Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3761 (Cy.310)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001

Wedi'i wneud

20 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2, 3 a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1) fel y'u darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amywiol) 1972(2) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001, bydd yn gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 17 Rhagfyr 2001.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993

2.—(1Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(4) yn unol â pharagraffau (2) i (16) isod.

(2Yn erthygl 2(1):

(a)Yn lle'r diffiniad o “Directive 77/93/EEC” rhoddir y testun canlynol:

“Directive 2000/29/EC” means Council Directive 2000/29/EC(5) of 8th May 2000 on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community as amended by Commission Directive 2001/33/EC amending certain annexes to Council Directive 2000/29/EC;(6) a

(b)Yn y diffiniad o “protected zone”, ym mharagraff (a) yn lle “Directive 77/93/EEC” rhoddir “Directive 2000/29/EC”; ac yn y geiriau sy'n dilyn paragraff (b) yn lle “Article 16a of Directive 77/99/EEC” rhoddir “Article 18 of Directive 2000/29/EC”.

(3Yn erthygl 30, yn lle “Directive 77/93/EEC” rhoddir “Directive 2000/29/EC”.

(4Yn Atodlen 1, Rhan B(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad):

(a)yn eitem 1, yn yr ail golofn, dilëir “DK”; a

(b)yn eitem 2, yn lle'r testun yn yr ail golofn rhoddir y testun canlynol:

  • Spain (Ibiza and Menorca), Ireland, Portugal (Azores and Madeira), Finland (districts of Åland, Håme, Kymi, Pirkanmaa, Satakunta, Turku, Uusimaa), Sweden (counties of Blekinge, Gotlands, Halland, Kalmar and Skåne), United Kingdom,

(5Yn Atodlen 1, Rhan B(d) (Organeddau Firws ac Organeddau Tebyg i Firysau), yn eitem 2, yn yr ail golofn, dilëir “DK”.

(6Yn Atodlen 2, Rhan B(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad):

(a)Yn eitem 5, yn y drydedd golofn, yn lle “EL,P” rhoddir y testun canlynol “EL, P (Azores; district of Beja: all concelhos; district of Castelo Branco: concelhos de Castelo Branco, Fundão and Penamacôr, Idanha-a-Nova; district of Évora with the exception of concelhos de Montemcor-o-Novo, Mora and Vendas Novas; district of Faro: all concelhos; district of Portalegre: concelhos de Arronches, Campo Maior, Elvas, Fronteira, Monforte and Sousel)”; a

(b)Dilëir eitem 8.

(7Yn Atodlen 2, Rhan B(b) (Bacteria) yn eitem 2, yn lle'r testun yn y drydedd golofn, rhoddir y testun canlynol:

  • E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forli-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Apulia; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, East Tyrol, Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands).

(8Yn Atodlen 3, Rhan B (Planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill y gwaherddir eu cyflwyno mewn parthau diogel penodol) yn eitem 1, yn lle'r testun yn yr ail golofn, rhoddir y testun canlynol:

  • E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna; provinces of Forli-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Apulia; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, East Tyrol, Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands).

(9Yn Atodlen 4, Rhan A, Adran 1 yn lle “Directive 77/93/EEC” rhoddir yn y testun yn y golofn ar yr ochr dde y geiriau “Directive 2000/29/EC” yn y mannau canlynol:

(a)yn eitem 16.2, paragraffau (b) ac (c);

(b)yn eitem 16.3, paragraff (b); ac

(c)yn eitem 16.3a, paragraff (b).

(10Yn Atodlen 4, Rhan A, Adran 1, eitem 25.4, yn lle “Article 16a of Council Directive 77/93/EEC” yn y testun yn y golofn ar yr ochr dde rhoddir y geiriau “Article 18 of Directive 2000/29/EC”.

(11Yn Atodlen 4, Rhan B (Gofynion arbennig sydd i'w pennu ar gyfer cyflwyno a symud planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill i barthau diogel penodol ac o'u mewn):

(a)dilëir eitem 13;

(b)yn eitem 19 yn lle'r testun yn y drydedd golofn rhoddir y testun canlynol:

  • EL, P (Azores; district of Beja: all concelhos; district of Castelo Branco; concelhos de Castelo Branco, Fundão and Penamacôr, Idanha-a-Nova; district of Évora with the exception of concelhos de Montemor-o-Novo, Mora and Vendas Novas; district of Faro: all concelhos; district of Portalegre: concelhos de Arronches, Campo Maior, Elvas, Fronteira, Monforte and Sousel); ac

(c)Yn eitem 21, yn lle'r testun yn y drydedd golofn rhoddir y testun canlynol:

  • E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forlí-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini: Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Apulia; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, East Tyrol, Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands); ac

(ch)yn eitem 24, yn y drydedd golofn, dilëir, “DK”.

(12Diwygir Atodlen 8(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad) fel a ganlyn —

(a)yn eitem 2, yn yr ail golofn, dilëir “Denmark”;

(b)yn eitem 6, yn lle'r testun yn yr ail golofn rhoddir y testun canlynol:

  • Greece, Portugal (Azores; district of Beja: all concelhos; district of Castelo Branco: concelhos de Castelo Branco, Fundão and Penamacôr, Idanha-a-Nova; district of Évora with the exception of concelhos de Montemor-o-Novo, Mora and Vendas Novas; district of Faro: all concelhos; district of Portalegre: concelhos de Arronches, Campo Maior, Elvas, Fronteira, Monforte and Sousel);

(c)yn eitem 12, dilëir y testun yn yr ail golofn ac yn ei le rhoddir y testun canlynol:

  • Spain (Ibiza and Menorca), Ireland, Portugal (Azores and Madeira), Finland (districts of Åland, Håme, Kymi, Pirkanmaa, Satakunta, Turku, Uusimaa), Sweden (counties of Blekinge, Gotlands, Halland, Kalmar and Skåne), United Kingdom; ac

(ch)dilëir eitem 14

(13Yn Atodlen 8(b) (Bacteria), yn eitem 2 yn lle'r testun yn yr ail golofn rhoddir y testun canlynol:

  • Spain, France (Corsica), Ireland, Italy (Abruzzi; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forlí-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Apulia; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto), Austria (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, East Tyrol, Styria, Vienna), Portugal, Finland, United Kingdom (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands).

(14Yn Atodlen 8(d) (Organeddau Firws ac Organeddau Tebyg i Firysau), yn eitem 2 yn yr ail golofn, dilëir “Denmark”.

(15Yn Atodlen 13, paragraff 9(1)(a), yn lle “Council Directive 77/93/EEC” rhoddir y geiriau “Council Directive 2000/29/EC”.

(16Dilëir Atodlen 16 (Offerynnau sy'n Diwygio ac yn Cydategu Cyfarwyddeb y Cyngor 77/93/EEC).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Tachwedd 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 er mwyn rhoi Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif L127, 9.5.2001, t.38) a 2001/33/EC (OJ Rhif L127, 9.5.2001, t.42) ar waith yng Nghymru. Mae'r cyntaf o'r ddwy yn diwygio'r parthau diogel a sefydlwyd o dan y prif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L169, 10.7.2000, t.1) ac mae'r ail yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i rai o Atodiadau'r Gyfarwyddeb honno.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud sawl newid i ddiffiniadau daearyddol amrywiol barthau diogel a restrir yn Atodlen 8 i Orchymyn 1993 a diwygiadau cyfatebol i Atodlenni 1B, 2B, 3B a 4B. Mae'n dileu o Atodlen 8 y parth diogel mewn perthynas â'r pla Pissodes spp. (Ewropeaidd). Gwneir diwygiadau daearyddol eraill i'r parthau a ddiffinnir yn Atodlen 8, gan gynnwys tynnu Denmarc o'r parthau diogel mewn perthynas â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) a firws clefyd gwywo brith Tomato; yn adlewyrchu ailddiffinio ffiniau llywodraeth leol yn Sweden mewn perthynas â'r pla Leptinotarsa decemlineata Say; ac yn adlewyrchu dosbarthiad presennol yr organeddau Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. Et al. yn Ffrainc, yr Eidal ac Awstria, a Gonipterus scutellatus Gyll. ym Mhortiwgal.

Ceir y diwygiadau sy'n rhoi Cyfarwyddeb 2001/33/EC ar waith yn erthygl 2(4) i 2(8) yn gynwysedig ac yn erthygl 2(11), a cheir y rhai sy'n rhoi Cyfarwyddeb 2001/32/EC ar waith yn erthygl 2(12) i 2(14) yn gynwysedig.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diweddaru cyfeiriadau at y brif ddeddfwriaeth Ewropeaidd, gan adlewyrchu'r cydgrynhoi a'r diddymu diweddar ar Gyfarwyddeb 77/93/EEC sydd wedi'i disodli gan Gyfarwyddeb 2000/29/EC. Ceir y diwygiadau hyn yn erthygl 2(2) a 2(3), 2(9) a 2(10) ac yn 2(15) a 2(16) o'r Gorchymyn.

(1)

1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48).

(3)

Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, cafodd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafodd y swyddogaethau hyn o eiddo Ysgrifennydd Gwladol Cymru eu trosglwyddo wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(5)

OJ Rhif L169, 10.7.00, t.1.

(6)

OJ Rhif L127, 9.5.01, t.42; a gweler Cyfarwyddeb gysylltiedig y Comisiwn 2001/32/EC, OJ Rhif L127, 9.5.01, t.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources