ATODLEN 4Trosglwyddo tir
Rhan VTir a eithriwyd rhag cael ei drosglwyddo a chyfyngiadau ar waredu tir tra bydd cynigion ar waith
21
1
Yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol, rhaid i awdurdod lleol beidio—
a
â gwaredu unrhyw dir sy'n cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol at ddibenion yr ysgol, na
b
â gwneud cytundeb i waredu tir o'r fath,
ac eithrio gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwarediad sy'n cael ei wneud yn unol â chontract a wnaed, neu opsiwn a roddwyd, cyn bod y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall wedi'i chychwyn mewn perthynas â'r ysgol.
3
Pan fydd cynigion ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall wedi'u cymeradwyo, ni ddylid ymdrin â'r weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall fel un sydd wedi'i therfynu at ddibenion y paragraff hwn mewn perthynas ag unrhyw dir, pan fydd yn ofynnol dod i gytundeb o dan baragraff 2(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (adnabod eiddo, etc.) ar unrhyw fater ynglŷn â'r tir hwnnw, tan y dyddiad y bydd y mater hwnnw yn cael ei benderfynu'n derfynol.
4
Ni fydd gwarediad na chontract yn annilys nac yn ddi-rym dim ond am ei fod wedi'i wneud yn groes i'r paragraff hwn ac ni fydd person sy'n caffael tir, neu'n gwneud contract i gaffael tir, oddi wrth awdurdod lleol yn ymboeni i holi a oes unrhyw gydsyniad sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn wedi'i roi.
5
Mae'r paragraff hwn yn effeithiol er gwaethaf unrhyw beth yn adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 197213 (pŵ er cyffredinol i waredu tir) neu mewn unrhyw ddeddfiad arall; a bydd y cydsyniad sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy'n ofynnol o dan is-adran (2) o'r adran honno neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.
6
Yn y paragraff hwn—
a
mae cyfeiriadau at waredu tir yn cynnwys rhoi neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir, a
b
mae cyfeiriadau at wneud contract i waredu tir yn cynnwys rhoi opsiwn i gaffael tir neu fuddiant o'r fath.