2001 Rhif 3323 (Cy.276)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.

2

Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972;

  • ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 19863.

3

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 19972

Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ar ôl paragraff (3)(j) ychwanegwch—

k

he is a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act

Diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 19973

Ym mharagraff (5) o reoliad 16 o Reoliadau 1997 (llenwi talebau), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”.

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 19864

Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion golwg - cymhwyster), ar ôl paragraff (2)(j) ychwanegwch—

k

he is a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act

Diwygio rheoliad 13B o Reoliadau 19865

Yn rheoliad 13B o Reoliadau 1986 (prawf golwg a drinnir fel prawf golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol) —

a

ym mharagraff (1)(b), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”; a

b

ym mharagraff (3), yn lle “or (f)” rhowch “(f) or (k)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

J.E.RandersonYsgrifennydd Cynulliad

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) .

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun o daliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Rheoliadau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau sy'n rhoi hawl i bersonau sy'n ymadael â gofal awdurdod lleol ac sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod hwnnw gael cyfarpar optegol (ac mewn achosion priodol), a chael amnewid a thrwsio cyfarpar optegol yn unol â Rheoliadau 1997.

Mae Rheoliadau 4 a 5 yn cynnwys diwygiadau i reoliadau 1986 fel bod gan bersonau o'r fath hawl i gael prawf ar eu golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol.