- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3. Yn rheoliad 2 (dehongli) —
(a)ym mharagraff (1) —
(i)yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosodir y diffiniadau canlynol—
“ystyr “sefydliad a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthyg 2.2(d)” (“European Economic Area approved Article 2.2(d) establishment”) yw sefydliada sydd wedi'i restru ar gofrestr o sefydliadau, a gedwir gan awdurdod cymwys mewn gwladwriaeth yn Ardal Economaidd Ewrop heblaw'r deyrnas Unedig neu aelod-Wladwriaeth, i weithredu Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei weithgynhyrchu gan Erthygl 2.2(d) o'r Gyfarwyddeb honno, gael ei weithgynhyrchu gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad;
ystyr “sefydliad a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(f)” (“European Economic Area approved Article 2.2(f) establishment”) yw sefydliad sydd wedi'i restru ar gofrestr o sefydliadau wedi'u cymeradwyo, a gedwir gan awdurdod cymwys mewn gwladwriaeth yn Ardal Economaidd Ewrop heblaw'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth, i weithredu Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei gynhyrchu gan Erthygl 2.2(f) o'r Gyfarwyddeb honno, gael ei gynhyrchu ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig;
ystyr “sefydliad a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(d)” (“European Economic Area permitted Article 2.2(d) establishment”) yw sefydliad gwladwriaeth yn Ardal Economaid Ewrop heblaw'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth (heblaw sefydliad a gymeradwywyd gan Ardal Economaid Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(d) neu sefydliad y mae awdurdod cymwys yn Ardal Economaid Ewrop wedi gwrthod ei gymeradwyo fel sefydliad o'r fath) —
yr oedd porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei weithgynhrychu gan Erthygl 2.2(d) o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, yn cael ei weithgynhyrchu arno, gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad, ar 10 Mawrth 2000, a
y cafodd cais ei wneud mewn perthynas ag ef, cyn 10 Awst 2000, (a hwnnw heb ei benderfynu eto), i awdurdod cymwys yn y wladwriaeth o dan sylw yn Ardal Economaidd Ewrop, yn unol ag unrhyw ofynion yn y wladwriaeth honno ar gyfer gwneud ceisiadau o'r fath, am gymeradwyo'r sefydliad, yn unol â'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd o unrhyw fath felly gael ei weithgynhyrchu gyda golwg ar ei roi mewn cylchrediad;
ystyr “sefydliad a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(f)” (“European Economic Area permitted Article 2.2(f) establishment”) yw sefydliad mewn gwladwriaeth yn Ardal Economaidd Ewrop heblaw'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth (heblaw sefydliad a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewrop ar gyfer Erthygl 2.2(f) neu sefydliad y mae awdurdod cymwys yn y wladwriaeth honno wedi gwrthod ei gymeradwyo fel sefydliad o'r fath) —
yr oedd porthiant cyfansawdd, o unrhyw fath y rheoleiddir ei gynhyrchu gan Erthygl 2.2(f) o'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, yn cael ei gynhyrchu arno, ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig, ar 10 Mawrth 2000, a
y cafodd cais ei wneud mewn perthynas ag ef, cyn 10 Awst 2000, (a hwnnw heb ei benderfynu eto), i awdurdod cymwys yn y wladwriaeth o dan sylw yn Ardal Economaidd Ewrop, yn unol ag unrhyw ofynion yn y wladwriaeth honno ar gyfer gwneud ceisiadau o'r fath, am gymeradwyo'r sefydliad, yn unol â'r Gyfarwyddeb Sefydliadau, fel sefydliad lle y gall porthiant cyfansawdd o unrhyw fath felly gael ei gynhyrchu ar gyfer anghenion daliad y cynhyrchydd yn unig;”;
(ii)yn lle'r diffiniad o “rhoi mewn cylchrediad”, rhoddir y diffiniad canlynol —
“ystyr “rhoi mewn cylchrediad” (“put into circulation”) yw gwerthu neu drosglwyddo mewn modd arall meddiannu gyda golwg ar werthu neu ar drosglwyddo fel arall, neu gynnig gwerthu, i drydydd parti, ond, yn rheoliad 14(3), (4) a (7), mae hefyd yn golygu mewnforio i Gymru o wlad nad yw'n un o Wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop nac yn rhan o un o Wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop;” a
(iii)yn lle'r diffiniad o “trydedd wlad” rhoddir y diffiniad canlynol –
“ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad heblaw un o wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop;”;
(b)hepgorir paragraff (2) ac
(c)ym mharagraff (8), yn lle'r geiriau “gwneud y Rheoliadau hyn” rhoddir y geiriau “gwneud Rheoliadau Porthiant a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: