- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
15 Tachwedd 2001
Yn dod i rym
1 Ionawr 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.
(2) Maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989(4)) fel a ganlyn —
(a)yn rheoliad 4(1)(a) yn lle'r geiriau “, a special school not so maintained or a grant-maintained school” rhowch y geiriau “or a special school not so maintained”; a
(b)diddymir rheoliad 8.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989 (“Rheoliadau 1989”) mewn perthynas â Chymru.
Diwygir Rheoliad 4 o Reoliadau 1989 er mwyn tynnu'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir â grant (sef categori o ysgol nad yw'n bod mwyach).
Diddymir Rheoliad 8 fel nad oes gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mwyach gymeradwyo darparu tir ac adeiladau newydd sy'n golygu gwaith adeiladu neu newidiadau i dir ac adeiladau presennol mewn ysgol, sefydliad addysg bellach neu uwch neu hostel ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.
Mae'r diddymiad yn tynnu'r angen am gymeradwyaeth o dan y Rheoliadau yn unig ac nid yr angen am unrhyw gymeradwyaeth neu gydsyniad arall o dan unrhyw ddeddfiad arall.
Gwnaed diwygiadau tebyg ar gyfer Lloegr gan Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/692).
1988 p.40. Diwygiwyd adran 218(7) gan Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 38, Rhan I. Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14(4) o Ddeddf Addysg 1994 (p.30).
1996 p. 56; diwygiwyd adran 544 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), Atodlen 30, paragraff 160. I gael y diffiniad o “regulations” gweler adran 579(1).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1989/351, fel y'i diwygiwyd mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2001/692. Mae'r Rheoliadau yn parhau i fod yn effeithiol (mewn perthynas â Chymru) yn rhinwedd paragraff 1 o Atodlen 39 i Ddeddf Addysg 1996.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: