Search Legislation

Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2787 (Cy.237)

COMISIYNYDD PLANT, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001

Wedi'i wneud

25 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

At bob diben heblaw Rheoliad 21(1)

26 Awst 2001

At ddibenion Rheoliad 21(1)

1 Hydref 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 73(4)(b) a (5), 74(1) i (3) a (6), 76(1), (1A), (2), (4) a (5), 77(2), 78(1A) a (6), 118(4) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) a pharagraffau 6(4) ac 8 o Atodlen 2 iddi:

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 a deuant i rym at ddibenion paragraff (1) o reoliad 21 ar 1 Hydref 2001 ac at bob diben arall ar 26 Awst 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adolygiad swyddogaethau” (“a functions review”) yw adolygiad o'r effaith a gâi arfer swyddogaethau, neu'r bwriad i arfer swyddogaethau, ar blant yn unol ag adran 72B(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “adolygiad trefniadau” (“arrangements review”) yw adolygiad o'r trefniadau mewn perthynas â chŵ ynion, chwythu'r chwiban neu eiriolaeth yn unol ag adran 73(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Plant Cymru;

  • ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

  • dehonglir “gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru” (“regulated children’s services in Wales”) a “darparydd” (“provider”), mewn perthynas â gwasanaethau o'r fath, yn unol ag adran 78 o'r Ddeddf ac eithrio bod cyfeiriadau at wasanaethau o'r fath ac at ddarparwyr gwasanaethau o'r fath hefyd yn cael eu dehongli yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 5 i'r Ddeddf i'r perwyl eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at wasanaethau y mae'n bosibl nad ydynt ar unrhyw adeg yn cael eu rheoli o dan y Ddeddf neu at ddarparwyr y gwasanaethau hynny ar adeg felly, wrth ddisgwyl i ddarpariaethau perthnasol yn y Ddeddf ddod i rym;

  • ystyr “plant perthnasol” (“relevant children”) yw plant y mae Rhan V o'r Ddeddf yn gymwys iddynt;

  • ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;

  • ystyr “trefniadau mewn perthynas â chŵynion, chwythu'r chwiban neu eiriolaeth” (“arrangements in relation to complaints, whistle-blowing or advocacy”) yw trefniadau sy'n dod o fewn is-adran (2), (2A), (2B), (2C), (3), neu (4) o adran 73 o'r Ddeddf yn ol fel y digwydd.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—

(a)at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

RHAN IIADOLYGU A MONITRO TREFNIADAU

Cyngor a chymorth a ragnodir

2.  Dyma'r math o gyngor a chymorth a ragnodir at ddibenion adran 73(4)(b) o'r Ddeddf—

(a)rhoi cyngor a chymorth i blant perthnasol y bwriedir iddynt eu galluogi neu eu helpu i fynegi eu barn a'u dymuniadau ar lafar neu drwy ddefnyddio unrhyw ddull cyfathrebu arall, a

(b)rhoi cyngor (gan gynnwys gwybodaeth) i blant o'r fath ynghylch eu hawliau a'u lles.

Rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig

3.—(1Caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo roi gwybodaeth i'r Comisiynydd, wedi'i chofnodi ar unrhyw ffurf, y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus ei chael at ddibenion

(a)adolygu a monitro trefniadau mewn perthynas â chŵ ynion, chwythu'r chwiban neu eiriolaeth, a

(b)asesu effaith methiant unrhyw berson i wneud trefniadau o'r fath yn unol ag adran 73(1A) o'r Ddeddf.

(2Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)Mewn perthynas â darparu gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru, darparwyr neu gyn-ddarparwyr gwasanaethau o'r fath, cyflogeion neu gyn-gyflogeion darparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath, personau sy'n gweithio neu a fu'n gweithio i ddarparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath yn wirfoddol, ac aelodau a chyflogeion a chyn-aelodau a chyn-gyflogeion y Cynulliad;

(b)(i)Aelodau (gan gynnwys aelodau etholedig), cyfarwyddwyr, gweithredwyr, swyddogion a chyflogeion person perthnasol, cyn-aelodau, cyn-gyfarwyddwyr, cyn-weithredwyr, cyn-swyddogion a chyn-gyflogeion person perthnasol a phersonau sy'n gweithio neu a fu'n gweithio i berson perthnasol yn wirfoddol;

(ii)At ddibenion is-baragraff (i) ystyr “person perthnasol” yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2B i'r Ddeddf (heblaw'r Cynulliad) sy'n darparu gwasanaethau i blant neu mewn perthynas â phlant yng Nghymru neu berson sy'n darparu gwasanaethau o'r fath ar ran y person hwnnw neu o dan drefniadau ag ef.

(c)Derbynnydd neu reolwr eiddo person sy'n darparu neu a fu'n darparu'r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraffau (a) neu (b), ei ddatodwr neu ei ddatodwr dros dro neu ei ymddiriedolwr mewn methdaliad, yn ôl fel y digwydd.

RHAN IIIARCHWILIO ACHOSION

Archwiliadau

4.  Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yn y Rhan hon caiff y Comisiynydd archwilio achosion plant penodol y mae Rhan V o'r Ddeddf yn gymwys iddynt.

Achosion sy'n agored i'w harchwilio

5.  Yn ddarostyngedig i reoliad 6, caiff y Comisiynydd archwilio achosion plant penodol—

(a)y mae gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru yn cael neu wedi cael eu darparu iddynt neu mewn perthynas â hwy;

(b)y mae gwasanaethau yn cael neu wedi cael eu darparu iddynt neu mewn perthynas â hwy gan unrhyw un o'r personau a grybwyllir yn Atodlen 2B i'r Ddeddf neu bersonau sy'n darparu gwasanaethau o'r fath ar ran unrhyw un o'r personau hynny neu o dan drefniadau â hwy; neu

(c)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac y mae arfer, neu'r bwriad i arfer, unrhyw swyddogaeth sydd gan y Cynulliad neu sydd gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2A i'r Ddeddf yn effeithio arnynt neu wedi effeithio arnynt,

os yw'r achosion yn ymwneud â materion sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau o'r fath neu ag effaith arfer y swyddogaethau hynny ar y plant a enwyd.

Yr amgylchiadau y gellir archwilio odanynt

6.  Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caiff y Comisiynydd archwilio achos plentyn penodol:

(a)os cyflwynir sylwadau i'r Comisiynydd gan y plentyn o dan sylw neu, os nad yw'r plentyn am unrhyw reswm yn gallu cyflwyno sylwadau o'r fath, os cyflwynir sylwadau i'r Comisiynydd ar ran y plentyn gan berson sydd, ym marn resymol y Comisiynydd, yn addas i gyflwyno sylwadau o'r fath;

(b)os yw'r Comisiynydd o'r farn bod y sylwadau'n codi cwestiwn o egwyddor sy'n gymwys neu'n berthnasol yn fwy cyffredinol i hawliau neu les plant perthnasol nag yn yr achos penodol o dan sylw; ac

(c)os yw'r Comisiynydd wedi cymryd i ystyriaeth a yw'r materion sydd o dan sylw yn yr achos wedi cael neu yn cael eu hystyried yn ffurfiol mewn unrhyw fodd gan bersonau eraill ac os nad ydynt, a ydynt, ym marn y Comisiynydd, yn fwy addas i gael eu hystyried gan bersonau eraill.

Y weithdrefn ar gyfer cynnal archwiliad

7.—(1Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal archwiliad rhaid iddo—

(a)llunio cylch gwaith yr archwiliad;

(b)anfon y cylch gwaith at y person a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r achos yn unol â pharagraff (a) o reoliad 6;

(c)anfon hysbysiad ysgrifenedig o'r archwiliad arfaethedig a chopïau o'r cylch gwaith at y person (“y person sy'n cael ei archwilio”) y mae ei waith wrth ddarparu gwasanaethau neu wrth arfer swyddogaethau i gael ei archwilio;

(ch)rhoi cyfle i'r person sy'n cael ei archwilio, ac os yw ef yn dymuno hynny, i'w gynrychiolydd, gyflwyno sylwadau mewn ysgrifen neu yn bersonol mewn perthynas â'r materion sy'n cael eu harchwilio.

(2Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal archwiliad rhaid iddo baratoi datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad hwnnw ac anfon copïau ohono—

(a)at y person a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r achos yn unol â pharagraff (a) o reoliad 6, a

(b)at unrhyw bersonau eraill y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn briodol eu hanfon atynt.

Rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad ag archwiliad

8.—(1Wrth gynnal archwiliad caiff y Comisiynydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo roi unrhyw wybodaeth y mae'n ymddangos i'r Comisiynydd y mae angen amdani at ddibenion yr archwiliad o dan sylw;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o'r fath neu berson arall o'r fath a all fod yn atebol am yr wybodaeth honno, roi esboniad neu gymorth i'r Comisiynydd—

(i)mewn perthynas ag unrhyw faterion sy'n destun archwiliad, neu

(ii)mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan is-baragraff (a).

(2Dyma'r personau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt—

(a)Mewn perthynas â darparu gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru, darparwyr neu gyn-ddarparwyr gwasanaethau o'r fath, cyflogeion neu gyn-gyflogeion darparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath, personau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i ddarparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath yn wirfoddol, ac aelodau a chyflogeion a chyn-aelodau a chyn-gyflogeion y Cynulliad;

(b)(i)Aelodau (gan gynnwys aelodau etholedig), cyfarwyddwyr, gweithredwyr, swyddogion a chyflogeion person perthnasol, cyn-aelodau, cyn-gyfarwyddwyr, cyn-weithredwyr, cyn-swyddogion a chyn-gyflogeion person perthnasol a phersonau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i berson perthnasol yn wirfoddol;

(ii)At ddibenion is-baragraff ( i ) ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2A i'r Ddeddf, unrhyw berson arall sy'n arfer swyddogaeth gan y Cynulliad neu unrhyw berson a grybwyllir yn y cyfryw Atodlen 2A, neu unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau i blant neu ar gyfer plant yng Nghymru ar ran unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2B i'r Ddeddf neu o dan drefniant ag ef.

(c)Derbynnydd neu reolwr eiddo person sy'n darparu neu sydd wedi darparu'r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraffau (a) neu (b), ei ddatodwr neu ei ddatodwr dros dro neu ei ymddiriedolwr mewn methdaliad, yn ôl fel y digwydd.

Presenoldeb tystion

9.—(1Caiff y Comisiynydd, os bernir ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwiliad, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo fod yn bresennol yn bersonol gerbron y Comisiynydd i roi gwybodaeth, esboniadau neu gymorth.

(2Y personau y mae'r paragraff hwn yn berthnasol iddynt yw personau y mae'n ofynnol iddynt—

(a)roi gwybodaeth o dan baragraff (1)(a) o reoliad 8, neu

(b)roi esboniad o dan baragraff (1)(b) o reoliad 8.

(3Ni chaiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn bersonol mewn unrhyw le yn unol â pharagraff (1) ond os rhoddwyd i'r person hwnnw hysbysiad ysgrifenedig rhesymol o ddyddiad arfaethedig ei bresenoldeb a'r wybodaeth, yr esboniadau neu'r cymorth y mae ar y Comisiynydd eu hangen.

(4Mewn cysylltiad â phresenoldeb personol o'r fath, caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i adran 74(4) o'r Ddeddf, roi gwysion tystion a gweinyddu llwon neu gadarnhadau a chaiff ganiatáu i berson gael ei gynrychioli gerbron y Comisiynydd.

RHAN IVRHOI CYMORTH

Rhoi cymorth mewn achosion

10.—(1Caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), roi cymorth perthnasol i blentyn perthnasol—

(a)mewn perthynas ag achosion a ragnodir ym mharagraff (2) pan fydd yr achosion, ym marn resymol y Comisiynydd, yn ymwneud â materion sy'n gymwys neu'n berthnasol yn fwy cyffredinol i hawliau neu les plant perthnasol nag yn yr achos penodol o dan sylw, a

(b)wrth wneud Cŵyn neu gyflwyno sylwadau i ddarparydd gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru neu mewn perthynas ag ef, ac

(c)wrth wneud Cŵyn neu gyflwyno sylwadau i berson a grybwyllir yn adran 73(2B) o'r Ddeddf neu yn Atodlen 2B iddi neu mewn perthynas ag ef.

(2Mae'r achosion a ragnodir at ddibenion adran 76(1)(b) o'r Ddeddf yn achosion sy'n ymwneud—

(a)â darparu gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru i blentyn perthnasol neu mewn perthynas ag ef;

(b)â darparu gwasanaethau i blentyn o'r fath neu mewn perthynas ag ef gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2B i'r Ddeddf neu gan unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau ar ran y person hwnnw neu o dan drefniadau ag ef; neu

(c)â'r effaith a gâi arfer, neu'r bwriad i arfer, unrhyw un o swyddogaethau'r Cynulliad neu unrhyw un o swyddogaethau person a grybwyllir yn Atodlen 2A i'r Ddeddf ar blentyn o'r fath.

(3Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymorth perthnasol, caiff y Comisiynydd gymryd i ystyriaeth y cymorth ariannol a'r cymorth arall sydd ar gael i'r plentyn perthnasol mewn perthynas â'r achosion, y gŵyn neu'r sylwadau o dan sylw, gan gynnwys cymorth o dan Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cymorth perthnasol” yw—

(a)rhoi, neu drefnu rhoi, cyngor i'r plentyn a'i gynrychioli; a

(b)rhoi, neu drefnu rhoi, unrhyw gymorth arall y mae'n credu ei fod yn briodol.

(5Nid yw paragraff (4) yn effeithio ar y gyfraith a'r arferion ynghylch pwy gaiff gynrychioli person mewn perthynas ag unrhyw achos.

Amodau

11.—(1Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu rhoi cymorth ariannol i blentyn perthnasol yn unol â rheoliad 10 gall y cymorth gael ei roi o dan y naill neu'r llall neu o dan y ddau o'r amodau a bennir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r amodau—

(a)y caiff y Comisiynydd adennill cost resymol rhoi'r cymorth o unrhyw symiau o delir gan bartïon at y diben hwnnw yn yr achos o dan sylw;

(b)nad yw'r cymorth a roddir yn dyblygu cymorth sydd wedi'i roi neu a all gael ei roi o dan unrhyw ddeddfiad;

(3At ddibenion paragraff (2)(a) nid yw'n berthnasol a yw'r symiau a delir gan bartïon eraill yn daladwy yn rhinwedd penderfyniad gan lys neu dribiwnlys, cytundeb a wnaed er mwyn osgoi achos neu er mwyn dod ag achos i ben, neu fel arall.

RHAN VSWYDDOGAETHAU PELLACH

Y berthynas â phlant

12.—(1Rhaid i'r Comisiynydd gymryd camau rhesymol i sicrhau—

(a)bod plant yng Nghymru yn cael gwybod am leoliad swyddfa neu swyddfeydd y Comisiynydd ac ym mha ffyrdd y gallant gyfathrebu â'r Comisiynydd a'i staff;

(b)bod plant o'r fath yn cael eu hannog i gyfathrebu â'r Comisiynydd a'i staff;

(c)bod cynnwys unrhyw ddeunydd a gyhoeddir gan y Comisiynydd neu ei staff, p'un a fydd wedi'i argraffu neu ar ffurf electronig, y bwriedir iddo gael ei ddarllen gan unrhyw un neu ragor o blant o'r fath, yn cymryd i ystyriaeth, cyn belled ag y bo'n ymarferol, oedran, lefel dealltwriaeth ac iaith arferol y sawl y bwriedir iddo ei dderbyn;

(ch)bod barn plant o'r fath ynghylch sut y dylai'r Comisiynydd arfer ei swyddogaethau ac ynghylch cynnwys rhaglen waith flynyddol y Comisiynydd yn cael ei cheisio; a

(d)bod y Comisiynydd a'i staff yn trefnu eu bod ar gael i blant o'r fath yn ardal y plant.

(2Wrth arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff (1) rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i beth yw anghenion ac amgylchiadau plant o'r fath yn ei farn resymol ef.

RHAN VIADRODDIADAU

Adroddiadau

13.—(1Pan ddaw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r rheoliadau hyn i ben, rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno adroddiad.

(2Pan ddaw adolygiad swyddogaethau, adolygiad trefniadau, monitro yn unol ag adran 73(1) o'r Ddeddf neu asesiad yn unol ag adran 73(1A) o'r Ddeddf i ben, fe gaiff y Comisiynydd gyflwyno adroddiad.

(3Rhaid i adroddiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) nodi—

(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiynydd; a

(b)unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiynydd.

(4Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o adroddiad o'r fath—

(a)at y Prif Weinidog; a

(b)i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd.

(5Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi

(a)yn achos adroddiad a gyflwynir o dan baragraff (1), at y plentyn neu'r person, yn ôl fel y digwydd, a gyflwynodd sylwadau i'r Comisiynydd yn unol â rheoliad 6; a

(b)yn achos adroddiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2), at y person neu'r personau

(i)y mae ei waith wrth ddarparu gwasanaethau neu ei waith wrth arfer swyddogaethau wedi'i archwilio,

(ii)y mae ei drefniadau mewn perthynas â chŵynion, chwythu'r chwiban neu eiriolaeth wedi'u hadolygu neu wedi'u monitro,

(iii)y mae asesiad yn unol ag adran 73(1A) o'r Ddeddf wedi'i gynnal mewn perthynas ag ef, neu

(iv)a grybwyllir yn yr adroddiad.

Camau pellach yn sgil adroddiad

14.—(1Os yw'r Comisiynydd wedi cyflwyno adroddiad o dan baragraff (1) o reoliad 13 sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â darparydd gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru, y Cynulliad neu berson a grybwyllir yn Atodlen 2A i'r Ddeddf, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn tri mis o ddyddiad anfon copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

(2Os yw'r Comisiynydd wedi cyflwyno adroddiad o dan baragraff (2) o reoliad 13 sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â pherson a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y Comisiynydd ofyn mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn tri mis o ddyddiad anfon copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2) ystyr “yr wybodaeth berthnasol” yw unrhyw wybodaeth, esboniadau neu gymorth i alluogi'r Comisiynydd i benderfynu a yw'r person o dan sylw wedi cydymffurfio â'r argymhelliad neu a fydd yn cydymffurfio ag ef, neu esboniad ar y rheswm dros beidio â chymryd camau o'r fath neu dros beidio â bwriadu eu cymryd.

(4Pan wneir gofyniad o dan baragraff (1) neu gais o dan baragraff (2) rhaid iddo gynnwys datganiad y gall methiant i ymateb o fewn y tri mis gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

(5Os yw'r Comisiynydd yn credu'n rhesymol, pan gaiff yr wybodaeth berthnasol, nad yw'r camau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r argymhelliad neu nad yw'r rheswm am beidio â chymryd camau o'r fath neu am beidio â bwriadu eu cymryd, yn ddigonol, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad ysgrifenedig at y person o dan sylw yn nodi'r diffygion, sef hysbysiad y mae angen ymateb iddo o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.

(6Os na chaiff y Comisiynydd ymateb yn unol â'r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (5) o fewn un mis neu os yw'n anfodlon ar yr ymateb, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad atodol sy'n mynnu ymateb atodol o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.

(7Rhaid i'r hysbysiad atodol gynnwys datganiad y gall methiant i roi'r hyn sy'n ymateb atodol boddhaol ym marn y Comisiynydd, neu fethiant i ymateb o gwbl, gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

(8Rhaid i'r Comisiynydd gadw cofrestr yn cynnwys manylion—

(a)argymhellion a geir mewn adroddiadau a gyflwynir o dan baragraffau (1) neu (2) o reoliad 13, a

(b)canlyniadau camau pellach a gymerir yn unol â pharagraffau (1), (2), (5) a (6) o'r rheoliad hwn.

(9Rhaid i unrhyw gofrestr a gedwir o dan baragraff (8) fod yn agored i'w harchwilio gan unrhyw un ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Comisiynydd a chaiff y Comisiynydd wneud trefniadau i gopïau o'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio mewn unrhyw fan arall neu fannau eraill neu drwy unrhyw fodd arall y mae'n credu eu bod yn briodol.

(10Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.

Adroddiadau Blynyddol

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Prif Weinidog, y mae'n rhaid iddo gynnwys—

(a)crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Ddeddf yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys crynodeb o'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw ac o unrhyw sylwadau y gall y Comisiynydd fod wedi'u cyflwyno yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol ag adran 75A o'r Ddeddf, gan gynnwys unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ynghylch amrediad neu effeithiolrwydd pwerau'r Comisiynydd;

(b)adolygiad o faterion sy'n berthnasol i hawliau a lles plant yng Nghymru; ac

(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y cyflwynir yr adroddiad ynddi ac o gynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dilyn y flwyddyn honno.

(2Rhaid i'r Comisiynydd hefyd gynhyrchu fersiwn o'r adroddiad blynyddol sydd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn addas ar gyfer plant.

(3Rhaid i'r adroddiadau cyntaf y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) gael eu cyflwyno yn 2002.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn, anfon copi o'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2)—

(a)at y Prif Weinidog; a

(b)i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd.

Cyhoeddi adroddiadau

16.—(1Rhaid i'r Comisiynydd drefnu bod copïau o adroddiadau a gyflwynir o dan baragraffau (1) neu (2) o reoliad 13 ac o dan reoliad 15 ar gael i'w harchwilio yn swyddfa'r Comisiynydd ar bob adeg resymol ac mewn unrhyw fannau eraill neu drwy unrhyw gyfrwng arall, gan gynnwys drwy gyfrwng electronig, y mae'r Comisiynydd yn credu eu bod yn briodol.

(2Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.

RHAN VIIAMRYWIOL

Cyfyngiadau ar arfer swyddogaethau sy'n arferadwy gan bersonau rhagnodedig

17.  At ddibenion adran 77(2) o'r Ddeddf, rhagnodir Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd(2).

Blynyddoedd ariannol

18.  At ddibenion paragraff 6(4) o Atodlen 2 i'r Ddeddf pennir y cyfnodau canlynol—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol gyntaf, y cyfnod o 1 Mawrth 2001 tan 31 Mawrth 2002;

(b)mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ddilynol y cyfnod o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.

Gwybodaeth

19.  Os yw gwybodaeth y gofynnir iddi gael ei rhoi o dan baragraff (1) o reoliad 3, paragraff (1)(a) o reoliad 8 neu baragraff (1) o reoliad 14 (“y darpariaethau perthnasol”) yn wybodaeth sy'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf arall, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur neu'r ddyfais arall sy'n cadw'r wybodaeth honno, neu sydd fel arall yn ymwneud â hwy, drefnu bod yr wybodaeth ar gael, neu gyflwyno'r wybodaeth, ar ffurf weladwy a darllenadwy.

20.  Os yw person yn rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd yn unol â pharagraff (1)(a) o reoliad 8 neu'n bresennol gerbron y Comisiynydd yn unol â rheoliad 9, caiff y Comisiynydd dalu i'r person hwnnw, os yw'n credu bod hynny'n briodol—

(a)Symiau mewn perthynas â chostau a dynnwyd yn briodol gan y person, a

(b)Lwfansau yn iawndal am golli eu hamser,

yn unol ag unrhyw raddfeydd, ac o dan unrhyw amodau y gall y Comisiynydd eu pennu.

Cymhwyso cyfeiriadau at blant

21.—(1At ddibenion Rhan V o'r Ddeddf mae “child” yn cynnwys person 18 oed neu drosodd sy'n dod o fewn is-adran (1B) o adran 78 o'r Ddeddf a dehonglir cyfeiriadau at “child” neu “children” yn Rhan V o'r Ddeddf ac at “plentyn” neu “plant” yn y Rheoliadau hyn yn unol â hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd cyfeiriadau at blentyn yn is-adran (1) o adran 78 o'r Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at berson (gan gynnwys plentyn) a oedd ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg cyn i'r paragraff hwn ddod i rym)—

(a)yn blentyn a oedd fel arfer yn preswylio yng Nghymru;

(b)yn blentyn y cafodd gwasanaethau eu darparu iddo neu mewn perthynas ag ef yng Nghymru gan berson a grybwyllir yn Atodlen 2B i'r Ddeddf, ar ei ran neu o dan drefniadau ag ef; neu

(c)yn blentyn y cafodd gwasanaethau rheoleiddiedig i blant eu darparu iddo neu mewn perthynas ag ef,

a dehonglir cyfeiriadau at “child” neu “children” yn Rhan V o'r Ddeddf ac at “plentyn” neu “plant” yn y Rheoliadau hyn yn unol â hynny.

(3Rhaid peidio â dehongli cyfeiriadau at “plentyn” neu “plant” a ddehonglir yn unol â pharagraff (1) yn unol â pharagraff (2) hefyd mewn perthynas ag unrhyw amser cyn i baragraff (1) ddod i rym.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

22.  Wrth arfer ei swyddogaethau rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (3) fel y cafodd ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig ac yn ddarostynedig i'r cyfryw gymalau cadw a wnaed gan y Deyrnas Unedig sy'n gymwys ar ddyddiad gwneud y rheoliad hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

Rhodri Morgan

Prif weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Gorffennaf 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru (“y Comisiynydd”) a sefydlwyd o dan Ran V o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan I o'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau ynghylch dehongli.

Mae Rhan II, mewn perthynas â rôl y Comisiynydd wrth adolygu a monitro trefniadau ar gyfer cŵ ynion, chwythu'r chwiban ac eiriolaeth, yn rhagnodi'r math o gyngor a chymorth i blant y mae'r trefniadau ar eu cyfer i ddod o dan awdurdodaeth y Comisiynydd (rheoliad 2). Mae hefyd yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd fynnu cael gwybodaeth oddi wrth bersonau rhagnodedig (rheoliad 3).

Mae Rhan III yn rhoi swyddogaethau i'r Comisiynydd ynghylch archwilio achosion plant penodol y mae Rhan V o'r Ddeddf yn gymwys iddynt (rheoliad 4); yn pennu'r mathau o achos a all gael eu harchwilio (rheoliad 5) ac o dan ba amgylchiadau y gall archwiliad gael ei wneud (rheoliad 6); yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal archwiliad (rheoliad 7), ynghylch rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd mewn cysylltiad ag archwiliad (rheoliad 8), ac ynghylch bod yn bresennol gerbron y Comisiynydd yn bersonol (rheoliad 9).

Mae Rhan IV yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd roi cymorth ariannol a chymorth arall i blant y mae Rhan V o'r Ddeddf yn gymwys iddynt, yn rhagnodi'r achosion a'r gweithdrefnau y gall cymorth o'r fath gael ei roi mewn perthynas â hwy (rheoliad 10) ac yn darparu ar gyfer amodau a all gael eu gosod mewn cysylltiad â rhoi cymorth (rheoliad 11).

Mae Rhan V yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer y trefniadau ynghylch perthynas y Comisiynydd â phlant (rheoliad 12).

Mae Rhan VI yn gwneud darpariaeth ar gyfer adroddiadau penodol a chamau i'w dilyn (rheoliadau 13 a 14), ynghylch adroddiadau blynyddol (rheoliad 15) ac ynghylch cyhoeddi adroddiadau (rheoliad 16).

Mae Rhan VII yn cynnwys darpariaethau amrywiol ynghylch y cyfyngiadau ar arfer swyddogaethau penodol lle maent yn gorgyffwrdd â swyddogaethau cyrff eraill sydd wedi'u rhagnodi (rheoliad 17); i bennu cyfnod y flwyddyn ariannol gychwynnol a'r blynyddoedd ariannol canlynol (rheoliad 18); ynghylch y modd y rhoddir gwybodaeth (rheoliad 19); ynghylch talu treuliau a lwfansau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth (rheoliad 20) ac ynghylch dehongli cyfeiriadau penodol at blant (rheoliad 21). Yn olaf, mae'r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer ei swyddogaethau (rheoliad 22).

(1)

2000 p.14. Gweler adran 78(7) i gael y diffiniad o “regulations”. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud i adrannau 74, 76 a 78 gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (p.18).

(2)

Cafodd Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (“CAFCASS”) ei sefydlu ar 1 Ebrill 2001 o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p. 43).

(3)

Gweler Papur Gorchymyn 1668

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources