Search Legislation

Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3709 (Cy.305)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

15 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

7 Rhagfyr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Cynllun hwn.

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Teitl y Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 7 Rhagfyr 2001

(2Bydd y Cynllun hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Cynllun hwn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “busnes amaethyddol” (“agricultural business”), at ddibenion y Cynllun hwn, yw busnes amaethyddol sy'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenediaethol Cymru;

  • mae i “parth perygl nitradau” yr un ystyr ag sydd i “nitrate vulnerable zone” yn rheoliad 3 o Reoliadau Diogelu Dŵ r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996(2);

  • mae i “slyri” yr un ystyr ag sydd i “slurry” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991(3).

(2Yn y Cynllun hwn, mae unrhyw gyfeiriad—

(a)at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y Cynllun hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)at is-baragraff â rhif (heb gyfeiriad cyfatebol at baragraff penodol) yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.

Talu'r grantiau a symiau'r grantiau

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi i unrhyw berson un neu fwy o grantiau i gynrychioli 40 y cant o'r gwariant a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg, sef gwariant sydd wedi'i dynnu ar ôl 7 Rhagfyr 2001 ond cyn 17 Ebrill 2003 ac—

(a)sy'n wariant mewn perthynas â'r canlynol—

(i)darparu, amnewid neu wella—

(aa)cyfleusterau (gan gynnwys ffensys diogelwch) ar gyfer trafod a storio tail, slyri ac elifiant silwair,

(bb)cyfleusterau gwaredu sefydlog ar gyfer slyri ac elifiant silwair, neu

(cc)cyfleusterau (heblaw toeon) ar gyfer gwahanu dŵ r glân a dŵ r brwnt, os yw'r cyfleusterau hynny'n lleihau'r angen i storio slyri; neu

(ii)unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei roi mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;

(b)y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur gyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf;

(c)sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn; ac

(ch)nad yw'n fwy na chyfanswm o £85,000.

(2Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol bod gwariant yr hawlir grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) wedi'i dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.

Cyfyngiadau ar roi grantiau

4.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3—

(a)mewn perthynas ag unrhyw fusnes amaethyddol nad yw'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau; na

(b)tuag at unrhyw wariant a dynnir mewn perthynas â busnes amaethyddol sy'n golygu cynyddu ei allu i gynhyrchu.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3 oni bai ei fod wedi'i fodloni y bydd y gwariant y rhoddir y grant tuag ato yn arwain at rywfaint o leiaf o fantais amgylcheddol i'r parth perygl nitradau o dan sylw.

Hawliadau Grant

5.—(1Rhaid i unrhyw hawl am grant o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf, yn y modd ac erbyn y dyddiad y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu pennu, a rhaid i'r hawliwr o dan sylw roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch yr hawliad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt, gan gynnwys, pan bennir hynny, yr holl ddogfennau a chofnodion perthnasol.

(2Yn is-baragraff (1), mae'r cyfeiriad at ddogfennau a chofnodion perthnasol yn cynnwys cyfeiriad at gopïau ardystiedig ohonynt.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod yn ysgrifenedig i hawliwr a yw'r cais yn gymwys neu beidio, ac os nad yw'n gymwys, rhaid iddo roi'r rhesymau.

Dal grantiau yn ôl

6.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddal y cyfan neu unrhyw ran o grant sydd fel arall yn daladwy o dan y Cynllun hwn yn ôl neu eu hadennill os yw o'r farn—

(a)bod cymorth mewn perthynas â'r gwariant yr hawlir y grant tuag ato wedi'i gael neu ei fod ar gael oddi wrth ffynhonnell arall;

(b)y byddai'r gwaith yr hawlir y grant mewn perthynas ag ef yn rhwystro dibenion cymorth a roddwyd yn flaenorol o arian a ddarparwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd neu'r Gymuned Ewropeaidd;

(c)bod y gwariant yr hawlir y grant tuag ato yn ormodol, o roi sylw i holl amgylchiadau'r achos; neu

(ch)bod gwneud y gwaith y rhoddir y grant mewn perthynas ag ef eisoes wedi dinistrio neu wedi difrodi harddwch naturiol ac amwynder cefn gwlad i raddau na ellir eu cyfiawnhau ar sail unrhyw fantais amaethyddol a geir yn ei sgil.

(2Cyn gweithredu o dan is-baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r rhesymau am ddal y grant yn ôl, ei leihau neu ei adennill i'r person y bydd ei benderfyniad yn effeithio arno (“y person yr effeithir arno”) a'r dyddiad y cymerir y camau hynny;

(b)rhoi cyfle i'r person yr effeithir arno ymddangos gerbron person a benodir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael ei wrando ganddo;

(c)ystyried adroddiad person a benodir felly a rhoi copi ohono i'r person yr effeithir arno.

Diddymu a darpariaethau trosiannol

7.  Mae Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 1996(4) drwy hyn wedi'i ddiddymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r Cynllun hwn yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 dyddiedig 17 Mai 1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ac yn benodol Erthyglau 4 i 7 sy'n ymdrin â buddsoddi mewn daliadau amaethyddol.

Mae'r Cynllun hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau mewn perthynas â busnesau amaethyddol sydd wedi'u lleoli yn rhannol o leiaf mewn parthau perygl nitradau, fel y'u diffinnir gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Dŵ r rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996.

Mae'r cymorth grant ar gael (yn ôl cyfradd o 40%) tuag at wariant (hyd at uchafswm o £85,000) a dynnir gan y busnes amaethyddol rhwng y dyddiad y daeth rhan sylweddol y Cynllun i rym (7 Rhagfyr 2001) a 17 Ebrill 2003 mewn perthynas â chyfleusterau ar gyfer trafod, storio a gwaredu gwastraffoedd fferm penodol a gwahanu dwr glân a dwr brwnt (paragraff 3).

Mae nifer o gyfyngiadau ar roi grantiau o dan y Cynllun yn cael eu gosod (paragraff 4).

Mae'r Cynllun yn dangos sut mae'r grantiau i gael eu hawlio (paragraff 5) ac yn caniatáu i arian grant gael ei ddal yn ôl o dan amgylchiadau penodol (paragraff 6).

Mae Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 1996 yn cael ei ddiddymu.

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Cynllun hwn.

(1)

1970 p.40; gweler adran 28 i gael diffiniad o “the appropriate authority”. O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), erthygl 2(a) ac Atodlen 1, cafodd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)

OS 1996/888 addiwygiwyd gan OS 1997/2971 a 1998/1202.

(3)

OS 1991/324 a ddiwygiwyd gan OS 1997/547.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources