Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2681 (Cy.222)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

17 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Deddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991(1) ac sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach mewn perthynas â Chymru(2), trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Cynnydd yn y ffi archwilio

2.  Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992(3) amnewidir am y ffigur “£14.50” yno y ffigur “£15.50”.

Diddymiad

3.  Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1998(4) cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnydd o £14.50 i £15.50 yn y ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am archwiliadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (O.S. 1992/1688). Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/978) (a oedd yn darparu cynnydd cynharach yn y ffi) cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn belled ag y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1992/1688; diwygiwyd rheoliad 3(1) gan O.S. 1998/978.