- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Tachwedd 2001
Yn dod i rym yn unol ac erthygl 1
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:—
1.—(1) Teitl y rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar y dyddiad y bydd dileu'r Bwrdd Ymyrraeth yn effeithiol(3).
(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr “y Bwrdd Ymyrraeth” yw'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol a sefydlwyd o dan adran 6(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
2.—(1) Yn Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000(4)) —
(a)yn rheoliad 3(1) —
(i)caiff y diffiniadau o “Bwrdd Ymyrraeth” a “cynlluniau'r Bwrdd” eu dileu;
(ii)yn y diffiniad o “y swm perthnasol” caiff y geiriau “, neu, yn ôl fel y digwydd, y Bwrdd Ymyrraeth,” eu dileu;
(b)yn rheoliad 4(1), caiff y geiriau “, neu'r Bwrdd Ymyrraeth (yn achos taliadau o dan gynlluniau'r Bwrdd),” eu dileu.
(2) Yn Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001(5)—
(a)Yn rheoliad 2(1) —
(i)Caiff y diffiniad o “y Bwrdd” ei ddileu;
(ii)Yn y diffiniad o “cynllun cymhorthdal y Gymuned Ewropeaidd” caiff y geiriau “ac yn cael ei weinyddu ym Mhrydain Fawr gan y Bwrdd” eu dileu;
(iii)Yn y diffiniad o “sefydliad addysgol cymwys”, yn lle'r geiriau “gyda'r Bwrdd” rhoddir y geiriau “gyda'r Cynulliad Cenedlaethol”.
(b)Yn rheoliad 4(2) yn lle unrhyw gyfeiriad at “y Bwrdd” rhoddir “y Cynulliad Cenedlaethol”.
(c)Yn rheoliad 6, caiff y geiriau “gan y Cynulliad Cenedlaethol”, eu dileu ac yn lle'r geiriau “y Bwrdd yn gweithredu fel asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol” rhoddir y geiriau “y Cynulliad Cenedlaethol neu ei asiantau.”.
(ch)Yn rheoliad 7, yn lle'r geiriau “Y Bwrdd” rhoddir y geiriau “Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ei asiantau”.
(3) Yn Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001(6)—
(a)yn y rheoliadau canlynol, yn ychwanegol at unrhyw ddiwygiad arall a bennir, yn lle'r gair “Bwrdd” rhoddir y geiriau “Cynulliad Cenedlaethol” —
(i)yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person awdurdodedig”, yn y ddau le y'u gwelir;
(ii)yn rheoliad 4(1), yn y ddau le y'u gwelir;
(iii)yn rheoliad 5;
(iv)yn rheoliad 8(1);
(v)yn rheoliad 8(6);
(vi)yn rheoliad 9(1);
(vii)yn rheoliad 10;
(viii)yn rheoliad 11;
(ix)yn rheoliad 13(1);
(x)yn rheoliad 14, yn y ddau le y'u gwelir;
(xi)yn rheoliad 15, yn y ddau le y'u gwelir;
(xii)yn rheoliad 16, yn y ddau le y'u gwelir;
(xiii)yn rheoliad 17, yn y ddau le y'u gwelir;
(xiv)yn rheoliad 19(1) yn y lle cyntaf y'u gwelir;
(xv)yn rheoliad 19(2) yn y ddau le y'u gwelir.
(b)Yn rheoliad 7(2) —
(i)caiff y geiriau “gan y Bwrdd”, yn y ddau le y'u gwelir, eu dileu;
(ii)yn is-baragraff (a)(i) ac is-baragraff (b)(i), o flaen y geiriau “yn unol â” rhoddir y geiriau “gan y Bwrdd neu, ar ôl i Reoliadau Dileu'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2001(7) ddod i rym, gan y Cynulliad Cenedlaethol”;
(iii)yn is-baragraff (a)(ii) ac is-baragraff (b)(ii), o flaen y geiriau “yn unol ag” rhoddir y geiriau “gan y Bwrdd neu, ar ôl i Reoliadau'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Dileu) 2001 ddod i rym, gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban neu'r Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, yn ôl fel y digwydd,”;
(c)Yn lle rheoliad 8(3), rhoddir y rheoliad canlynol —
“(3) Os oes hysbysiad mewn perthynas â pharsel o dir wedi'i gyflwyno o'r blaen —
(a)gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) neu o dan unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (5), neu
(b)cyn i Reoliadau'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (Dileu) 2001 ddod i rym, gan y Bwrdd o dan baragraff 1,
caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad pellach o dan baragraff (1) mewn perthynas ag ef heb iddo fod o'r farn ei fod yn cael ei orbori.”.
(ch)Yn rheoliad 8(4)—
(i)yn lle'r gair “Bwrdd”, yn y ddau le y mae'n ymddangos, rhodder y geiriau “Cynulliad Cenedlaethol”;
(ii)yn y drydedd linell, dilëir y geiriau “neu gan y Cynulliad Cenedlaethol”.
(d)Yn rheoliad 19(1) yn lle'r geiriau “bod y Bwrdd”, yn yr ail le y cyfeirir at y Bwrdd, rhoddir y geiriau “ei fod”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Tachwedd 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy'n gymwys i Gymru (ac i ddaliadau amaethyddol sy'n cael eu gweinyddu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”)), o ganlyniad i ddileu'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynnyrch Amaethyddol (“y Bwrdd”) a throsglwyddo'r cyfrifoldeb am swyddogaethau penodol a oedd yn cael eu harfer gan y Bwrdd o'r blaen i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn benodol, mae'r rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000, Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001 a Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001, ac, ymhlith pethau eraill, yn darparu ar gyfer disodli cyfeiriadau at y Bwrdd yn y rhain â chyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.
Roedd dileu'r Bwrdd Ymyrraeth yn effeithiol ar 15 Tachwedd 2001 ac felly daeth y Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiad hwnnw yn unol â Rheoliad 1(1).
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999 / 2788).
Dileuwyd y Bwrddd Ymyrraeth ar 15 Tachwedd 2001. Hwnnw felly yw'r dyddiad y daw y Rheoliadau hyn i rym.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: