ATODLEN 1YR AMODAU CYFFREDINOL Y MAE'N RHAID CADW ANIFEILIAID A FFERMIR ODANYNT

Archwilio2

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i bob anifail a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle bydd eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i weld eu bod mewn cyflwr o lesiant.

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau heblaw systemau hwsmonaeth y mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddef.

3

Er gwaethaf is-baragraffau (1) a (2), yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau penodol a ganlyn —

a

yn achos ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri, paragraff 7 o Atodlen 2;

b

yn achos lloi, paragraffau 3 a 4 o Atodlen 4; ac

c

yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 6.