- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
25 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym
1 Awst 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991(3) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rheoliad 17, ym mharagraff (2), yn lle “£30.39” rhowch “£31.39”.
(3) Yn Rheoliad 18,
(a)ym mharagraff (1), yn lle “£30.39” rhowch “£31.39”;
(b)ym mharagraff (2),
(i)yn is-baragraff (a) yn lle “£27.65” rhowch “£28.81”; a
(ii)yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle “£55.31” rhowch “£57.63.”.
3. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000(4) wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Gorffennaf 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gwneud darpariaeth i aelod o gyngor plwyf yn Lloegr neu o gyngor cymuned yng Nghymru sy'n gynghorydd gael taliad yn lwfans presenoldeb nad yw'n fwy na'r swm a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau ac i aelod o gyngor o'r fath nad oes ganddo hawl i gael taliad o'r fath gael taliad yn lwfans colled ariannol nad yw'n fwy na'r swm a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau.
Mae adran 175 o Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu i aelod o awdurdod lleol neu o unrhyw gorff arall y mae'r adran honno'n gymwys iddo lwfans am fynd i gynhadledd neu gyfarfod nad yw'n fwy nag unrhyw swm a bennir mewn rheoliadau neu y penderfynir arnynt o danynt.
Mae Rheoliad 17 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 yn pennu swm at ddibenion adran 175 o Ddeddf 1972 ac mae Rheoliad 18 o'r Rheoliadau hynny'n pennu symiau at ddibenion adran 173 o'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 17 a 18 o Reoliadau 1991 drwy gynyddu'r symiau perthnasol, ac yn diddymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000.
1972 p. 70. Diwygiwyd adran 173 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65), adran 24(1) a chan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), Atodlen 11, paragraff 26. Mewnosodwyd adran 175(1) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Atodlen 11, paragraff 27. I gael y diffiniad o “prescribed” gweler adran 270 o Ddeddf 1972.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1991/351; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2000/2492.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: