Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2678 (Cy.219)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

17 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

1 Medi 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 35(2), 138(7) ac (8) a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), a pharagraffau 2, 3, 4 a 5 o Atodlen 8 a pharagraff 1(5) o Atodlen 12 iddi, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1998 p.31. Ar gyfer ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1). Rhagnodwyd y “cyfnod rhagnodedig” (“prescribed period”) at ddibenion adran 35(2) gan Reoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2633 (Cy.7)) fel y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Awst 2000.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac, o ran adran 144, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)).