- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'u gwneud
29 Hydref 2001
Yn dod i rym
30 Hydref 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) (Ffioedd) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 30 Hydref 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys tan ganol nos ar 31 Rhagfyr 2001.
2. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, godi ffi resymol mewn perthynas â chostau a dynnir yn rhesymol ganddo neu ganddi neu ar ei ran ef neu ar ei rhan hi ar ddeiliad unrhyw safle (gan gynnwys daliad) lle gwneir gwaith goruchwylio neu arolygu er mwyn penderfynu bod cynhyrchion yn gymwys i'w hanfon o dan Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) 2001(3).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
Jane E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad
29 Hydref 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd godi ffi resymol am waith goruchwylio neu arolygu a wneir er mwyn i gynhyrchion gael eu hanfon o dan Reoliadau Cyfyngiadau Mewnforio ac Allforio (Clwy'r Traed a'r Genau) (Cymru) (Rhif 10) 2001 (O.S. 2001/3459 (Cy.279)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: