xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3540 (Cy.287)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

29 Hydref 2001

Yn dod i rym

15 Tachwedd 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 87 a 106(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1):

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001 a daw i rym ar 15 Tachwedd 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn —

Gohirio etholiadau cyffredin

2.—(1Yn adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr prif gynghorau), yn lle “1995” ym mhob lle rhowch “2004”.

(2Yn adran 35 o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle “1995” rhowch “2004”.

(3Mae tymor swydd y cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) neu adran 35(2) yn cael ei estyn felly â blwyddyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

Jane E. Hutt

Ysgrifennydd Cynulliad

29 Hydref 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

O dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth sy'n newid ym mha flwyddyn y mae etholiadau cyffredin cynghorwyr unrhyw awdurdod lleol penodedig i gael eu cynnal (heb newid y cynllun sydd eisoes yn bodoli ar gyfer ethol y cynghorwyr hynny).

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer addasu adran 26(1) (Etholiadau Cynghorwyr) ac adran 35(2) (Cynghorwyr Cymuned) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 er mwyn gohirio etholiadau cynghorwyr i bob cyngor sir, pob cyngor bwrdeistref sirol a phob cyngor cymuned yng Nghymru am flwyddyn. Caiff yr etholiadau eu cynnal yn 2004 a phob pedair blynedd wedyn. Mae tymor swydd y cynghorwyr presennol yn cael ei estyn felly â blwyddyn.