2001 Rhif 2982 (Cy.249)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 1, ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru2 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Teitl, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Awst 2001.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

4

Yn y Gorchymyn hwn:

  • ystyr “Rheoliad 805/68 y Cyngor” (“Council Regulation 805/68”) yw Rheoliad (EEC) Rhif 805/68 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo3;

  • ystyr “Rheoliad 1765/92 y Cyngor” (“Council Regulation 1765/92”) yw Rheoliad (EEC) Rhif 1765/92 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol4;

  • ystyr “Rheoliad 2467/98 y Cyngor” (“Council Regulation 2467/98”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr 5;

  • ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol6;

  • ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo7).

Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir2

1

Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw yr uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

2

Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —

a

yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a

b

y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau gyda 12 Medi 1999 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

3

Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —

a

yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a

b

y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 1999 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

4

Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.

Diddymu3

Drwy hyn diddymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) 19988 mewn perthynas â thir a leolir yng Nghymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENRHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET

Erthyglau 1(2) a 2

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Defnydd ffermio

Uned gynhyrchu

Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu

£

1. Da byw

Buchod llaeth:

Bridiau Ynysoedd y Sianel

buwch

283

Bridiau eraill

buwch

335

Buchod bridio cig eidion:

Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996(a)

buwch

50(1)

Ar dir arall

buwch

41(1)

Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys)

pen

48(2)

Buchod llaeth i lenwi bylchau

pen

41(3)

Mamogiaid:

Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996

mamog

20(4)

Ar dir arall

mamog

21(5)

Wŷn stôr (gan gynnwys wŷn benyw a werthir fel hesbinod blwydd)

pen

0.87

Moch:

Hychod a banwesi torrog

hwch neu fanwes

90

Moch porc

pen

2.06

Moch torri

pen

3.66

Moch bacwn

pen

5.13

Dofednod:

Ieir dodwy

aderyn

1.08

Brwyliaid

aderyn

0.12

Cywennod ar ddodwy

aderyn

0.27

Tyrcwn

aderyn

1.23

2. Cnydau âr fferm

Haidd

hectar

158(6)

Ffa

hectar

75(7)

Had glaswellt

hectar

189

Had llin

hectar

137(8)

Ceirch

hectar

142(9)

Rêp had olew

hectar

164(10)

Pys:

Sych

hectar

61(11)

Dringo

hectar

257

Tatws:

Cynnar cyntaf

hectar

675

Prif gnwd (gan gynnwys hadau)

hectar

790

Betys siwgr

hectar

357

Gwenith

hectar

201(12)

3. Cnydau garddwriaethol awyr agored

Ffa cyffredin

hectar

409

Ysgewyll Brwsel

hectar

1460

Bresych, safwy a brocoli blaguro

hectar

1684

Moron

hectar

2307

Blodfresych a brocoli'r gaeaf

hectar

1017

Seleri

hectar

6175

Cennin

hectar

3255

Letys

hectar

3914

Wynwns:

Bylbiau sych

hectar

1087

Salad

hectar

4477

Bylbiau awyr agored

hectar

1416

Pannas

hectar

2539

Riwbob (naturiol)

hectar

3096

Maip a swêds

hectar

1289

4. Cnydau gwarchodedig

Narsisi gorfod

1000 metr sgwâr

8294

Tiwlipau gorfod

1000 metr sgwâr

6226

Madarch

1000 metr sgwâr

11272

5. Ffrwythau'r berllan

Afalau:

Seidr

hectar

603

Coginio

hectar

1412

Melys

hectar

1378

Ceirios

hectar

1297

Gellyg

hectar

1100

Eirin

hectar

1030

6. Ffrwythau meddal

Cyrens Duon

hectar

1093

Eirin Mair

hectar

1579

Mafon

hectar

2974

Mefus

hectar

3093

7. Amrywiol

Hopys

hectar

1700

8. Neilltir(1)

hectar

62

NODIADAU I'R ATODLEN

Erthygl 2(4)

Nodyn i golofn 1

(1)

Ar gyfer y flwyddyn farchnata 1999/2000 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(5) o Reoliad 1765/92 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 7(4) o Reoliad 1765/92 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at gweithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid.

O 1 Gorffennaf 2000 ymlaen mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at weithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid.

Nodiadau i golofn 3

(1)

Didynner £103 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4d o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)10.

Ychwaneger £26 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4h o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)10.

Ychwaneger £37 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4h o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)10.

(2)

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a gedwir am 12 mis.

Didynner £82 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4b o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)10.

Ychwaneger £26 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm anarddwysáu .

Ychwaneger £37 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu .

Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £82 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.

Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £82 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £82 ac (lle mae'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm anarddwysáu ) y swm o £26 (lle telir y premiwm anarddwysáu ar y raddfa is) neu £37 (lle telir y premiwm anarddwysáu ar y raddfa uwch).

(3)

Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.

(4)

Didynner £22 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5 o Reoliad 2467/98 y Cyngor.

(5)

Didynner £17 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm defaid blynyddol.

(6)

Didynner £241 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1765/92 y Cyngor (Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor)11.

(7)

Didynner £349 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(8)

Didynner £467 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(9)

Didynner £240 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(10)

Didynner £303 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(11)

Didynner £349 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(12)

Didynner £241 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 1999 hyd 11 Medi 2000 yn gynhwysol. Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) 1998 mewn perthynas â Chymru.

Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) a 50(2) yn arbennig. Mae “uned fasnachol o dir amaethyddol” yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.