2001 Rhif 2788 (Cy.238) (C.94)
Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 275(2) a 276(2) o Ddeddf Trafnidiaeth 20001:
Enwi, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
2
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Trafnidiaeth 2000.
3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Darpariaethau yn dod i rym
2
Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a bennir yn yr Atodlen honno, ar 1 Awst 2001.
3
Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.
ATODLEN 1DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 AWST 2001
1
Adrannau 108 i 123.
2
Adrannau 128(4), 130(8), 131(2), (3) a (4), 132(6), 133 a 134
3
Gweddill darpariaethau adrannau 124 i 132 ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.
4
Adrannau 135 i 144.
5
Adran 145 ac eithrio is-adrannau (1), (2) a (3).
6
Adrannau 146 i 150.
7
Adran 152.
8
Adran 153 ac eithrio i'r graddau y mae'n perthyn i baragraff 1(1)(a) a (2)(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf ac i'r geiriau “a quality partnership scheme or” ym mharagraff 12(2) o'r Atodlen honno.
9
Adran 154(1) i (5).
10
Adrannau 155 i 160.
11
Adran 161 ac eithrio i'r graddau y mae'n perthyn i baragraffau 15 i 20 o Atodlen 11 i'r Ddeddf.
12
Adran 162.
13
Adrannau 163(2)(b), 168(3), 172(1), 173(1), (2), (3) a (4), 174(1), (2) a (5), 175(1) ac 176(2).
14
Gweddill Pennod I o Ran III (ac eithrio adran 166) ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 13 o'r Atodlen hon.
15
Adrannau 178(2)(b), 182(5), 183(3), 187(1) a 189(1), (2), (3)(b) a (4).
16
Gweddill Pennod II o Ran III (ac eithrio adran 181) ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 15 o'r Atodlen hon.
17
Pennod III o Ran III (ac eithrio adrannau 191 ac 199).
ATODLEN 2DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2002
1
Adran 145(1), (2) a (3).
2
Adran 161 i'r graddau y mae'n perthyn i baragraffau 15 i 20.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)