xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall —
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(1);
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986(2).
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 a 3119, 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy. 98).
O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1988/486, 1989/395, 1989/1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705, 1996/2320, 1999/693 a 1999/2481 a 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy. 98).