Search Legislation

Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3710 (Cy.306)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

15 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

1 Ionawr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994

3.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(1) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 9(1) o Atodlen 2 (Darparu gwybodaeth) yn lle'r geiriau “the appropriate further education funding council (as defined in section 1(6) of the Further and Higher Education Act 1992)” rhowch y geiriau “the appropriate council (within the meaning of section 61A of the Further and Higher Education Act 1992(2))”.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998

4.—(1Mae Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 hepgorwch—

“Training and Enterprise Council” means a company limited by guarantee formed for the purpose of entering into, and with whom the Secretary of State has entered into, arrangements under section 2 of the Employment and Training Act 1973 for the purpose of assisting persons to select, train for, and obtain or retain employment.

(3Yn lle rheoliad 3(2)(m), rhowch—

(m)the National Council for Education and Training for Wales;.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu Awdurdodau Addysg Lleol) 1998

5.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu Awdurdodau Addysg Lleol) 1998(4) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 hepgorwch—

  • “Training and Enterprise Council”, in relation to an authority, means every body with whom the Secretary of State has made arrangements under section 2 of the Employment and Training Act 1973 for the purpose of assisting persons who reside in the authority’s area to select, train for, obtain or retain employment;

(3Yn lle rheoliad 4(d) rhowch—

(d)the National Council for Education and Training for Wales;.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998

6.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998(5) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5 (Hysbysu Arolygiad)—

(a)ym mharagraff (1)(g) yn lle'r geiriau “a further education funding council” rhowch y geiriau “the National Council for Education and Training for Wales”;

(b)ym mharagraff (1)(i) yn lle'r geiriau “the Training and Enterprise Council for the area in which the school is located” rhowch y geiriau “the National Council for Education and Training for Wales”.

(3Yn rheoliad 6 (Cyfarfod â'r Rhieni)—

(a)ym mharagraff (c)(ii) yn lle'r geiriau “a further education funding council” rhowch y geiriau “the National Council for Education and Training for Wales”;

(b)ym mharagraff (d)(iv) yn lle'r geiriau “a further education funding council” rhowch y geiriau “the National Council for Education and Training for Wales”.

(4Yn rheoliad 8 (Cynlluniau Gweithredu)—

(a)ym mharagraff (3)(b) yn lle'r geiriau “the Training and Enterprise Council for the area in which the school is situated” rhowch y geiriau “the National Council for Education and Training for Wales”;

(b)ym mharagraff (3)(c) yn lle'r geiriau “a further education funding council” rhowch y geiriau “the National Council for Education and Training for Wales”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999

7.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(6) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (Cynnwys a pharhad Cynllun Trefniadaeth yr Ysgol)—

(a)ar ôl “section 26(2)(a)” rhowch “and (ab)”(7);

(b)yn lle “which provides” rhowch “which provide”;

(c)ar ôl “exercise their functions” rhowch “and powers”.

(3Yn rheoliad 4 (Cyhoeddi'r Cynllun Drafft) yn lle paragraff (1)(a)(viii) rhowch—

(viii)the National Council for Education and Training for Wales;.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999

8.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999(8) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7 (Cyrff eraill y dylid anfon cynigion atynt) yn lle paragraff (2)(a) rhowch—

(a)the National Council for Education and Training for Wales, if the proposals affect the provision of education to which section 31(1) of the Learning and Skills Act 2000 applies;.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999

9.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(9) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6(9) yn lle'r geiriau “a further education funding council” rhowch y geiriau “the National Council for Education and Training for Wales”.

(3Hepgorwch baragraff 20 o Atodlen 1 (Gwybodaeth gyffredinol sydd i'w chyhoeddi gan yr awdurdodau, Rhan II - y ddarpariaeth addysgol arbennig) ac yn ei le rhowch y canlynol—

20.  The authority’s arrangements and policies for persons with learning difficulties who are over compulsory school age but have not attained the age of nineteen years and who attend any institution outside the higher education sector where the National Council for Education and Training for Wales has secured provision under section 31 of the Learning and Skills Act 2000, in respect of transport to and from those institutions..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2001

YR ATODLEN(11)

1.  Adrannau 347(2), 509(6), 527A(4) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996(12).

2.  Adran 21(3)(c) o Ddeddf Arolygu Ysgolion 1996(13) a pharagraff 6 o Atodlen 3 iddi.

3.  Adran 39(3) o Ddeddf Addysg 1997(14)).

4.  Adrannau 26, 31(7) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(15).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliadau o ganlyniad i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Maent yn disodli cyfeiriadau at Gyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru a Chynghorau Hyfforddi a Menter â chyfeiriadau at Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae rheoliad 8 hefyd yn adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf honno mewn perthynas â chynnwys cynllun trefniadaeth ysgol.

Dyma'r Rheoliadau sy'n cael eu diwygio.

  • Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994;

  • Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998;

  • Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu Awdurdodau Addysg Lleol) 1998;

  • Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998;

  • Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999;

  • Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999;

  • Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999.

(2)

1992 p.13. Mewnosodwyd adran 61A gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 37.

(7)

Mewnosodwyd adran 26(2)(ab) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 80.

(10)

1998 p.38.

(11)

Cafodd yr holl bwerau a restrir yn yr Atodlen eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol, a chafodd pob un o'r pwerau hyn mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(12)

1996 p.56. Amnewidiwyd adran 509(6) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 133. Mewnosodwyd adran 527(A) gan Ddeddf Addysg 1997, adran 9.

(13)

1996 p.57.

(14)

1997 p.44.

(15)

1998 p.31. Diwygiwyd adran 26 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 80.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources