xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3669 (Cy.300)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

8 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

29 Tachwedd 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau o dan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywiadau a Hadau Planhigion 1964(1) sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno, â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod o bwys iddynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993

2.—(1Diwygir Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993(3), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

(2Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993.

Rheoliad 3 (Dehongli)

3.—(1Ym mharagraff (1) o reoliad 3 —

(a)yn y lle priodol, mewnosodwch y diffiniadau canlynol —

“the National Assembly” means the National Assembly for Wales;; a

“third country” means a country listed in the Annex to Council Decision 95/514/EC(5);.

(b)hepgorwch y diffiniad o “marketing” a'r cyfeiriad at ddehongli'r ymadroddion cysylltiedig, sef “market” a “marketed”; ac

(c)yn lle'r diffiniad o “official examination” rhowch —

(2Ar ôl paragraff (3) o reoliad 3 mewnosodwch —

(3A) For the purposes of these Regulations, seeds —

(a)produced and packaged in a Member State other than the United Kingdom or in a third country;

(b)accompanied by a document issued by a competent authority concerned with the certification of oil and fibre plant seeds in that Member State or third country containing information specified at paragraph E(b) of Part I of Schedule 6; and

(c)in respect of which an application has been made for a breeder’s confirmation under these Regulations,

shall be deemed to be seeds produced from seeds issued with a breeder’s confirmation.

(3B) For the purposes of these Regulations, seeds —

(a)produced and packaged in a Member State other than the United Kingdom or in a third country;

(b)accompanied by a document issued by a competent authority concerned with the certification of oil and fibre plant seeds in that Member State or third country containing information specified (in respect of packages of seed not finally certified) at paragraph E(b) of Part I of Schedule 6; and

(c)in respect of which an application has been made for an official certificate under these Regulations,

shall be deemed to be seeds produced from seeds issued with a breeder’s confirmation or an official certificate.

(3C) For the purposes of these Regulations, seeds —

(a)produced and packaged in a Member State other than the United Kingdom or in a third country;

(b)labelled in accordance with the requirements of regulation 9; and

(c)in the case of a small package of seeds, sealed in accordance with the requirements of regulation 8(3), or, in the case of seeds other than a small package of seeds, sealed by a competent authority concerned with the certification of oil and fibre plant seeds in that Member State or third country,

shall be deemed to fall within the meaning of the appropriate category of seeds set out in paragraph (3) above.

(3Ar ôl paragraff (5) o reoliad 3, ychwanegwch —

(6) In these Regulations “marketing” means —

(a)selling, holding with a view to sale and offering for sale; and

(b)any disposal, supply or transfer for the purpose of commercial exploitation of seed to third parties,

whether or not for consideration; and “market” and “marketed” shall be construed accordingly.

(7) Trade in seed not aimed at commercial exploitation of the variety, such as the following operations —

(a)the supply of seed to official testing and inspection bodies; or

(b)the supply of seed to any person for the purpose of processing or packaging the seed provided he does not acquire title to the seed supplied,

shall not be treated as marketing of seed of that variety..

Rheoliad 4 (Hadau y mae Rheoliadau Planhigion Olew a Ffibr 1993 yn gymwys iddynt)

4.  Yn rheoliad 4 —

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Subject to paragraphs (2) and (3) below” rhowch “Subject to paragraph (2) below”;

(b)ym mharagraff (2), hepgorwch is-baragraffau (b), (c) a (d); ac

(c)hepgorwch baragraff (3).

Rheoliad 5 (Marchnata hadau)

5.  Yn rheoliad 5 —

(a)ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “Regulation 9(1),” rhowch “regulation 9(1), (1B),”;

(b)ar ôl paragraff (1)(b) ychwanegwch —

(c)ar ôl paragraff (1), mewnosodwch —

(1A) Paragraph (1) above shall not prevent the marketing of seed as grown, marketed for processing, provided that the identity of the seed is ensured.;

(ch)ar ôl paragraff (2), mewnosodwch —

(2A) Where there is an arrangement under which —

(a)seed, other than seed which contains any genetically modified material, under the control of one person (“the first person”) is used by another person (“the second person”) for the purpose of —

(i)increasing the first person’s stock of the seed for sowing; or

(ii)carrying out tests or trials on the seed; and

(b)everything produced from the seed, whether directly or indirectly, and any unused seed, become or remain the property of the first person,

the prohibitions in paragraph (1) above shall not apply to the marketing of the seed by the first person to the second person as part of that arrangement or to the marketing by the second person to the first person of any seed produced (whether directly or indirectly) from that seed.

(2B) The prohibitions in paragraph (1) above shall not apply to the marketing by producers of small quantities of seed, other than seed which contains any genetically modified material, for scientific purposes or selection work.

(2C) If the conditions specified in paragraph (2D) below are satisfied, the prohibitions in paragraph (1) above shall not apply to—

(a)the marketing, as part of any arrangement referred to in paragraph (2A) above by the first person referred to in that paragraph to the second person referred to in that paragraph, of seed which contains any genetically modified material;

(b)the marketing, as part of any arrangement referred to in paragraph (2A) above by the second person referred to in that paragraph to the first person referred to in that paragraph, of seed produced (whether directly or indirectly) from the seed marketed to the second person as part of any such arrangement which contains any genetically modified material; or

(c)the marketing by producers, for scientific purposes or selection work, of small quantities of seed which contains any genetically modified material.

(2D) The conditions referred to in paragraph (2C) above are —

(a)the deliberate release of the genetically modified material has been authorised under a Part B consent, or the genetically modified material has been accepted for marketing in accordance with a Part C consent, issued for the purposes of Council Directive 90/220/EEC on the deliberate release into the environment of genetically modified organisms;

(b)the seeds are accompanied during marketing by a copy of the consent;

(c)all appropriate measures, in accordance with an environmental risk assessment in respect of the material carried out in accordance with article 7(4) of Council Directive 70/457/EEC(6), have been taken by the producer of the seed to avoid adverse effects on human health and the environment; and

(d)in the case of genetically modified material accepted for marketing in accordance with a Part C consent, an authorisation has been granted by the National Assembly in accordance with paragraph (2E) below to the person marketing the seed.

(2E) An authorisation may be granted by the National Assembly for the purpose of paragraph (2D)(d) above if —

(a)the person intending to market the seed has applied to the National Assembly no later than 15 working days before the seed is marketed —

(i)giving the National Assembly notice of that person’s intention to market the seed and a description of the proposed marketing in respect of which the authorisation is sought; and

(ii)giving the National Assembly such information relating to the acceptance for marketing of the variety of the seed concerned under Council Directive 90/220/EEC, and the proposed marketing in respect of which the authorisation is sought, as the National Assembly may require for the purposes of determining whether or not to grant the authorisation; and

(b)the National Assembly is satisfied that an authorisation should be granted.;

(d)ar ôl paragraff (8), mewnosodwch —

(8A) Oil and fibre plant seeds produced and packaged in a Member State other than the United Kingdom intended for official certification in the United Kingdom shall not be marketed unless they are —

(a)sealed and labelled as required by regulations 8 and 9; and

(b)accompanied by an official document containing all the information in respect of the seeds specified at paragraph E of Part I of Schedule 6.

(8B) A person who imports a package containing a net weight of more than 2 kilograms of oil and fibre plant seeds produced other than in a Member State shall make available to the National Assembly, in such manner and at such time as the National Assembly may require, the information in respect of the seeds specified in Part IV of Schedule 6.; ac

(dd)ym mharagraff (11), hepgorwch “may be imported but”.

Rheoliad 9 (Labelu pecynnau)

6.  Yn rheoliad 9 —

(a)ar ôl paragraff (1A), mewnosodwch —

(1B) If a variety has been genetically modified, any label or document, whether official or otherwise, affixed to or accompanying a seed lot or any part of a seed lot in accordance with the provisions of this regulation, shall clearly indicate that the variety has been genetically modified.; and

(b)ym mharagraff (4A)(b), yn lle “Part IV” rhowch “Part V”.

Rheoliad 9A (Labelu pecynnau — cadarnhad y bridiwr)

7.  Yn rheoliad 9A(4)(b) yn lle “Part IV” rhowch “Part V”.

Atodlen 6 (Gofynion labelu)

8.  Yn Atodlen 6 —

(a)yn Rhan II, hepgorwch baragraff (a)8;

(b)ailrifwch “Part IV” (Argraffu Materion Penodedig ar Becynnau (labelu bagiau cyfan)) fel “Part V”; ac

(c)ar ôl Rhan III, mewnosodwch —

Part IVInformation in respect of seeds imported from third countries in packages more than 2 kilograms in net weight

1.  Species.

2.  Variety.

3.  Category.

4.  Country of production and official inspection authority.

5.  Country of despatch.

6.  Importer.

7.  Quantity of seed..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993, O.S. 1993/2007, (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1423, 1996/1451,1997/616 a 1999/1862) (Rheoliadau 1993). Maent yn dod i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1993 yn peri bod Cyfarwyddebau canlynol y Cyngor, a ddiwygiodd gyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a'r catalog cyffredin o amrywiadau o rywogaethau planhigion amaethyddol, yn effeithiol yng Nghymru :—

(a)98/95/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.1) mewn perthynas â chyfuno'r farchnad fewnol, adnoddau planhigion a addaswyd yn enetig ac adnoddau genetig planhigion; a

(b)98/96/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.27) o ran archwiliadau maes answyddogol.

Mae'r cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC a Chyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC yn cynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 69/208/EEC (OJ Rhif L169, 10.7.69, t.3) ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr.

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 3 (o Reoliadau 1993), gan gynnwys y diffiniadau o “marketing” ac “official examination” (rheoliad 3);

(b)yn diwygio rheoliad 5 mewn perthynas â marchnata (gan gynnwys marchnata hadau planhigion olew a ffibr a addaswyd yn enetig) ac awdurdodiadau marchnata, profion a threialon, hadau fel y cânt eu tyfu, gwaith dethol a dibenion gwyddonol eraill; ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 4 (rheoliadau 4 a 5);

(c)yn diwygio rheoliad 9 i wneud darpariaeth mewn perthynas â dangos amrywiadau a addaswyd yn enetig yn glir (rheoliad 6);

(ch)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 9A (rheoliad 7); ac

(d)yn diwygio Atodlen 6 i wneud darpariaeth ar gyfer rhoi gwybodaeth ynghylch hadau sydd wedi'u mewnforio ac i ddiwygio darpariaethau mewn perthynas â phecynnau bach (rheoliad 8).

Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1993 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr ac i'r Alban gan O.S. 2000/1789 ac O.S.A. 2000/249 yn y drefn honno. Mae Rheolau diwygio tebyg wedi cael eu gwneud gan yr awdurdod priodol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru ynglyn â'r canlynol:

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hynny, cysylltwch â'r Is-adran Cefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.

(1)

1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi.

(2)

Gweler adran 38(1) i gael diffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywiadau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafodd y swyddogaethau a enwyd eu trosglwyddo oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y cafwyd diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

OJRhif L117, 8.5.90, t.15; fel yr effeithiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L 106, 17.04.2001, t.1) a fydd yn diddymu 90/220/EEC ar 17 Hydref, 2002.

(5)

OJ Rhif L296, 9.12.95, t.34.

(6)

OJ Rhif L225, 12.10.1970, t.1; fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L 25, 1.2.1999, t.27).