2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i bob anifail a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle bydd eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i weld eu bod mewn cyflwr o lesiant.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau heblaw systemau hwsmonaeth y mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddef.
(3) Er gwaethaf is-baragraffau (1) a (2), yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau penodol a ganlyn —
(a)yn achos ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri, paragraff 7 o Atodlen 2;
(b)yn achos lloi, paragraffau 3 a 4 o Atodlen 4; ac
(c)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 6.