Search Legislation

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 275 (Cy.11)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

30 Ionawr 2001

Yn dod i rym

1 Chwefror 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynod(1)) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • mae i “addysg feithrin” yr ystyr a roddir i “nursery education” gan adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

  • mae i “addysg gynradd” yr ystyr a roddir i “primary education” gan adran 2(1) o Ddeddf Addysg 1996 (4));

  • ystyr “y Bwrdd” (“the Board”) yw'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynhyrchion Amaethyddol a sefydlwyd o dan adran 6(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

  • ystyr “ceisydd” (“claimant”) yw sefydliad addysgol cymwys neu awdurdod addysg lleol neu unrhyw gorff arall sy'n gwneud cais am gymorth Cymunedol neu gymorth gwladol mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymwys ar ran sefydliad addysgol cymwys;

  • ystyr “cost cyflenwi” (“cost of supply”) mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymwys yw cost eu prynu plws swm y mae'n rhesymol i'r Cynulliad ystyried ei fod yn ddigonol i dalu costau caffael a gweinyddu cyflenwi'r cynhyrchion llaeth hynny;

  • ystyr “y costau gweddilliol” (“the residual costs” ) yw'r costau cyflenwi, a dynnir gan brynwr mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i sefydliad addysgol cymwys, llai unrhyw gymorth Cymunedol a chymorth gwladol a gyfrifir drwy gyfeirio at reoliad 4(2)(d) a all gael ei roi mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw;

  • mae i “cyfnod allweddol 2” yr ystyr a roddir i “key stage 2” gan adran 355 o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth y Gymuned Ewropeaidd sy'n cael ei roi yn unol ag Erthygl 14 o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “cymorth gwladol” (“national aid”) yw cymorth a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 14(2) o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “cynhyrchion llaeth cymwys” (“qualifying milk products”) yw'r llaeth a'r cynhyrchion llaeth a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn fel cynhyrchion sy'n gymwys ar gyfer cymorth Cymunedol;

  • ystyr “cynllun cymhorthdal y Gymuned Ewropeaidd” (“the European Community subsidy scheme” ) yw cynllun y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth cymorthdaledig i ddisgyblion sy'n mynychu sefydliadau addysgol fel y mae wedi'i sefydlu gan Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn ac yn cael ei weinyddu ym Mhrydain Fawr gan y Bwrdd;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “disgyblion cymwys” (“eligible pupils”) yw disgyblion sy'n derbyn addysg gynradd heblaw'r rhai sydd yng nghyfnod allweddol 2 neu'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin;

  • ystyr “yr hyn sy'n gyfwerth â llaeth” (“milk equivalent”) yw'r swm a bennir yn Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn fel swm sy'n cynrychioli'r cynnwys sy'n gyfwerth â llaeth mewn cynhyrchion llaeth penodol;

  • ystyr “y rheolau Cymunedol” (“the Community rules”) yw'r rheolau a bennir gan Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn ynghylch darparu llaeth a chynhyrchion llaeth cymorthdaledig i ddisgyblion sy'n mynychu sefydliadau addysgol;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation” ) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) 2707/2000 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1255/1999 mewn perthynas â chymorth Cymunedol ar gyfer cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol(5);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) 1255/1999 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth(6); ac

  • ystyr “sefydliad addysgol cymwys” (“qualifying educational establishment”) yw sefydliad sy'n darparu addysg gynradd ac sydd wedi'i gofrestru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy ei awdurdod addysg lleol neu gorff arall, gyda'r Bwrdd, er mwyn cymryd rhan yng nghynllun cymhorthdal y Gymuned Ewropeaidd.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Rhoi cymorth gwladol

3.  Yn ddarostyngedig i Reoliad 4 gall y Cynulliad Cenedlaethol roi cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i ddisgyblion sy'n derbyn addysg gynradd sy'n mynychu sefydliadau addysgol cymwys.

Amodau a chyfyngiadau sy'n gymwys ar gyfer rhoi cymorth gwladol

4.—(1Rhaid i gymorth gwladol o dan Reoliad 3 gael ei roi yn ddarostyngedig i'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r amodau a'r cyfyngiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a)bod y ceiswyr wedi'u cofrestru neu wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd at ddibenion gwneud cais am gymorth Cymunedol;

(b)bod y Bwrdd yn cael ei fodloni bod ceisydd a sefydliad addysgol cymwys (os yw'n wahanol) yn cydymffurfio, a'u bod wedi cydymffurfio â'r rheolau Cymunedol ac unrhyw rwymedigaethau neu ofynion eraill a all fod wedi'u hysbysu iddynt gan y Bwrdd mewn cysylltiad â'u cyfranogiad yng nghynllun cymorthdaliadau'r Gymuned Ewropeaidd;

(c)mai 0.25 litr o laeth neu o'r hyn sy'n gyfwerth â llaeth yn ôl fel y digwydd am bob disgybl sydd ar gofrestr yr ysgol am bob diwrnod ysgol fydd y swm mwyaf o gynhyrchion llaeth cymwys y gall cymorth gwladol gael ei roi ar ei gyfer yn achos unrhyw sefydliad addysgol cymwys;

(ch)y cyfyngir y cymorth gwladol, yn ddarostyngedig i Reoliad 5 —

(i)yn achos cyflenwi llaeth cyflawn, i swm sy'n cynrychioli'r gwerth sterling sy'n gyfwerth â 6.2 ewro i bob 100 kilogram, neu

(ii)yn achos cyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys heblaw llaeth cyflawn, i swm sydd i'w bennu o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i hysbysu mewn ysgrifen i geiswyr

Cymorth gwladol ychwanegol ar gyfer disgyblion cymwys

5.  Pan fydd cymorth gwladol yn cael ei roi mewn cysylltiad â chyflenwi cynnyrch llaeth cymwys sydd naill ai â chyflas neu hebddo, yn llaeth cyflawn neu'n laeth hanner sgim i ddisgyblion cymwys, gall y swm a roddir fod yn swm digonol i dalu'r costau gweddilliol a fuasai fel arall yn cael eu talu gan y disgyblion neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw.

Talu cymorth gwladol

6.  Rhaid i gymorth gwladol a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Rheoliad 3 gael ei dalu i geiswyr gan y Bwrdd yn gweithredu fel asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dal cymorth gwladol yn ôl a'i adennill

7.  Caiff y Bwrdd ddal yn ôl neu adennill oddi ar unrhyw geisydd y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth gwladol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw yn fodlon nad yw'r ceisydd neu sefydliad addysgol cymwys y mae ceisydd wedi gwneud cais mewn perthynas ag ef yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir yn rheoliad 4(2).

Y gyfradd gyfnewid gymwysadwy

8.—(1At ddibenion cyfrifo cymorth gwladol mewn sterling, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'r gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro sydd i'w chymhwyso at gyfrifiad o'r fath ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff ei diwygio o dro i dro.

(2Cyn unrhyw ddiwygiad arfaethedig ar y gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi o leiaf 14 diwrnod o hysbysiad ysgrifenedig i geiswyr am y gyfradd ddiwygiedig sydd i'w chymhwyso.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2001, yn pennu mesurau gweithredu mewn perthynas ag Erthygl 14(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255 / 1999 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.48).

Mae'r Rheoliadau yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth gwladol (sy'n cydategu cymorth y Gymuned Ewropeaidd) mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i blant sy'n derbyn addysg gynradd.

Mae'r Rheoliadau yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol roi cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi uchafswm o 0.25 litr o laeth (neu o'r hyn sy'n gyfwerth â llaeth yn achos cynhyrchion llaeth penodol), fesul plentyn fesul diwrnod ysgol.

Y plant sy'n elwa ar gymorth gwladol o dan y Rheoliadau hyn yw'r rhai sy'n mynychu sefydliad sy'n darparu addysg gynradd ac sydd wedi'i gofrestru gyda'r Bwrdd Ymyrraeth Cynhyrchion Amaethyddol at ddibenion cynllun y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer cyflenwi cynhyrchion llaeth cymorthdaledig.

Mae'r Rheoliadau yn darparu bod rhaid i raddfa'r cymorth gwladol a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol gael ei gyfyngu —

(a) yn achos cyflenwi llaeth cyflawn, i swm sy'n cynrychioli'r gwerth sterling sy'n gyfwerth â 6.2 ewro i bob 100 kilogram; neu

(b)yn achos cyflenwi yr holl gynhyrchion llaeth eraill sy'n gymwys, i swm sydd i'w benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i hysbysu yn ysgrifenedig i geiswyr.

Er hynny, os oes cymorth gwladol yn cael ei roi mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth cyflawn neu laeth hanner sgim, â chyflas neu heb gyflas, i ddisgyblion cynradd heblaw'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin neu'r rhai yng nghyfnod allweddol 2, mae'r Rheoliadau'n darparu y gall cyfanswm y cymorth hwnnw fod yn swm sy'n ddigonol er mwyn talu unrhyw gost a fuasai fel arall yn gorfod cael ei thalu gan y disgyblion hynny neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid o dan amgylchiadau lle nad yw cymorth y Gymuned Ewropeaidd yn talu'n llawn am gost cyflenwi'r cynhyrchion hynny.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer talu cymorth gwladol i geiswyr gan y Bwrdd Ymyrraeth Cynhyrchion Amaethyddol fel asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol (Rheoliad 6) ac yn darparu hefyd ar gyfer dal yn ôl ac adennill cymorth o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu bod y gyfradd gyfnewid gymwys rhwng yr euro a sterling sydd i'w defnyddio wrth gyfrifo cymorth gwladol i gael ei phennu o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i hysbysu mewn ysgrifen i'r ceiswyr (Rheoliad 8).

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788).

(5)

OJ Rhif L311, 12.12.2000, t.37.

(6)

OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.48.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources