewn un fenter ffermio

1.  Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys os gwneir y daith o fewn un fenter ffermio o dan un berchenogaeth.

Cludo ceffylau penodol

2.  Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys mewn perthynas â chludo—

(a)ceffylau a ddefnyddir at ddibenion hamdden neu chwaraeon yn unig; neu

(b)ceffylau a gedwir mewn stablau a drwyddedir gan Glwb y Jocis yn ôl ac ymlaen i gyfarfodydd rasio, neu yn ôl ac ymlaen i fan lle mae ceffylau sy'n cael eu cadw yn y stablau hynny yn cael eu hyfforddi ar gyfer rasio.

Teithiau rhwng yr un dau bwynt

3.—(1Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys mewn perthynas â chyfrwng cludo sy'n cael ei ddefnyddio, yn ystod un diwrnod, ar gyfer cludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt yn unig, heblaw rhwng marchnadoedd, ar yr amod bod y cyfrwng cludo yn cael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol ag Atodlen 1 o fewn 24 awr ar ôl y daith olaf ar gyfer cludo anifail yn ystod y diwrnod hwnnw, a beth bynnag cyn i'r cyfrwng cludo gael ei ddefnyddio eto mewn cysylltiad â chludo unrhyw anifail neu beth.

(2Yn y paragraff hwn mae “taith olaf” yn cynnwys—

(a)taith a ddechreuir ond nad yw wedi'i chwblhau cyn hanner nos ar y diwrnod o dan sylw; a

(b)yn achos anifail carnog a gariwyd ac sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiad yn ystod yr hwyr ar y diwrnod hwnnw neu sy'n parhau hyd yr hwyr ar y diwrnod hwnnw, taith a ddechreuir cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn hanner nos neu beidio.

Dadlwytho dros dro

4.  Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys yn achos cyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi'u dadlwytho ohono yn unswydd i'w porthi neu i'w dyfrio, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac sydd wedyn wedi'u hail-lwytho.

Erthygl 7

ATODLEN 3

Rhan 1Diddymiadau

Yr offeryn a ddiddymirCyfeirnodGraddau'r diddymu
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid 1927Gorchmynion a Rheolau Statudol 1927/289Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn y Gweinidog dyddiedig 9 Mai 1927 yn diwygio Gorchymyn Cludo Anifeiliaid 1927Gorchmynion a Rheolau Statudol 1927/399Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Ceffylau (Cludiant Morol) 1952O.S. 1952/1291Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Ffyrdd a Rheilffyrdd) 1975O.S. 1975/1024Erthyglau 15 ac 16 ac Atodlen 3
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977O.S. 1977/944Erthyglau 4(1), 5(6), 5(7), 6 a 15
Gorchymyn Clefydau Dofednod 1994O.S. 1994/3141Erthygl 10(2)
Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997O.S. 1997/1480Erthygl 15(2) a Pharagraff 26 o Atodlen 1

Rhan IIDiwygiadau

Yng Ngorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11), yn lle

(a)amodau 4 a 5 o Atodlen 2,

(b)amodau 3 a 4 o Atodlen 3,

(c)amodau 3 a 4 o Atodlen 4,

(ch)amodau 5 a 6 o Atodlen 5,

(d)amodau 4 a 5 o Atodlen 6,

(dd)amodau 5 a 6 o Atodlen 7,

rhoddir ym mhob achos y canlynol—

  • Means of transport must be cleansed and disinfected in accordance with the Transport of Animals (Cleansing and Disinfection) (Wales) Order 2001.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu ac yn disodli, gyda newidiadau, yr offerynnau sy'n ymwneud â glanhau a diheintio'r cyfryngau cludo ar gyfer anifeiliaid a nodir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn. Mae'n gweithredu paragraff 8 o Bennod 1 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t.17) a weithredwyd gynt gan baragraff 26 o Atodlen 1 i Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997 (O.S. 1997/1480). Mae'n gweithredu hefyd Erthygl 12.1(a), ail gilosodiad, Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned (cydgyfnerthwyd y Gyfarwyddeb hon yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/12/EC OJ Rhif L109, 25.4.97, t.1).

Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi'r gofynion canlynol:—

(a)ar ôl cludo unrhyw anifeiliaid carnog, a ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl, fod rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a'r offer cysylltiedig yn unol ag Atodlen 1 cyn ei ddefnyddio eto i gludo'r anifeiliaid hynny (erthygl 3(2) a (4));

(b)hyd yn oed os yw'r gofyniad a bennir ym mharagraff (a) uchod wedi'i fodloni, rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo eto cyn i'r anifeiliaid hynny gael eu cludo os yw'r cyfrwng cludo wedi'i faeddu fel y byddai'n peri risg o drosglwyddo clefyd (erthygl 3(4));

(c)yn dilyn taith, rhaid i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn dim mwy na 24 awr (erthygl 3(3));

(ch)Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid o'r fath symud ymaith anifeiliaid meirw, sarn a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted â phosibl (erthygl 3(5)).

Mae eithriadau wedi'u nodi yn Atodlen 2 mewn perthynas â theithiau o fewn un fenter ffermio, cludo ceffylau penodol a theithiau rhwng yr un dau bwynt. Yn yr achosion hyn, ac ar gyfer pob anifail ac aderyn arall, ceir gofyniad ynglyn â sicrhau eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi'i lanhau ac, os oes angen, wedi'i ddiheintio, a bod anifeiliaid meirw, sarn a charthion yn cael eu symud ymaith o'r cyfrwng cludo cyn gynted â phosibl. Nid yw hyn yn gymwys i deithiau anfasnachol nac i gludo anifeiliaid anwes neu anifeiliaid unigol (erthygl 4).

Mae erthygl 5 yn pennu sut mae'n rhaid gwaredu'r deunydd o'r cyfrwng cludo.

O dan erthygl 6, mae gan arolygydd bŵ er, o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.

Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 7).

Mae'n diddymu'r darpariaethau a nodir yn Atodlen 3.

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac ar ôl collfarn gellir cosbi'r tramgwydd â dirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (sef £5,000 ar hyn o bryd).

Mae arfarniad wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Polisi Amaethyddol, Adran Amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1981 p.22. Gweler adran 86(1)(c) ar gyfer diffiniad o “Ministers”. Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaeth Ysgrifennydd Gwladol yr Alban i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources