- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym
1 Awst 2001
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Awst 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(3).
3.—(1) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraff (2) isod.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 95/31/EC” ychwanegir y geiriau “, and by Directive 2000/51/EC insofar as it relates to E965 (ii) syrup maltitol ”(4) ar y diwedd.
4.—(1) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth a bennir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) 1999(5) yn gymwys i Gymru, bydd effaith paragraff 3(1) o'r rheoliad hwnnw yn peidio mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno.
(2) Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at y prif Reoliadau fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio hyd at a chan gynnwys y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) uchod yn cyfeirio atynt —
(a)diffiniad “permitted sweetener” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1991(6);
(b)diffiniad “additive” yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(7);
(c)diffiniad “sweetener” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(8);
(ch)diffiniad “sweetener” yn rheoliad 2(1) (dehnogli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(9); a
(d)Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(10)—
(i)paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr ychwanegol a melysyddion, aspartame neu bolyolau); a
(ii)yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol) Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â'r disgrifiad “ice cream” yng ngholofn 1.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorffennaf 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123), a hynny drwy ddiweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb 95/31/EC ynghylch meini prawf purdeb penodol er mwyn ymdrin â diwygiad i'r cyfeiriad a wnaed gan Gyfarwyddeb 2000/51/EC i'r graddau yr amnewidiodd y Gyfarwyddeb honno fanylebau newydd ar gyfer syrop maltitol a thrwy ddiweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill.
Cafodd swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1995/3123: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1996/1477, 1997/814 a 1999/982.
Y cyfeiriad ar gyfer Cyfarwyddeb 2000/51/EC yw OJ Rhif L198, 4.8.2000, t.41.
OS 1981/1063: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1983/1211 a 1995/3123.
OS 1984/1566: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.
OS 1992/1978, yr offeryn diwygio perthnasol yw OS 1995/3123.
OS 1995/3187, y ceir diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OS 1996/1499 y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: