2001 Rhif 2681 (Cy.222)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Deddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 19911 ac sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach mewn perthynas â Chymru2, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Cynnydd yn y ffi archwilio2

Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 19923 amnewidir am y ffigur “£14.50” yno y ffigur “£15.50”.

Diddymiad3

Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 19984 cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.

D. Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnydd o £14.50 i £15.50 yn y ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am archwiliadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (O.S. 1992/1688). Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/978) (a oedd yn darparu cynnydd cynharach yn y ffi) cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.