- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
20 Tachwedd 2001
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990(3) (“Rheoliadau 1990”) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1 (dehongli) —
(a)hepgorir y diffiniad o “authorised institution”;
(b)ar ôl y diffiniad o “bill of exchange” mewnosodir y diffiniad canlynol —
““deposit-taker” has the same meaning as in section 43 of the Local Government and Housing Act 1989(4);”;
(c)yn y diffiniad o “relevant lender”, yn lle'r geiriau “an authorised institution or a building society within the meaning of the Building Societies Act 1986” rhoddir y geiriau “a deposit-taker”.
(3) Yn rheoliad 2 (buddsoddiadau wedi'u cymeradwyo) —
(a)yn lle paragraff (b) rhoddir y paragraff canlynol —
“(b)any deposit made with a deposit-taker (other than a deposit-taker falling within sub-paragraph (c)) or the Bank of England, or any certificate of such a deposit, and, for this purpose, “deposit” has the same meaning as in article 5 of the Financial Services and Markets Act 2000 (Regulated Activities) Order 2001(5) except that no account is to be taken of the reference to a local authority in article 6(1)(a)(viii) of that Order;”;
(b)Ym mharagraff (d) yn lle'r geiriau “an authorised institution” rhoddir y geiriau “a deposit-taker”.
3. Bydd unrhyw fuddsoddiad a wnaed gan awdurdod lleol ar neu cyn 30 Tachwedd 2001 a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn fuddsoddiad wedi'i gymeradwyo at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cyfrifon refeniw a chyllid cyfalaf yr awdurdodau lleol) yn rhinwedd rheoliad 2 o Reoliadau 1990 yn parhau yn fuddsoddiad wedi'i gymeradwyo at ddibenion Rhan IV er gwaethaf y diwygiadau i Reoliadau 1990 a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Tachwedd 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990 yn cynnwys rhestr o fuddsoddiadau sydd wedi'u cymeradwyo at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (sy'n gosod rheolau ar gyfrifon refeniw a chyllid cyfalaf yr awdurdodau lleol).
Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau 1990 ar ôl i Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 ddod i rym. Darpariaeth arbed yw rheoliad 4, a'i effaith yw bod buddsoddiadau a oedd yn fuddsoddiadau wedi'u cymeradwyo ar 30 Tachwedd 2001 yn parhau yn fuddsoddiadau wedi'u cymeradwyo at ddibenion Rhan IV.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1990/426; cafodd diwygiad perthnasol ei wneud gan O.S. 1995/1982.
Mewnsodwyd diffiniad “deposit-taker” yn adran 43 gan Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) 2001 (O.S. 2001/3649).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: