- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
16 Hydref 2001
Yn dod i rym
1 Tachwedd 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Diwygir Atodlen 2 (diffiniad o gollfarn benodedig) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(4)) ac Atodlen 4 (diffiniad o gollfarn benodedig) o Reoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991(5) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 2 o'r ddwy Atodlen ar ôl is-baragraff (a) mewnosodwch —
“(aa)in a case where the offender was under 18 at the time the offence was committed, an offence contrary to section 47 of the Offences Against the Person Act 1861(6) (assault occasioning actual bodily harm); or”.
(3) Ym mharagraff 9 o'r ddwy Atodlen hepgorwch “other than”, a mewnosodwch -
“except for —
in a case where the offender was under 18 at the time the offence was committed, an offence of assault; or
(4) Ym mharagraff 13 o'r ddwy Atodlen —
(a)ar ôl is-baragraff (a) mewnosodwch yr is-baragraff canlynol —
“(aa)in a case where the offender was under 18 at the time the offence was committed, an offence contrary to section 47 of the Offences Against the Person Act 1861 (assault occasioning actual bodily harm); or”; ac
(b)yn is-baragraff (b) hepgorwch “other than” a rhoddwch “1885” yn lle “1985”.
(5) Hepgorir paragraff 14.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Hydref 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 a Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991 mewn perthynas â Chymru.
Prif effaith y diwygiadau yw y caniateir i awdurdodau lleol ac eraill arfer eu disgresiwn, wrth ystyried pa mor addas yw person i fabwysiadu neu i faethu plentyn, os yw'r person wedi ei gollfarnu neu wedi'i rybuddio am dramgwydd o ymosodiad sy'n peri gwir niwed corfforol ('ymosod' yn yr Alban) a gyflawnwyd pan oedd o dan 18 oed. Cyn y diwygio, yr oedd collfarn neu rybudd o'r fath yn atal awdurdodau lleol ac eraill rhag ystyried y person ar gyfer mabwysiadu neu faethu.
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â'r pwerau uchod eu trosglwyddo, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1983/1964, a addaswyd gan O.S. 1996/971 ac a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/649, O.S. 1997/2308 ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, O.S. 1999/2768.
O.S. 1991/910, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/2015, O.S. 1997/2308 ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, O.S. 1999/2768.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: