2001 Rhif 2914 (Cy. 244)

Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL DATGANOLI, CYMRU
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog priodol gan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19931 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001 a daw i rym ar 16 Awst 2001.

Ffurf Gymraeg2

1

Rhagnodir drwy hyn mai “Annibynnol” yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair “Independent” a bennir yn adran 22(3)(a)(i) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20002.

2

Gall y ffurfeiriad Cymraeg a ragnodir gan baragraff (1) gael ei ddefnyddio yn ychwanegol at y gair Saesneg cyfatebol neu yn ei le mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

Jenny RandersonYsgrifennydd y Cynulliad dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 16 Awst 2001, yn gymwys i etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adran 22 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofrestru pleidiau er mwyn iddynt gynnig ymgeiswyr mewn etholiadau perthnasol (“relevant elections”) (sydd yn rhinwedd adran 22(5)(d) yn cynnwys etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol). Gwneir hynny drwy ddarparu na chaiff person sefyll yn ymgeisydd mewn etholiad o'r fath oni bai bod yna dystysgrif, i'w awdurdodi fel ymgeisydd, ac wedi'i rhoi gan neu ar ran swyddog enwebu plaid gofrestredig gymwys yn cyd-fynd â'i bapur enwebu, neu os yw ei bapur enwebu naill ai'n rhoi'r disgrifiad “Independent” neu os nad yw'n rhoi dim disgrifiad o gwbl.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi mai “Annibynnol” yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair “Independent” sydd i'w ddefnyddio i ddisgrifio'r ymgeisydd yn y papur enwebu mewn perthynas ag etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.