Search Legislation

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3064 (Cy. 253 )

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001

Wedi'i wneud

4 Medi 2001

Yn dod i rym

12 Medi 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (1), ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Teitl, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001 a daw i rym ar 12 Medi 2001.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

(4Yn y Gorchymyn hwn:

  • ystyr “Rheoliad 2467/98 y Cyngor” (“Council Regulation 2467/98”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr (3);

  • ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol(4);

  • ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo(5).

Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir

2.—(1Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc., fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —

(a)yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a

(b)y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

(3Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —

(a)yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a

(b)y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.

(4Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Medi 2001

Erthyglau 1(2) a 2

ATODLENRHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Defnydd ffermioUned gynhyrchuIncwm blynyddol net gan uned gynhyrchu £
NODIADAU I'R ATODLEN
Erthygl 2(4)
Nodyn i golofn 1
(1)

Ar gyfer y flwyddyn farchnata 2001/2002 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at weithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn uniongyrchol yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid.

Nodiadau i golofn 3
(1)

Didynner £126 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.

Ychwaneger £20 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.

Ychwaneger £40 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.

(2)

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.

Didynner £91 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.

Ychwaneger £20 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm anarddwysáu.

Ychwaneger £40 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu.

Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.

Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £91 ac (lle mae'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm anarddwysáuestyniad) y swm o £20 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa is) neu £40 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa uwch).

(3)

Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.

(4)

Didynner £12 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5 o Reoliad 2467/98 y Cyngor.

(5)

Didynner £8 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm defaid blynyddol.

(6)

Didynner £219 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor.

(7)

Didynner £253 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(8)

Didynner £264 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(9)

Didynner £219 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(10)

Didynner £258 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(11)

Didynner £253 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

(12)

Didynner £220 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.

1. Da byw
Buchod llaeth:
Bridiau Ynysoedd y Sianelbuwch296
Bridiau eraillbuwch375
Buchod bridio cig eidion:
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001(a)buwch51(1)
Ar dir arallbuwch43(1)
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys)pen45(2)
Buchod llaeth i lenwi bylchaupen30(3)
Mamogiaid:
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001mamog10(4)
Ar dir arallmamog11(5)
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵ yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd)pen0.87
Moch:
Hychod a banwesi torroghwch neu fanwes70
Moch porcpen1.37
Moch torripen2.59
Moch bacwnpen3.79
Dofednod:
Ieir dodwyaderyn0.90
Brwyliaidaderyn0.09
Cywennod ar ddodwyaderyn0.20
Tyrcwnaderyn1.27
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar140(6)
Ffahectar158(7)
Had glaswellthectar125
Had llinhectar22(8)
Ceirchhectar163(9)
Rêp had olewhectar82(10)
Pys:
Sychhectar200(11)
Dringohectar205
Tatws:
Cynnar cyntafhectar835
Prif gnwd (gan gynnwys hadau)hectar860
Betys siwgrhectar250
Gwenithhectar197(12)
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredinhectar410
Ysgewyll Brwselhectar1505
Bresych, safwy a brocoli blagurohectar1730
Moronhectar2270
Blodfresych a brocoli'r gaeafhectar975
Selerihectar8255
Cenninhectar2945
Letyshectar4150
Wynwns:
Bylbiau sychhectar1305
Saladhectar4125
Bylbiau awyr agoredhectar1600
Pannashectar2591
Riwbob (naturiol)hectar4845
Maip a swêdshectar1210
4.Cnydau gwarchodedig
Narsisi gorfod1000 metr sgwâr6980
Tiwlipau gorfod1000 metr7175
5. Ffrwythau'r berllan
Afalau:
Seidrhectar420
Coginiohectar1275
Melyshectar1250
Ceirioshectar690
Gellyghectar965
Eirinhectar1215
6. Ffrwythau meddal
Cyrens Duonhectar740
Mafonhectar3000
Mefushectar3500
7. Amrywiol
Hopyshectar1670
8. Neilltir(1)
hectar28

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 2001 hyd 11 Medi 2002 yn gynhwysol.

Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) a 50(2) yn arbennig. Mae “uned fasnachol o dir amaethyddol” yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672), trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan baragraff 4 o Atodlen 6 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1669/00 (OJ Rhif L193, 29.7.00, t.8).

(4)

OJ Rhif. L160, 26.6.99, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1038/01 (OJ Rhif L145, 31.5.01, t.16).

(5)

OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources