Search Legislation

Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant -lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3711 (Cy.307)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant -lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

15 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

14 Rhagfyr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1) a pharagraffau 9(4), (5) a (6) o Atodlen 1 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 499 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(2) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001.

(2Deuant i rym ar 14 Rhagfyr 2001.

(3Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:

  • ystyr “awdurdod addysg lleol” (“local education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr” (“parent governor representative”) yw person sydd wedi'i ethol yn unol â rheoliadau 5 i 7 neu sy'n cael ei drin yn unol â rheoliad 11 pe bai wedi'i ethol felly;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4));

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “dyddiad yr etholiad” (“the date of the election”), mewn perthynas ag etholiad pan ellir bwrw pleidlais ar fwy nag un dyddiad, yw'r dyddiad olaf y gellir bwrw pleidlais neu y gellir derbyn pleidleisiau post;

  • mae i “gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive” gan adran 11 o Ddeddf 2000;

  • ystyr “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg” (“education overview and scrutiny committee”) yw —

    (a)

    pwyllgor neu is?bwyllgor trosolygu a chraffu awdurdod addysg lleol wedi'i benodi o dan adran 21 o Ddeddf 2000 y mae ei swyddogaethau yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod; neu

    (b)

    pwyllgor neu is-bwyllgor awdurdod addysg lleol wedi'i benodi yn unol â darpariaeth sydd wedi'i chynnwys mewn trefniadau amgen yn rhinwedd adran 32(1)(b) o Ddeddf 2000 (trefniadau ar gyfer penodi pwyllgorau neu is-bwyllgorau i adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymrwyd, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod) y mae ei swyddogaethau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod(5);

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr) (Cymru) 1999(6);

  • ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw—

    (a)

    person—

    (i)

    sydd wedi'i ethol yn aelod o gorff llywodraethu ysgol gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol; a

    (ii)

    sydd yn rhiant i ddisgybl o'r fath ar yr adeg y caiff ei ethol; neu

    (b)

    person sydd wedi'i benodi'n rhiant-lywodraethwr gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1998(7); neu

    (c)

    person sy'n parhau yn rhiant-lywodraethwr at ddibenion ailgyfansoddi'r corff llywodraethu wrth drosi i'r fframwaith ysgolion newydd yn rhinwedd rheoliadau o dan Ran II o Ddeddf 1998(8));

  • mae i “trefniadau amgen” yr ystyr a roddir i “alternative arrangements” gan adran 32 o Ddeddf 2000;

  • mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10 o Ddeddf 2000;

  • ystyr “trefniadau pleidleisio yn ôl categori” (“voting by category arrangements”) yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2);

  • mae i “ysgol” (“school”) yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf 1998.

Trefniadau Amgen

3.—(1Pennir darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 yn ychwanegol at y trefniadau amgen a bennir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(9).

(2I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hynny'n anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn fydd drechaf.

Gofyniad bod pwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yn cynnwys cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr

4.  Yn ddarostyngedig i reoliad 13, rhaid i awdurdod addysg lleol benodi o leiaf ddau ond nid mwy na phum cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr, wedi'u hethol yn unol â rheoliad 5, i bob un o'u pwyllgorau trosolygu a chraffu addysg.

Gweithdrefnau etholiadol a swyddi gwag

5.—(1Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod addysg lleol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer cynnal etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a phenderfynu ar yr holl faterion eraill ynghylch ei gynnal, ond ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod rhag penodi corff arall i gynnal neu oruchwylio'r etholiad hwnnw.

(2Caiff awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i rannu cynrychiolwyr rhiant?lywodraethwyr i gategorïau gwahanol sy'n cynrychioli naill ai —

(a)math penodol o ysgol neu fathau penodol o ysgol, neu

(b)ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol,

ac i gyfyngu etholaeth pob categori felly i riant-lywodraethwyr o'r un math o ysgol neu o'r un mathau o ysgol neu riant-lywodraethwyr ysgolion yn yr ardal honno.

(3Os bydd gofyn llenwi swydd ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr drwy etholiad rhaid i'r awdurdod addysg lleol gyhoeddi'r swydd wag honno o fewn tri mis iddi ddod yn wag ac ar yr un adeg â'r cyhoeddiad hwnnw rhaid iddynt—

(a)penodi swyddog canlyniadau a fydd yn sicrhau cyn belled â phosibl fod yr etholiad yn cael ei gynnal yn deg; a

(b)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob person y gwyddys ei fod yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr (yn unol â rheoliad 6)—

(i)wedi cael gwybod am y swydd wag y mae'n ofynnol ei llenwi drwy etholiad;

(ii)wedi cael gwybod bod ganddo ef neu ganddi hi hawl i bleidleisio yn yr etholiad a bod esboniad o'r gweithdrefnau pleidleisio yn rheoliad 6(2) i 6(6) (fel y bo'n gymwys) yn cael ei roi iddo ef neu iddi hi;

(iii)wedi cael gwybod am fanylion yr amserlen a'r gweithdrefnau etholiadol;

(iv)wedi cael gwybod am y cymwysterau y mae ar berson eu hangen (o dan reoliad 7) er mwyn cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr, ac am gyfnod swydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr (o dan reoliad 9); a

(v)wedi cael disgrifiad o rôl cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

(4Rhaid cynnal unrhyw etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr lle ceir gornest drwy bleidlais gyfrinachol.

(5Ni chaiff unrhyw bapur pleidleisio mewn etholiad felly gynnwys unrhyw arwydd o gysylltiad â phlaid wleidyddol.

(6Pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn codi, rhaid i'r awdurdod addysg lleol —

(a)penderfynu, at ddibenion yr etholiad, unrhyw gwestiwn ynghylch hawl person i bleidleisio neu ei gymhwyster i sefyll etholiad;

(b)darparu i bob person sy'n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad gael cyfle i wneud hynny drwy'r post;

(c)sicrhau bod canlyniadau'r etholiad yn cael eu cyhoeddi heb fod yn fwy nag wythnos ar ôl dyddiad yr etholiad.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr, rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod etholiad yn cael ei gynnal mewn pryd i lenwi'r swydd heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth y swydd yn wag.

(8Pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr heb ei llenwi oherwydd nad oes ymgeisydd, neu nad oes digon o ymgeiswyr yn ceisio cael eu hethol, rhaid i'r awdurdod addysg lleol gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn unwaith eto cyn pen blwyddyn i'r swydd wreiddiol ddod yn wag a phob chwe mis wedyn, wedi'i gyfrifo o'r pen-blwydd cyntaf ar ôl i'r swydd wreiddiol ddod yn wag, hyd nes y llenwir y swydd.

(9Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bleidlais gael ei chynnal os yw nifer y swyddi gwag sydd i'w llenwi yn hafal i nifer yr ymgeiswyr sydd i'w ethol neu'n fwy na hynny.

Cymhwyster i bleidleisio mewn etholiadau a gofynion pleidleisio

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), bydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr os yw'r person hwnnw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr ar un neu fwy o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad.

(2Pan fydd pleidleisio, o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori, dros gategori penodol o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cael ei gyfyngu i riant-lywodraethwyr o fath penodol neu o fathau penodol o ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, ni fydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ond os yw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr un neu fwy o ysgolion o'r math hwnnw neu o'r mathau hynny a gynhelir gan yr awdurdod.

(3Pan fydd pleidleisio, o dan drefniadau felly, dros gategori penodol o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cael ei gyfyngu i riant-lywodraethwyr o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod mewn ardal ddaearyddol benodol, ni fydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ond os yw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr un neu fwy o ysgolion yn yr ardal ddaearyddol honno a gynhelir gan yr awdurdod.

(4Pan na fydd yr awdurdod wedi gwneud trefniadau pleidleisio yn ôl categori, bydd gan berson sydd yn rhiant-lywodraethwr ar fwy nag un ysgol a gynhelir gan yr awdurdod ar ddyddiad yr etholiad, hawl i fwrw'r nifer o bleidleisiau sy'n hafal i nifer yr ysgolion hynny y mae'n rhiant-lywodraethwr arnynt ar ddyddiad yr etholiad.

(5Pan fydd yr awdurdod wedi gwneud trefniadau pleidleisio yn ôl categori, bydd gan berson sydd, yn rhinwedd paragraff (2) neu (3), yn gymwys i bleidleisio yn etholiad mwy nag un categori o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr (oherwydd ei fod yn rhiant-lywodraethwr ar fwy nag un math o ysgol neu ar ysgolion mewn mwy nag un ardal ddaearyddol, yn ôl fel y digwydd) hawl i bleidleisio yn etholiad pob categori felly y mae'n gymwys ynddynt.

(6Bydd y nifer o bleidleisiau y mae gan berson felly hawl i'w bwrw yn etholiad pob categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr y mae'n gymwys i bleidleisio ynddynt yn nifer sy'n hafal i nifer yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod y mae'n rhiant-lywodraethwr cymwys arnynt ar ddyddiad yr etholiad.

(7Ym mharagraff (6) ystyr “rhiant-lywodraethwr cymwys” (“eligible parent governor”) yw rhiant-lywodraethwr sy'n gymwys yn unol â pharagraff (2) neu (3) (yn ôl fel y digwydd) a pharagraff (5) i bleidleisio yn etholiad y categori o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr o dan sylw.

Cymwysterau ar gyfer etholiad fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr

7.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd person, onid yw wedi'i anghymhwyso o dan unrhyw ddeddfiad, yn gymwys i'w ethol fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr mewn etholiad a gynhelir gan awdurdod addysg lleol os yw ar ddyddiad yr etholiad—

(a)yn rhiant-lywodraethwr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw; a

(b)yn rhiant plentyn cofrestredig sy'n cael ei addysgu mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, neu sy'n cael ei addysgu gan yr awdurdod hwnnw heblaw mewn ysgol.

(2Pan fydd y swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli math penodol o ysgol neu fathau penodol o ysgol, ni fydd person yn gymwys i gael ei ethol ond os yw, yn ychwanegol at fodloni gofynion paragraffau (1)(a) ac (1)(b) hefyd yn rhiant-lywodraethwr ar ysgol o'r math hwnnw neu ar un o'r mathau hynny o ysgol.

(3Pan fydd y swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol, ni fydd person yn gymwys i gael ei ethol ond os yw, yn ychwanegol at fodloni gofynion paragraffau (1)(a) ac (1)(b) hefyd yn rhiant-lywodraethwr ar ysgol yn yr ardal honno.

(4Bydd person sydd eisoes yn aelod o'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

(5Bydd person sy'n athro neu'n athrawes, neu a gyflogir fel arall, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad, neu mewn uned cyfeirio disgyblion neu mewn ysgol feithrin a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

(6Bydd person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad, ac y mae ei gyflogaeth yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â swyddogaethau addysg yr awdurdod hwnnw, wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

(7Ni fydd person yn gymwys i'w ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr pwyllgor trosolygu a chraffu addysg awdurdod addysg lleol os yw ar ddyddiad yr etholiad eisoes yn dal swydd fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ar bwyllgor trosolygu a chraffu addysg yr awdurdod hwnnw neu unrhyw awdurdod arall.

Anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr

8.—(1Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan y Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno —

(a)pan fydd yn ymddiswyddo neu pan gaiff ei anghymhwyso o swydd rhiant-lywodraethwr o dan unrhyw ddeddfiad; neu

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fydd yn rhoi'r gorau i fod yn rhiant-lywodraethwr mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol o dan sylw, am unrhyw reswm heblaw—

(i)bod cyfnod ei swydd fel rhiant-lywodraethwr ysgol o'r fath wedi dod i ben; neu

(ii)bod newid yng nghyfansoddiad corff llywodraethu'r ysgol yr oedd yn rhiant-lywodraethwr arni.

(2Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion o fath penodol neu o fathau penodol yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os nad yw mwyach yn dal unrhyw swydd fel rhiant-lywodraethwr a oedd yn ei gymhwyso neu a fyddai wedi ei gymhwyso i gael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr am unrhyw reswm heblaw'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b).

(3Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os nad yw mwyach yn dal unrhyw swydd fel rhiant-lywodraethwr a oedd yn ei gymhwyso neu a fyddai wedi ei gymhwyso i gael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr am unrhyw reswm heblaw'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b).

(4Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os bydd yn cael ei ethol yn aelod o'r awdurdod addysg lleol o dan sylw.

(5Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os bydd yn ymgymryd â chyflogaeth—

(a)p'un ai fel athro neu athrawes neu fel arall, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol o dan sylw neu mewn uned cyfeirio disgyblion neu mewn ysgol feithrin a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, neu

(b)gyda'r awdurdod addysg lleol a bod ei gyflogaeth yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â swyddogaethau addysg yr awdurdod hwnnw.

(6Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr sydd wedi methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd pwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'n aelod ohono am gyfnod di-dor o chwe mis gan ddechrau ar ddyddiad cyfarfod, pan fydd y cyfnod hwnnw'n dod i ben, yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno.

(7At ddibenion paragraff (6), ni chymerir bod cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr wedi methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod o bwyllgor trosolygu a chraffu addysg os yw wedi cyflwyno ymddiheuriad am ei absenoldeb a bod yr ymddiheuriad hwnnw wedi'i dderbyn gan y pwyllgor.

Cyfnod y swydd

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod a rheoliad 13 (darpariaethau trosiannol), bydd cyfnod swydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ar bwyllgor trosolygu a chraffu addysg —

(a)yn dechrau ar unrhyw ddyddiad y penderfynir arno gan yr awdurdod addysg lleol, sef dyddiad heb fod yn fwy na mis ar ôl dyddiad cyhoeddi canlyniad yr etholiad yr etholwyd ef neu hi ynddo, a

(b)o'r hyd hwnnw y penderfynir arno gan yr awdurdod addysg lleol sef cyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd nac yn fwy na phedair blynedd.

(2Pan na fydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cwblhau cyfnod ei swydd, caiff yr awdurdod addysg lleol benodi olynydd iddo am y rhan o gyfnod blaenorol y swydd sydd heb ddirwyn i ben.

Hawliau pleidleisio cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr

10.  Bydd gan gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr hawl i bleidleisio yng nghyfarfod pwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'n aelod ohono ar unrhyw gwestiwn —

(a)sy'n ymwneud ag unrhyw swyddogaethau addysg sydd yn gyfrifoldeb yr awdurdod addysg lleol o dan sylw, a

(b)sydd i'w ystyried yn y cyfarfod.

Cynrychiolwyr eglwysig

11.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor awdurdod addysg lleol sydd wedi'i benodi yn unol â'r ddarpariaeth a gynhwysir mewn trefniadau amgen yn rhinwedd adran 32(1)(b) (y cyfeirir ato isod yn y rheoliad hwn fel pwyllgor trosolygu a chraffu addysg) os yw swyddogaethau'r pwyllgor yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod.

(2Mae'r rheoliad hwn hefyd yn gymwys i is-bwyllgor i bwyllgor trosolygu a chraffu addysg awdurdod os yw swyddogaethau'r is-bwyllgor yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod.

(3Rhaid i bwyllgor neu is-bwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys un neu fwy o bersonau a benodir fel cynrychiolwyr y personau sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig ar gyfer yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac sydd wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel ysgolion sydd â chymeriad yn gysylltiedig â chrefydd benodol, neu ag enwad crefyddol penodol, sydd wedi'u pennu yn y cyfarwyddiadau.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys os nad oes ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac sydd wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau o dan y paragraff hwnnw.

(5Mae gan aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor trosolygu a chraffu addysg a benodwyd yn rhinwedd paragraff (3) hawl i bleidleisio mewn cyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor ar unrhyw gwestiwn —

(a)sy'n ymwneud ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod o dan sylw, a

(b)sydd i'w benderfynu yn y cyfarfod.

(6Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy gyfarwyddiadau i awdurdod addysg lleol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yr awdurdod y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt gynnwys personau a benodir, yn unol â'r cyfarwyddiadau, yn gynrychiolwyr y personau sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig i'r ysgolion hynny a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac nad ydynt wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau o dan baragraff (3) a all gael eu pennu mewn cyfarwyddiadau o dan y paragraff hwn.

(7Gall cyfarwyddiadau o dan baragraff (6) wneud darpariaeth ynghylch hawliau pleidleisio personau a benodir yn unol â chyfarwyddiadau o'r fath.

Diddymu a Darpariaethau Trosiannol

12.—(1Mae Rheoliadau 1999 drwy hyn wedi'u diddymu.

(2Ni fydd diddymu Rheoliadau 1999 yn dirymu penodiad cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr i bwyllgor perthnasol (o fewn ystyr “relevant committee” yn Rheoliadau 1999).

(3Hyd nes y bydd awdurdod addysg lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen bydd y Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw—

(a)fel pe bai cyfeiriadau at “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg” yn gyfeiriadau at bwyllgor perthnasol (o fewn ystyr “relevant committee” yn Rheoliadau 1999), a

(b)fel pe bai'r cyfeiriad yn rheoliad 10 at “gweithrediaeth yr awdurdod addysg lleol o dan sylw” yn gyfeiriad at “yr awdurdod o dan sylw”.

13.—(1Yn y rheoliad hwn, ystyr “Cynrychiolydd 1999” yw cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr —

(a)sydd wedi'i ethol a'i benodi i bwyllgor perthnasol (o fewn ystyr “relevant committee” yn Rheoliadau 1999) awdurdod lleol yn unol â Rheoliadau 1999, a

(b)nad yw cyfnod ei swydd a gyfrifwyd yn unol â Rheoliadau 1999, wedi dirwyn i ben ar y dyddiad y mae'r awdurdod hwnnw'n sefydlu pwyllgor trosolygu a chraffu addysg.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) pan fydd awdurdod addysg lleol yn sefydlu pwyllgor trosolygu a chraffu addysg, ymdrinnir â Chynrychiolydd 1999 fel pe bai wedi'i benodi i'r pwyllgor trosolygu a chraffu addysg hwnnw.

(3Bydd Cynrychiolydd 1999 yr ymdrinnir ag ef fel pe bai wedi'i benodi i bwyllgor trosolygu a chraffu addysg yn unol â pharagraff (2) yn parhau yn ei swydd hyd nes y daw cyfnod gwreiddiol ei swydd i ben fel aelod o'r pwyllgor perthnasol (o fewn ystyr “relevant committee” yn Rheoliadau 1999).

(4Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal Cynrychiolydd 1999 rhag cael ei anghymhwyso rhag parhau yn ei swydd yn rhinwedd darpariaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

14.—(1Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (10) yn y diffiniad o “trefniadau amgen” ar ôl “rheoliad 4” mewnosodwch “neu â Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(11)

(2Yn lle rheoliad 4(3) o'r Rheoliadau hynny rhowch y canlynol:

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pennir y trefniadau a nodir yn y Rheoliadau hyn a'r trefniadau a nodir yn Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(12) yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000.

(4) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau olaf hynny fydd drechaf..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr wneud trefniadau sy'n golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod. Mae Rhan II o'r Ddeddf honno hefyd yn gwneud darpariaeth i'r awdurdodau lleol wneud trefniadau amgen nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen sefydlu un neu fwy o bwyllgorau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel pwyllgorau trosolygu a chraffu.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i gynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir gael eu cynnwys ar bwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Mae rheoliad 3 yn datgan bod darpariaethau'r Rheoliadau hyn wedi'u pennu fel trefniadau amgen yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000 ac mai'r Rheoliadau hyn sy'n trechu os digwydd bod unrhyw ddarpariaeth yn anghyson â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod pob pwyllgor trosolygu a chraffu addysg yn cynnwys rhwng 2 a 5 o gynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr.

Mae rheoliad 5 yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer ethol cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr ac yn caniatáu i'r awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i rannu cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr i gategorïau gwahanol sy'n cynrychioli math penodol neu fathau penodol o ysgol neu sy'n cynrychioli ysgolion mewn ardaloedd daearyddol penodol.

Mae rheoliad 6 yn ymwneud â meini prawf cymhwyster ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau. Oni fydd awdurdod addysg lleol yn cynnal etholiad ar gyfer categori penodol o gynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr gall unrhyw riant-lywodraethwr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw bleidleisio. Er hynny, os yw'r swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli math penodol neu fathau penodol o ysgol dim ond rhiant-lywodraethwyr yr un math neu fathau o ysgol a all bleidleisio. Yn yr un modd, os yw'r swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwr i gynrychioli ysgolion mewn ardal benodol dim ond rhiant-lywodraethwyr ysgolion yn yr ardal honno a all bleidleisio. Ym mhob etholiad pan fydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn gymwys i bleidleisio mae gan y cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr hwnnw bleidlais ar wahân ar gyfer pob swydd llywodraethwr gymwys y mae'n ei dal ar gyfer yr etholiad arbennig hwnnw.

Mae rheoliad 7 yn nodi'r cymwysterau ar gyfer etholiad fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr. Yn fras, gall unrhyw berson sy'n rhiant-lywodraethwr ac yn rhiant i blentyn sy'n cael ei addysgu gan yr awdurdod sy'n cynnal yr etholiad gael ei ethol. Er hynny, os yw'r swydd wag yn un i gynrychioli math penodol neu fathau penodol o ysgol dim ond rhiant-lywodraethwyr o'r math neu fathau perthnasol o ysgol a all gael eu hethol. Yn yr un modd, os yw'r swydd wag yn un i gynrychioli ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol dim ond rhiant-lywodraethwyr ysgolion yn yr ardal honno a all gael eu hethol.

Mae rheoliadau 7 a 8 yn nodi'r amgylchiadau sy'n anghymhwyso person rhag cael ei ethol neu rhag parhau i weithredu fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

Mae rheoliad 9 yn darparu cyfnod swydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i fod rhwng dwy flynedd a phedair blynedd, onid yw'r swydd yn dod yn wag yn ystod y cyfnod, ac mae'n nodi'r weithdrefn pan ddaw'r swydd yn wag yn ystod y cyfnod, gan gynnwys cyfnod swydd olynydd y cynrychiolydd.

Mae rheoliad 10 yn nodi hawliau pleidleisio cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr. Gall cynrychiolydd bleidleisio ar unrhyw fater sy'n ymwneud â swyddogaethau addysgol gweithrediaeth yr awdurdod sy'n codi yng nghyfarfod un o bwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yr awdurdod hwnnw.

Mae rheoliad 11 yn darparu i bwyllgor trosolygu a chraffu addysg sydd wedi'i benodi o dan drefniadau amgen a weithredir gan awdurdod addysg lleol gynnwys o leiaf un cynrychiolydd eglwysig os yw'r awdurdod o dan sylw yn cynnal un neu fwy o ysgolion â chymeriad crefyddol.

Mae rheoliad 12 yn diddymu Rheoliadau blaenorol sy'n ymdrin â chynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr. Mae hefyd yn nodi darpariaethau trosiannol i ymdrin â'r sefyllfa cyn i'r pwyllgorau trosolygu a chraffu newydd gael eu sefydlu.

Mae rheoliad 13 yn ymdrin â throsglwyddo cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr a etholwyd o dan yr hen Reoliadau i'r pwyllgorau newydd.

Mae rheoliad 14 yn gwneud diwygiadau penodol i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 ac yn cadarnhau y bydd y Rheoliadau hyn yn cael blaenoriaeth dros y Rheoliadau hynny os bydd rhyw anghysondeb rhwng darpariaethau'r ddwy set o Reoliadau.

(2)

1996 p.56; diwygiwyd adran 499 gan adran 9 o Ddeddf 1998.

(3)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)

(5)

Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (O.S 2001/2285 (W.173)).

(7)

Gweler rheoliadau 9 a 12 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru)1999 (O.S. 1999/2242 (Cy.2.) ) ac Atodlenni 2, 5 a 6 iddynt.

(8)

Gweler rheoliadau 13 ac 20 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trosi i Fframwaith Newydd) 1998 (O.S. 1998/2763).

(13)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources