Search Legislation

Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif. 2683 (Cy.224 )

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

17 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

19 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion yr is-adran honno gan Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000(3) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, ac amcanion, ansawdd aer, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 19 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diffiniadau

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “aer amgylchynol” (“ambient air”) yw aer y tu allan yn y troposffer, heb gynnwys gweithleoedd;

  • ystyr “asesu” (“assessment”) yw unrhyw ddull a ddefnyddir i fesur, cyfrifo, darogan neu amcangyfrif lefel llygryn perthnasol yn yr aer amgylchynol;

  • ystyr “crynhoad” (“agglomeration”) yw parth â chrynodiad poblogaeth o fwy na 250,000 o drigolion neu, os yw crynodiad y boblogaeth yn 250,000 o drigolion neu lai, dwysedd poblogaeth am bob km2 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod yna gyfiawnhad dros yr angen i asesu neu reoli'r aer amgylchynol ar ei chyfer;

  • ystyr “digwyddiadau naturiol” (“natural events”) yw echdoriadau llosgfynyddoedd, gweithgarwch seismig, gweithgarwch geothermol, tanau tir gwyllt, gwyntoedd cryfion neu ail?ddal neu gludo gronynnau naturiol o barthau sych yn yr atmosffer;

  • mae i “gwerth terfyn” (“limit value”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(1);

  • ystyr “lefel” (“level”) yw crynodiad llygryn perthnasol yn yr aer amgylchynol;

  • ystyr “llygrynnau perthnasol” (“relevant pollutants”) yw sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm;

  • ystyr “mesuriadau sefydlog” (“fixed measurements”) yw mesuriadau a gymerir ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap, a nifer y mesuriadau yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod y lefelau a welir;

  • ystyr “ocsidau nitrogen” (“oxides of nitrogen”) yw swm y nitric oxide a'r nitrogen dioxide wedi'u hadio fel rhannau am bob biliwn ac wedi'i fynegi fel nitrogen dioxide mewn microgramau i bob metr ciwbig;

  • ystyr “PM2.5” yw mater gronynnol sy'n mynd drwy fewnfa dethol-maint ag ataliad effeithlonrwydd o 50% ar ddiamedr erodynamig o 2.5 mm;

  • ystyr “PM10” yw mater gronynnol sy'n mynd drwy fewnfa dethol-maint ag ataliad effeithlonrwydd o 50% ar ddiamedr erodynamig o 10 mm;

  • ystyr “parth” (“zone”) yw rhan o Gymru a ddangosir ar fap i'w gyhoeddi gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 1 Awst 2001, a adneuwyd yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran Diogelu'r Amgylchedd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

  • mae i “trothwy asesu isaf” (“lower assessment threshold”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(5);

  • mae i “trothwy asesu uchaf” (“upper assessment threshold”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(5); ac

  • mae i “trothwy rhybuddio” (“alert threshold”) yr ystyr a roddir gan reoliad 8(2).

Dyletswydd i sicrhau bod ansawdd aer amgylchynol yn cael ei gwella

3.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol i sicrhau ym mhob parth ledled Cymru nad yw crynodiadau'r llygrynnau perthnasol yn yr aer amgylchynol, o'u hasesu yn unol â rheoliadau 4 i 7, yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a nodir yn Atodlen 1 o'r dyddiadau a bennir yn yr Atodlen honno ymlaen.

(2Rhaid i'r mesurau a gymerir —

(a)cymryd i ystyriaeth ymagwedd integredig at ddiogelu aer, dwr a phridd;

(b)peidio â thorri deddfwriaeth y Gymuned ar ddiogelu diogelwch ac iechyd gweithwyr wrth eu gwaith; ac

(c)peidio â dwyn unrhyw effeithiau negyddol arwyddocaol ar yr amgylchedd yn yr Aelod?wladwriaethau eraill.

Asesu ansawdd aer amgylchynol

4.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn unol â rheoliadau 5 i 7.

Dosbarthu parthau

5.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn ôl a yw'n ofynnol asesu ansawdd yr aer amgylchynol yn y parth hwnnw ar gyfer y llygryn hwnnw —

(a)drwy fesuriadau;

(b)drwy gyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu; neu

(c)drwy ddefnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig.

(2Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth —

(a)os yw'r parth yn grynhoad;

(b)os yw lefelau'r llygryn yn y parth rhwng y gwerthoedd terfyn perthnasol a'r trothwyon asesu uchaf; neu

(c)os yw lefelau'r llygryn hwnnw yn y parth yn uwch na gwerthoedd terfyn y llygryn hwnnw.

(3Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.

(4Os yw lefelau llygryn perthnasol mewn unrhyw barth yn is na'r trothwyon asesu isaf perthnasol, caniateir defnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig i asesu lefelau'r llygryn hwnnw oni bai —

(a)mai crynhoad yw'r parth; a

(b)mai sulphur dioxide neu nitrogen dioxide yw'r llygryn sy'n cael ei asesu.

(5Penderfynir ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.

(6Os oes parth wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â llygryn o dan baragraff (1)(a), gellir defnyddio technegau modelu i gydategu'r mesuriadau a gymerir er mwyn rhoi lefel ddigonol o wybodaeth am ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth.

(7Rhaid i'r dosbarthiad parthau y mae paragraff (1) yn gofyn amdano gynnwys unrhyw barthau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu dosbarthu fel rhai sy'n uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer —

(a)sulphur dioxide oherwydd crynodiadau sulphur dioxide yn yr aer amgylchynol oherwydd ffynonellau naturiol;

(b)PM10 oherwydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd —

(i)digwyddiadau naturiol sy'n arwain at grynodiadau sy'n sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol; neu

(ii)ail-ddal gronynnau ar ôl i ffyrdd gael eu trin â thywod yn y gaeaf.

Adolygu dosbarthiadau

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad pob parth o dan reoliad 5 o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn unol â Rhan II o Atodlen 2.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad unrhyw barth o dan reoliad 5 hefyd os ceir newidiadau arwyddocaol mewn gweithgarwch sy'n effeithio ar grynodiadau amgylchynol unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol yn y parth.

Dull asesu ansawdd aer amgylchynol

7.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth drwy ddilyn y dull penodedig ar gyfer pob llygryn perthnasol yn unol â'i ddosbarthiad cyfredol.

(2Os oes parth wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(a) neu (b) mewn perthynas â llygryn perthnasol —

(a)rhaid i fesuriadau'r llygryn hwnnw gael eu cymryd ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap, a

(b)rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod lefelau'r llygryn hwnnw yn gywir.

(3Bydd Atodlen 3 yn effeithiol er mwyn penderfynu ar leoliad y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol.

(4Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(a), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod isafswm nifer y pwyntiau samplu sefydlog y penderfynwyd arnynt yn unol ag Atodlen 4 yn cael ei ddefnyddio i samplu crynodiadau'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw.

(5Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod nifer y pwyntiau samplu sefydlog a ddefnyddir i samplu'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw, a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, yn ddigon i ddod o hyd i grynodiadau'r llygryn hwnnw yn unol â Rhan I o Atodlen 3 a Rhan I o Atodlen 5.

(6Nodir dulliau cyfeirio ar gyfer —

(a)dadansoddi sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen;

(b)samplu a dadansoddi plwm; ac

(c)samplu a mesur PM10

yn Atodlen 6, a rhaid i'r dulliau hyn gael eu defnyddio oni bai bod dulliau eraill yn cael eu defnyddio y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfwerth.

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gorsafoedd mesur i roi data cynrychioliadol ar grynodiadau PM2.5 wedi'u gosod ac yn cael eu gweithredu, gan ddefnyddio unrhyw ddull ar gyfer samplu a mesur PM2.5 y mae'n credu ei fod yn addas, a bod pwyntiau samplu PM2.5 yn cael eu cyd-leoli â phwyntiau samplu PM10 lle bynnag y bo modd.

(8Ar gyfer parthau sydd wedi'u dosbarthu o dan reoliad 5(1)(b) neu (c), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a nodir yn Rhan II o Atodlen 5 yn cael ei chrynhoi.

(9Ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, rhaid i'r cyfaint gael ei safoni ar dymheredd o 293°K a phwysedd o 101.3 kPa.

Cynlluniau gweithredu

8.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi'r mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os ceir unrhyw risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide, er mwyn lleihau'r risg hwnnw ac i gyfyngu ar barhad digwyddiad o'r fath.

(2Y trothwy sydd wedi'i nodi ym mharagraff 1.2 o Ran I o Atodlen yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide, a'r trothwy a nodir ym mharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide.

Y camau sydd i'w cymryd os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn

9.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch —

(a)na'r gwerth terfyn, mewn achos lle nad oes goddefiant yn cael ei ddangos yn Atodlen 1 mewn perthynas â gwerth terfyn;

(b)na'r gwerth terfyn plws y goddefiant a ddangosir yn Atodlen 1 mewn unrhyw achos arall.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol rhwng y gwerth terfyn a'r gwerth terfyn plws unrhyw oddefiant.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (6), (8) a (9), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio, ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrynnau o dan sylw o fewn y terfynau amser a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo sicrhau y caiff y cynllun neu'r rhaglen eu gweithredu.

(4Rhaid i'r cynllun neu'r rhaglen gynnwys o leiaf yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 7.

(5Os yw lefel mwy nag un llygryn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn mewn unrhyw barth, rhaid paratoi cynllun integredig sy'n ymdrin â'r holl lygrynnau o dan sylw.

(6Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(a) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni o dan y rheoliad hwn ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd allyriannau sydd wedi'u creu gan bobl.

(7Rhaid i gynlluniau neu raglenni ar gyfer PM10 a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn anelu hefyd at leihau crynodiadau PM2.5.

(8Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(b)(i) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd achosion heblaw digwyddiadau naturiol.

(9Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(b)(ii) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd lefelau PM10 heblaw'r rhai sy'n cael eu hachosi gan drin ffyrdd â thywod yn y gaeaf.

Parthau lle mae'r lefelau yn is na'r gwerth terfyn

10.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol yn is na'r gwerthoedd terfyn.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau'r llygrynnau perthnasol yn y parthau hyn yn cael eu cadw yn is na'r gwerthoedd terfyn a rhaid iddo ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gyson â datblygu cynaliadwy.

Gwybodaeth gyhoeddus

11.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r drefn.

(2Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol sulphur dioxide, nitrogen dioxide gael ei diweddaru —

(a)yn achos gwerthoedd fesul-awr ar gyfer sulphur dioxide a nitrogen dioxide, bob awr os yw hynny'n ymarferol;

(b)ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.

(3Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol plwm cael ei diweddaru bob tri mis.

(4Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan baragraff (1) gynnwys —

(a)nodyn i ddweud i ba raddau yr aed yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a'r trothwyon rhybuddio ar gyfer llygrynnau penodol dros y cyfnodau cyfartaleddu a bennir yn Atodlen 1; a

(b)asesiad byr o'r enghreifftiau hynny lle'r aed yn uwch na'r gwerthoedd a'r trothwyon a'r effeithiau a gawsant ar iechyd.

(5Pan eir yn uwch na throthwy rhybuddio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi gwybod i'r cyhoedd, a rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael gynnwys o leiaf yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1.

(6Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid trefnu ei bod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn gynnwys y map o'r parthau y cyfeirir ato yn rheoliad 2 ac unrhyw ddiwygiad iddo, a chynlluniau gweithredu, cynlluniau a rhaglenni a baratoir o dan reoliadau 8 a 9.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyhoedd yn cynnwys cyrff gofal iechyd a chyrff sydd â diddordeb yn ansawdd yr aer amgylchynol a chyrff sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.

(8Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan y rheoliad hwn fod yn glir, cynhwysfawr a hawdd ei chael.

Diddymu Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 a darpariaethau trosiannol

12.—(1Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989(4), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy hyn yn cael eu diddymu fel a ganlyn.

(2Diddymir rheoliad 2(1) (gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant) a rheoliad 4(1)(gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer) o 1 Ionawr 2005 ymlaen.

(3Diddymir rheoliadau 3 (mesur sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant), 5 (mesur plwm yn yr aer) a 7 (mesur nitrogen dioxide yn yr atmosffer).

(4Diddymir rheoliad 6 (gwerth terfyn ar gyfer nitrogen dioxide yn yr atmosffer) o 1 Ionawr 2010 ymlaen.

(5O 19 Gorffennaf 2001 tan 1 Ionawr 2005, os caiff y dulliau a ragnodir gan y rheoliadau hyn ar gyfer asesu mater gronynnol mewn daliant eu defnyddio er mwyn dangos y cydymffurfiwyd ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 80/779/EEC dyddiedig 15 Gorffennaf 1980 ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a gwerthoedd bras ar gyfer gronynnau mewn daliant(5), rhaid i'r data a gesglir fel hyn gael ei luosi â ffactor o 1.2.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad.

Dyddiad

Rheoliadau 2, 8(2), 9(1), 11(5)

ATODLEN 1GWERTHOEDD TERFYN, GODDEFIANNAU, ETC.

RHAN ISULPHUR DIOXIDE

Gwerthoedd terfyn sulphur dioxide

1.1  

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiant(6)Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1.  Terfyn gwerth fesul – awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

1 awr350 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 24 gwaith y flwyddyn galendr150 μg/m3 (43%) ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 20051 Ionawr 2005

2.  Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl

24 awr125 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith y flwyddyn galendrDim un1 Ionawr 2005

3.  Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau

Y flwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth)20 μg/m3Dim un19 Gorffennaf 2001

Trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide

1.2  500 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn mannau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.

Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide

1.3  Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf :

  • dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;

  • unrhyw ragolygon ar gyfer:

  • newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny;

  • yr ardal ddaearyddol o dan sylw;

  • parhad y digwyddiad;

  • y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;

  • y rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.

RHAN IINITROGEN DIOXIDE (NO2) AC OCSIDAU NITROGEN (NOx)

Gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen

2.1  

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1.  Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

1 awr200μg/m3 o NO2 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr50% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 phob 12 mis wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 20101 Ionawr 2010

2.  Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu pobl

Y flwyddyn galendr40μg/m3 o NO250% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 20101 Ionawr 2010

3.  Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant

Y flwyddyn galendr30 μg/m3 o NOxDim un19 Gorffennaf 2001

Trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide

2.2  400 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.

Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide

2.3  Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf:

  • dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;

  • unrhyw ragolygon ar gyfer:

    • newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny;

    • yr ardal ddaearyddol o dan sylw,

    • parhad y digwyddiad;

    • y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;

    • y rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.

RHAN IIIMATER GRONYNNOL (PM10)

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1.  Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

24 awrRhaid peidio â mynd yn uwch na 50μg/m3 o PM10 fwy na 35 gwaith y flwyddyn galendr50% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005.1 Ionawr 2005

2.  Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl

Blwyddyn galendr40 μg/m3 o PM1020% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng bob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005.1 Ionawr 2005

RHAN IVPLWM

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd poblBlwyddyn galendr0.5 μg/m3100% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005.Ionawr 2005

Rheoliad 5(5)

ATODLEN 2TROTHWYON ASESU UCHAF AC ISAF A GORMODEDDAU

RHAN ITrothwyon asesu uchaf ac isaf

Bydd y trothwyon asesu uchaf ac isaf canlynol yn gymwys:

(a)SULPHUR DIOXIDE

Diogelu iechydDiogelu ecosystemau
Trothwy asesu uchaf60 % o'r gwerth terfyn 24-awr (75 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)60 % o werth terfyn y gaeaf (12 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf40 % o'r gwerth terfyn 24-awr (50 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)40 % o werth terfyn y gaeaf (8μg/m3 )

(b)NITROGEN DIOXIDE AC OCSIDAU NITROGEN

Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl(NO2)Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl(NO2)Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant(NOx)
Trothwy asesu uchaf70 % o'r gwerth terfyn (140 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)80 % o'r gwerth terfyn(32 μg/m3)80 % o'r gerth terfyn(24 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf50 % o'r gwerth terfyn (100 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)65 % o'r gwerth terfyn (26 μg/m3 )65 % o'r gwerth terfyn(19.5 μg/m3 )

(c)MATER GRONYNNOL(7)

Cyfartaledd 24-awrCyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf60 % o'r gwerth terfyn (30 μg/m3, y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)70 % o'r gwerth terfyn (14 μg/m3)
Trothwy asesu isaf40 % o'r gwerth terfyn (20 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr)50 % o'r gwerth terfyn (10 μg/m3 )

(d)PLWM

Cyfartaledd blynyddol
Trothwy asesu uchaf70 % o'r gwerth terfyn (0.35 μg/m3 )
Trothwy asesu isaf50 % o'r gwerth terfyn (0.25 μg/m3 )

RHAN IIDarganfod enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf

Rhaid crynhoi enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar sail crynodiadau yn ystod y pum mlynedd blaenorol os oes data digonol ar gael. Bernir yr aed yn uwch na'r trothwy asesu os yw cyfanswm yr enghreifftiau o fynd yn uwch na'r crynodiad rhifyddol yn ystod y pum mlynedd hynny yn fwy na thair gwaith nifer yr enghreifftiau a ganiateir bob blwyddyn.

Os oes llai na phum mlynedd o ddata ar gael, gall ymgyrchoedd mesur byr eu parhad yn ystod y cyfnod hwnnw yn y flwyddyn ac yn y mannau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf gael eu cyfuno â chanlyniadau a geir o'r wybodaeth o restrau allyriannau a gwaith modelu er mwyn darganfod enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf.

Rheoliad 7(3)

ATODLEN 3LLEOLI PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESUR SULPHUR DIOXIDE, NITROGEN DIOXIDE AC OCSIDAU NITROGEN, MATER GRONYNNOL A PHLWM YN YR AER AMGYLCHYNOL

Caiff yr ystyriaethau canlynol eu cymhwyso at fesuriadau sefydlog.

RHAN ILleoli ar y raddfa macro

Diogelu iechyd pobl

(a)Dylai pwyntiau samplu a gyferir at ddiogelu iechyd pobl gael eu lleoli:

(i)i ddarparu data am yr ardaloedd mewn parthau a chrynoadau lle ceir y crynodiadau uchaf y mae'r boblogaeth yn debyg o gael ei datguddio iddynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol am gyfnod sy'n arwyddocaol mewn perthynas â chyfnod cyfartaleddu y gwerth(oedd) terfyn;

(ii)i ddarparu data am lefelau mewn ardaloedd eraill yn y parthau a'r crynoadau sy'n gynrychioliadol o ddatguddiad y boblogaeth gyffredinol.

Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffiniau. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol heb fod yn llai na 200 m2 ar safleoedd sy'n ymwneud â thraffig ac o sawl cilometr sgwâr ar safleoedd â chefndir trefol.

  • Hefyd, os oes modd, dylai'r pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o fannau tebyg nad ydynt yn eu cyffiniau.

  • Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i leoli pwyntiau samplu ar ynysoedd, os oes angen gwneud hynny i ddiogelu iechyd pobl.

Diogelu ecosystemau a llystyfiant

(b)Dylai pwyntiau samplu sydd wedi'u targedu ar ddiogelu ecosystemau neu lystyfiant gael eu lleoli fwy nag 20 km o grynoadau neu fwy na 5 km o fannau adeiledig eraill, sefydliadau diwydiannol neu draffyrdd. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol o 1000 km2 o leiaf. Gall pwynt samplu gael ei leoli yn llai pell i ffwrdd neu i fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardal lai estynedig, gan gymryd yr amodau daearyddol i ystyriaeth.

Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i asesu ansawdd yr aer ar ynysoedd.

RHAN IILleoli ar raddfa micro

Dylid bodloni'r canllawiau canlynol cyn belled ag y bo'n ymarferol:

  • dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod yn ddigyfyngiad heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr (rai metrau i ffwrdd fel rheol o adeiladau, balconïau, coed, a rhwystrau eraill ac o leiaf 0.5m o'r adeilad agosaf yn achos pwyntiau samplu sy'n cynrychioli ansawdd yr aer ar linell yr adeiladau);

  • yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5 m (y parth anadlu) a 4 m uwchlaw'r ddaear. Gall fod angen safleoedd uwch (hyd at 8 m) o dan rai amgylchiadau. Gall safle uwch fod yn briodol hefyd os yw'r orsaf yn cynrychioli ardal fawr;

  • ni ddylai profiedydd y fewnfa gael ei leoli yng nghyffiniau ffynonellau er mwyn osgoi mewnlifiad uniongyrchol o allyriannau sydd heb eu cymysgu â'r aer amgylchynol;

  • dylai allfa wacáu y samplwr gael ei lleoli er mwyn osgoi ailgylchu'r aer o'r allfa i fewnfa'r samplwr;

  • lleoli samplwr sy'n anelu at draffig;

  • ar gyfer pob llygryn, dylai'r pwyntiau samplu hyn fod o leiaf 25 m o ymyl cyffyrdd pwysig ac o leiaf 4 m o ganol y lôn draffig agosaf;

  • ar gyfer nitrogen dioxide, ni ddylai'r mewnfeydd fod yn fwy na 5 m o ymyl y cwrbyn;

  • ar gyfer mater gronynnol a phlwm, dylid lleoli'r mewnfeydd i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer yn ymyl llinell yr adeiladau.

Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:

  • ffynonellau sy'n ymyrryd;

  • diogelwch;

  • hygyrchedd;

  • a oes pwer trydan a chysylltiadau ffôn ar gael;

  • gwelededd y safle mewn perthynas â'i amgylchoedd;

  • diogelwch y cyhoedd a'r gweithredwyr;

  • a yw'n ddymunol cyd-leoli pwyntiau samplu gwahanol lygrynnau;

  • gofynion cynllunio.

RHAN IIIDogfennu ac adolygu'r gwaith o ddewis safleoedd

Dylai'r gweithdrefnau ar gyfer dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu'r safleoedd yn rheolaidd, gan ailadrodd y gwaith dogfennu, i sicrhau bod y meini prawf dewis yn aros yn ddilys dros amser.

Rheoliad 7(4)

ATODLEN 4MEINI PRAWF AR GYFER DARGANFOD ISAFSYMIAU'R PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESURIADAU SEFYDLOG CRYNODIADAU'R LLYGRYNNAU PERTHNASOL YN YR AER AMGYLCHYNOL

RHAN IIsafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu a ydys yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl a throthwyon rhybuddio mewn parthau a chrynoadau os mesuriadau sefydlog yw'r unig ffynhonnell wybodaeth

Ffynonellau gwasgarog

Poblogaeth y crynhoad neu'r parth (miloedd)Os yw'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchafOs yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isafAr gyfer SO2 ac NO2 mewn crynoadau lle mae'r crynodiadau uchaf islaw'r trothwyon asesu isaf
0–25011ddim yn gymwys
250–499211
500–749211
750–999311
1 000–1 499421
1 500–1 999521
2 000–2 749632
2 750–3 749732
3 750–4 749842
4 750– 5 999942
> 6 0001053
Ar gyfer NO2 a mater gronynnol: i gynnwys o leiaf un orsaf â chefndir trefol ac un orsaf sy'n cyfeirio at draffig

Ffynonellau pwynt

(b)I asesu llygredd yng nghyffiniau ffynonellau pwynt, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth ddwyseddau allyriannau, patrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl y boblogaeth.

RHAN IIIsafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu a ydys yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau heblaw crynoadau

Os yw'r crynodiadau uchaf yn uwch na'r trothwy asesu uchafOs yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf
Mewn parthau ar ynysoedd, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth batrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl yr ecosystemau neu'r llystyfiant.
1 orsaf i bob 20 000 km21 orsaf i bob 40 000 km2

Rheoliad 7(5), (8)

ATODLEN 5AMCANION ANSAWDD DATA A LLUNIO CANLYNIADAU ASESIADAU ANSAWDD AER

RHAN IAmcanion ansawdd-data

Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer y cywirdeb y mae ei angen ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.

Sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogenMater gronynnol a phlwm

Diffinnir cywirdeb y gwaith mesur fel y mae wedi'i nodi yn y “Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements” (ISO 1993)(8) neu ISO 5725–1 “Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results” (ISO 1994)(8). Mae'r canrannau yn y tabl yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 98% (bias + dwy waith y gwyriad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau di-dor gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol.

Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth.

Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn.

Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer mater gronynnol a phlwm drwy ddulliau y dangoswyd bod eu cywirdeb o fewn y cyfwng hyder 95% mewn perthynas â monitro di-dor wedi bod o fewn 10%.

Mesur di-dor
Cywirdeb15 %25 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data90 %90 %
Mesur dangosol
Cywirdeb25 %50 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data90 %90 %
Isafswm amser14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)
Modelu
Cywirdeb: Cyfartaleddau fesul-awr Cyfartaleddau dyddiol Cyfartaleddau blynyddol50 %–60 % 50 % 30 %50 %
Amcangyfrif gwrthrychol
Cywirdeb:75 %100 %

RHAN IICanlyniadau asesiadau ansawdd aer

Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i gydategu'r wybodaeth o fesuriadau neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd yr aer:

  • disgrifiad o'r gweithgareddau asesu a wnaed;

  • y dulliau penodol a ddefnyddiwyd, gan gyfeirio at ddisgrifiadau o'r dull;

  • y ffynonellau data a gwybodaeth;

  • disgrifiad o'r canlyniadau, gan gynnwys y cywirdebau ac, yn benodol, hyd a lled unrhyw ardal neu, os yw'n berthnasol, hyd y ffordd yn y parth neu'r crynhoad lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r gwerth(oedd) terfyn neu, yn ôl fel y digwydd, y gwerth(oedd) terfyn plws goddefiant/goddefiannau cymwysadwy a hyd a lled unrhyw ardal lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r trothwy asesu uchaf neu'r trothwy asesu isaf);

  • ar gyfer gwerthoedd terfyn sy'n anelu at ddiogelu iechyd pobl, y boblogaeth a allai gael ei datguddio i grynodiadau sydd yn uwch na'r gwerth terfyn.

Os oes modd rhaid llunio mapiau sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth a chrynhoad.

Rheoliad 7(6)

ATODLEN 6DULLIAU CYFEIRIO AR GYFER ASESU CRYNODIADAU SULPHUR DIOXIDE, NITROGEN DIOXIDE AC OCSIDAU NITROGEN, MATER gronynnol (PM10 A PM2·5) A PHLWM

RHAN IDull cyfeirio ar gyfer dadansoddi sulphur dioxide;

ISO/FDIS 10498 (Safon ar ffurf drafft) Ambient air – determination of sulphur dioxide – ultraviolet fluorescence method(9).

RHAN IIDull cyfeirio ar gyfer dadansoddi nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen:

ISO 7996: 1985 Ambient air – determination of the mass concentrations of nitrogen oxides – chemiluminescence method(9).

RHAN IIIADull cyfeirio ar gyfer samplu plwm:

Y dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm fydd y dull a ddisgrifir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/884/EEC(10) nes yr amser pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, pryd y bydd y dull cyfeirio yr un fath ag ar gyfer PM10 sydd wedi'i nodi yn Rhan IV o'r Atodlen hon.

RHAN IIIBDull cyfeirio ar gyfer dadansoddi plwm:

ISO 9855: 1993 Ambient air – Determination of the particulate lead content of aerosols collected in filters. Atomic absorption spectroscopy method(9).

RHAN IVDull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10

Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 fydd y dull a ddisgrifir yn EN 12341 “Air Quality – Field Test Procedure to Demonstrate Reference Equivalence of Samplung Methods for the PM10 fraction of particulate matter”(11). Mae'r egwyddor fesur wedi'i seilio ar gasglu'r gyfran PM10 o fater gronynnol amgylchynol ar hidlwr a darganfod y màs grafimetrig.

Rheoliad 9(1), (3), (4)

ATODLEN 7GWYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y CYNLLUN NEU'R RHAGLEN AR GYFER GWELLA ANSAWDD AER

Lleoli llygredd gormodol

  • 1.  rhanbarth

  • dinas (map)

  • gorsaf fesur (map, cyfesurynnau daearyddol);

Gwybodaeth gyffredinol

  • 2.  y math o barth (dinas, ardal ddiwydiannol neu wledig)

  • amcangyfrif o'r ardal lygredig (km2) ac o'r poblogaethau sydd wedi'u datguddio i'r llygredd

  • data defnyddiol am yr hinsawdd

  • data perthnasol am y dopograffeg

  • digon o wybodaeth am y math o dargedau y mae angen eu diogelu yn y parth.

Yr awdurdodau cyfrifol

3.  Enwau a chyfeiriadau'r personau sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gwella a'u rhoi ar waith.

Natur y llygredd a'i asesu

  • 4.  y crynodiadau a welwyd dros y blynyddoedd blaenorol (cyn gweithredu'r mesurau gwella)

  • y crynodiadau a fesurwyd ers dechrau'r project

  • y technegau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesu

Tarddiad y llygredd

  • 5.  rhestr o'r prif ffynonellau allyrru sy'n gyfrifol am y llygredd (map)

  • cyfanswm yr allyriannau o'r ffynonellau hyn (tunelli y flwyddyn)

  • gwybodaeth am lygredd sydd wedi'i fewnforio o ranbarthau eraill.

Dadansoddiad o'r sefyllfa

  • 6.  manylion y ffactorau hynny sy'n gyfrifol am y gormodedd (trafnidiaeth, gan gynnwys trafnidiaeth ar draws ffiniau, ei ffurfiant)

  • manylion y mesurau posibl ar gyfer gwella ansawdd yr aer.

Manylion y mesurau neu'r projectau ar gyfer gwelliannau a oedd yn bodoli cyn 21 Tachwedd 1996, h.y.

  • 7.  mesurau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, rhyngwladol

  • yr effeithiau a welwyd yn sgil y mesurau hynny

Manylion y mesurau neu'r projectau hynny a fabwysiadwyd gyda golwg ar leihau llygredd ar ôl 21 Tachwedd 1996

  • 8.  rhestr a disgrifiad o'r holl fesurau a nodwyd yn y project

  • amserlen ar gyfer gweithredu

  • amcangyfrif o'r gwelliant y bwriedir ei gael yn ansawdd yr aer ac o'r amser y disgwylir y bydd ei angen i gyrraedd yr amcanion hynny.

Manylion y mesurau neu'r projectau sydd wedi'u cynllunio neu sy'n cael eu hymchwilio at y tymor hir.

Rhestr o'r cyhoeddiadau, y dogfennau, y gwaith, etc. a ddefnyddiwyd i gydategu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn yr Atodlen hon.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ynghylch asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, a Chyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm, sef “y llygrynnau perthnasol” mewn aer amgylchynol.

Mae rheoliad 3 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd crynodiadau'r llygrynnau perthnasol ym mhob parth yng Nghymru yn uwch na'r gwerthoedd terfyn. Nodir gwerthoedd terfyn pob llygryn, ac erbyn pa bryd y mae'n rhaid eu cyrraedd, yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr aer amgylchynol yn cael ei asesu ar gyfer pob parth.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol. Mae rheoliad 5, ynghyd ag Atodlen 2, yn darparu ar gyfer darganfod y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer pob llygryn perthnasol, ac mae rheoliad 5 yn nodi'r gofynion ar gyfer mesur ansawdd aer, neu ei asesu fel arall, yn dibynnu ar lefelau'r llygredd mewn perthynas â'r trothwyon hyn.

Mae rheoliad 6 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu dosbarthiad y parthau bob pum mlynedd neu os ceir newidiadau arwyddocaol sy'n effeithio ar lefelau unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod dulliau penodedig yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer ar gyfer pob llygryn ym mhob parth. Mae Atodlen 3 yn nodi sut y mae'n rhaid pennu'r pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol. Mae Atodlen 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu'r cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn mewn parthau lle nad oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall, ac â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau penodol eraill. Yn Atodlen 5 gwneir darpariaeth ar gyfer amcanion ansawdd data ar gyfer cywirdeb angenrheidiol y dulliau asesu, ac ar gyfer llunio canlyniadau'r asesiadau ansawdd aer. Mae Atodlen 6 yn rhagnodi'r dulliau cyfeirio ar gyfer y dadansoddi'r llygrynnau perthnasol, eu samplu neu eu mesur. Mae rheoliad 7(7) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gorsafoedd mesur yn cyflenwi data ar grynodiadau mater gronynnol PM2.5.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os oes risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide. Nodir trothwyon rhybuddio sulphur dioxide a nitrogen dioxide ym mharagraff 1.2 o Ran I a pharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1, yn y drefn honno.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestrau o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch na'r gwerth terfyn, neu rhwng y gwerth terfyn ac unrhyw oddefiant a ddangosir yn Atodlen 1. Ar gyfer parthau o'r fath, mae rheoliad 9 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun neu raglen, y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7 (gan gynnwys lleoliad a tharddiad y llygredd, yr awdurdodau cyfrifol a'r mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r llygredd).

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol restru parthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol o dan y gwerthoedd terfyn, a hynny er mwyn sicrhau bod lefelau'r llygrynnau hyn yn cael eu cadw o dan y gwerthoedd terfyn, ac er mwyn ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y trefnir bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd, a hynny fel rhan o'r drefn. Mae'n rhagnodi amlder a chynnwys yr wybodaeth hon. Os eir yn uwch na'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide, rhaid darparu gwybodaeth bellach, a nodir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1. (Mae hyn yn cynnwys manylion lle ac amser y digwyddiad, rhagolygon, a'r rhagofalon sydd i'w cymryd gan boblogaethau sensitif).

Mae rheoliad 12 yn diddymu, ar gyfer Cymru, ac ar wahanol ddyddiadau, rannau o Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 sy'n rhoi effaith i werthoedd terfyn y llygrynnau perthnasol mewn cyfarwyddebau cynharach. Yn eu tro, yr oedd Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 80/779/EEC ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a chanllawiau ar gyfer sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant; Cyfarwyddeb y Cyngor 82/884/EEC ynghylch gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer; a Chyfarwyddeb y Cyngor 85/203/EEC ynghylch safonau ansawdd aer ar gyfer nitrogen dioxide. Mae'r Cyfarwyddebau hyn wedi'u diddymu, gyda darpariaethau trosiannol hyd at 2005 a 2010, gan Gyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.

Mae nifer o ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn rhoi pwerau i gyrff cyhoeddus sy'n berthnasol ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm yn yr aer amgylchynol. Dyma'r mwyaf nodedig ohonynt —

1.  Darpariaethau sy'n rhoi pwer i'r awdurdodau lleol —

(a)ynghylch “local air quality management” o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25);

(b)ar gyfer rheoli allyriannau mwg o dan Ddeddf Aer Glân 1993 (p.11);

(c)ar gyfer cymryd materion ansawdd aer i ystyriaeth wrth wneud cynlluniau ar gyfer cynllunio defnyddio tir a thrafnidiaeth;

(ch)ar gyfer rheoli twf traffig ac ar gyfer rheoli traffig, o dan Ddeddf Lleihau Traffig Ffyrdd 1997 (p.54), Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) a Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40).

2.  Rheoli allyriannau diwydiannol —

(a)gan yr awdurdodau lleol drwy gyfrwng “local air pollution control” a chan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan “integrated pollution control” o dan Ran I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43);

(b)gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol drwy ddefnyddio “integrated pollution prevention and control” o dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24) a Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973).

3.  Rheoli allyriannau trafnidiaeth —

(5)

OJ L229, 30.8.1980, t.30

(6)

Mae'r ffigurau ar gyfer Goddefiannau ar gyfer pob un o'r llygrynnau perthnasol a roddir yn yr Atodlen hon wedi'u cyfrifo o'r rhai a roddir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 99/30/EC. Rhoes honno ffigur uwchlaw gwerth terfyn pob llygryn perthnasol, gan ostwng yn ôl canrannau blynyddol cyfartal o'r dyddiad y daeth y Gyfarwyddeb honno i rym ym 1999.

(7)

Mae'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer PM10 wedi'u seilio ar y gwerthoedd terfyn dangosol canlynol ar gyfer 1 Ionawr 2010, a gaiff eu hadolygu yng ngoleuni gwybodaeth bellach am yr effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd, ymarferoldeb technegol a phrofiad wrth gymhwyso gwerthoedd terfyn presennol “Cyfnod 1”:

Cyfnod CyfartaledduGwerth terfynGoddefiantErbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn

1.  Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

24 awr50 μg/m3 o PM10 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 7 gwaith y flwyddyn galendrI'w gyfrifo o'r dyddiad ac i fod yn gyfartal â gwerth terfyn Cyfnod 11 Ionawr 2010

2.  Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl

Blwyddyn galendr20 μg/m3 o PM1050% ar 1 Ionawr 2005 gan ostwng bob12 mis wedyn yn ôl canrannau cyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 20101 Ionawr 2010
(8)

Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(9)

Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(10)

OJ 1378, 31.12.1982, t.15.

(11)

Cyhoeddiad y “CEN”, Sefydliad Safonau Ewrop, cyfeirnod BSEN 12341, sydd ar gael oddi wrth Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel ar gyfer troednodyn (a) uchod.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources