xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
19.—(1) Ni fydd dim yn Rhan II o'r Atodlen hon yn cael yr effaith o drosglwyddo i unrhyw gorff, na breinio ynddo,—
(a)unrhyw dir, hawliau neu rwymedigaethau a eithriwyd o dan is-baragraff (2) neu (3),
(b)unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth,
(c)unrhyw rwymedigaeth awdurdod lleol, corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr mewn perthynas â phrifswm unrhyw fenthyciad, neu log arno, neu
(ch)unrhyw rwymedigaeth mewn cyfraith camwedd.
(2) Os bydd—
(a)y trosglwyddai a'r trosglwyddwr arfaethedig wedi cytuno'n ysgrifenedig y dylai unrhyw dir gael ei eithrio rhag gweithrediad Rhan II o'r Atodlen hon, a
(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo'r cytundeb yn ysgrifenedig,
a hynny cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas ag unrhyw newid categori, bydd y tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy'n berthnasol iddo) yn cael ei eithrio felly.
(3) Yn niffyg cytundeb o dan is-baragraff (2)—
(a)os yw'r trosglwyddai neu'r trosglwyddwr arfaethedig wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am eithrio unrhyw dir rhag gweithrediad Rhan II o'r Atodlen hon, a
(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn wedi cyfarwyddo ei eithrio,
bydd y tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy'n berthnasol iddo) yn cael ei eithrio felly.
(4) Gall cytundeb o dan is-baragraff (2) ddarparu bod y tir yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol (fel ysgol mewn categori newydd) ar y telerau a bennir neu a benderfynir yn unol â'r cytundeb; a gall cyfarwyddiadau o dan is-baragraff (3)—
(a)rhoi unrhyw hawliau neu osod unrhyw rwymedigaethau a allai fod wedi'u rhoi neu wedi'u gosod gan gytundeb o'r fath, a
(b)byddant yn effeithiol fel petai wedi'u cynnwys mewn cytundeb o'r fath.
(5) Yn y paragraff hwn—
ystyr “categori newydd” yw un o'r categorïau a nodir yn adran 20(1) o'r Ddeddf;
ystyr “y trosglwyddai arfaethedig”, mewn perthynas ag unrhyw dir, yw'r corff y byddai'r tir yn cael ei drosglwyddo iddo, heblaw am is- baragraff (2) neu (3), o dan Ran II o'r Atodlen hon; a
dehonglir “y trosglwyddwr arfaethedig” yn unol â hynny.
20.—(1) At ddibenion Rhan V o'r Atodlen hon mae'r weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol pan fydd y weithdrefn honno wedi'i chychwyn gan y corff llywodraethu mewn perthynas â'r ysgol ar unrhyw achlysur a bod y weithdrefn honno heb ei therfynu (fel y'i chychwynnwyd ar yr achlysur hwnnw).
(2) At y dibenion hynny, dylid barnu bod y weithdrefn honno wedi'i chychwyn mewn perthynas ag ysgol ar unrhyw achlysur pan fydd yr awdurdod addysg lleol wedi cael hysbysiad o gyfarfod y corff llywodraethu y bwriedir ystyried cynigiad ynddo ar gyfer penderfyniad i ymgynghori ynglŷn â chynigion i newid categori.
(3) At y dibenion hynny, dylid barnu bod y weithdrefn honno, fel y'i chychwynnwyd ar unrhyw achlysur, wedi'i therfynu—
(a)os na chaiff y cyfarfod ei gynnal;
(b)os caiff y cyfarfod ei gynnal ond na chaiff y cynigiad ei wneud neu, er bod y cynigiad yn cael ei wneud, nad yw'r penderfyniad yn cael ei basio;
(c)os nad yw'r ymgynghori yn cael ei gychwyn yn unol ag adran 28(5) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan y Rheoliadau hyn;
(ch)os nad yw'r cynigion y cychwynnwyd yr ymgynghori mewn perthynas â hwy yn cael eu cyhoeddi;
(d)os caiff y cynigion a enwyd eu gwrthod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu os cânt eu tynnu'n ôl; neu
(dd)ar ddyddiad gweithredu'r cynigion hynny.
21.—(1) Yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol, rhaid i awdurdod lleol beidio—
(a)â gwaredu unrhyw dir sy'n cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol at ddibenion yr ysgol, na
(b)â gwneud cytundeb i waredu tir o'r fath,
ac eithrio gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwarediad sy'n cael ei wneud yn unol â chontract a wnaed, neu opsiwn a roddwyd, cyn bod y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall wedi'i chychwyn mewn perthynas â'r ysgol.
(3) Pan fydd cynigion ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall wedi'u cymeradwyo, ni ddylid ymdrin â'r weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall fel un sydd wedi'i therfynu at ddibenion y paragraff hwn mewn perthynas ag unrhyw dir, pan fydd yn ofynnol dod i gytundeb o dan baragraff 2(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (adnabod eiddo, etc.) ar unrhyw fater ynglŷn â'r tir hwnnw, tan y dyddiad y bydd y mater hwnnw yn cael ei benderfynu'n derfynol.
(4) Ni fydd gwarediad na chontract yn annilys nac yn ddi-rym dim ond am ei fod wedi'i wneud yn groes i'r paragraff hwn ac ni fydd person sy'n caffael tir, neu'n gwneud contract i gaffael tir, oddi wrth awdurdod lleol yn ymboeni i holi a oes unrhyw gydsyniad sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn wedi'i roi.
(5) Mae'r paragraff hwn yn effeithiol er gwaethaf unrhyw beth yn adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) (pŵ er cyffredinol i waredu tir) neu mewn unrhyw ddeddfiad arall; a bydd y cydsyniad sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy'n ofynnol o dan is-adran (2) o'r adran honno neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.
(6) Yn y paragraff hwn—
(a)mae cyfeiriadau at waredu tir yn cynnwys rhoi neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir, a
(b)mae cyfeiriadau at wneud contract i waredu tir yn cynnwys rhoi opsiwn i gaffael tir neu fuddiant o'r fath.
22.—(1) Yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol, rhaid i awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau, mewn perthynas ag unrhyw dir sydd gan yr awdurdod ac sy'n cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol, heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol, y bydd y tir yn peidio â chael ei ddefnyddio neu ei ddal felly i unrhyw raddau o'u plegid.
(2) Yn achos unrhyw ysgol, os bydd—
(a)cynigion bod ysgol yn dod yn ysgol o gategori arall yn cael eu cymeradwyo, a
(b)bod awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir, wedi cymryd unrhyw gamau yn groes i is-baragraff (1),
bydd y darpariaethau ynglyn â throsglwyddo eiddo yn effeithiol fel petai'r eiddo, yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas â'r newid categori, yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan yr awdurdod at y dibenion yr oedd yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal ar eu cyfer pan gychwynnwyd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall.
(3) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “y darpariaethau ynglyn â throsglwyddo eiddo” yw'r Atodlen hon ac adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ac Atodlen 10 iddi, a
(b)mae'r cyfeiriadau at gymryd camau yn cynnwys meddiannu eiddo at unrhyw ddiben.