2001 Rhif 3761 (Cy.310)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2, 3 a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671 fel y'u darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amywiol) 19722 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Teitl, cymhwyso a chychwyn1

Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001, bydd yn gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 17 Rhagfyr 2001.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 19932

1

Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 19934 yn unol â pharagraffau (2) i (16) isod.

2

Yn erthygl 2(1):

a

Yn lle'r diffiniad o “Directive 77/93/EEC” rhoddir y testun canlynol:

  • “Directive 2000/29/EC” means Council Directive 2000/29/EC5 of 8th May 2000 on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community as amended by Commission Directive 2001/33/EC amending certain annexes to Council Directive 2000/29/EC;

b

Yn y diffiniad o “protected zone”, ym mharagraff (a) yn lle “Directive 77/93/EEC” rhoddir “Directive 2000/29/EC”; ac yn y geiriau sy'n dilyn paragraff (b) yn lle “Article 16a of Directive 77/99/EEC” rhoddir “Article 18 of Directive 2000/29/EC”.

3

Yn erthygl 30, yn lle “Directive 77/93/EEC” rhoddir “Directive 2000/29/EC”.

4

Yn Atodlen 1, Rhan B(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad):

a

yn eitem 1, yn yr ail golofn, dilëir “DK”; a

b

yn eitem 2, yn lle'r testun yn yr ail golofn rhoddir y testun canlynol:

  • Spain (Ibiza and Menorca), Ireland, Portugal (Azores and Madeira), Finland (districts of Åland, Håme, Kymi, Pirkanmaa, Satakunta, Turku, Uusimaa), Sweden (counties of Blekinge, Gotlands, Halland, Kalmar and Skåne), United Kingdom

5

Yn Atodlen 1, Rhan B(d) (Organeddau Firws ac Organeddau Tebyg i Firysau), yn eitem 2, yn yr ail golofn, dilëir “DK”.

6

Yn Atodlen 2, Rhan B(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad):

a

Yn eitem 5, yn y drydedd golofn, yn lle “EL,P” rhoddir y testun canlynol “EL, P (Azores; district of Beja: all concelhos; district of Castelo Branco: concelhos de Castelo Branco, Fundão and Penamacôr, Idanha-a-Nova; district of Évora with the exception of concelhos de Montemcor-o-Novo, Mora and Vendas Novas; district of Faro: all concelhos; district of Portalegre: concelhos de Arronches, Campo Maior, Elvas, Fronteira, Monforte and Sousel)”; a

b

Dilëir eitem 8.

7

Yn Atodlen 2, Rhan B(b) (Bacteria) yn eitem 2, yn lle'r testun yn y drydedd golofn, rhoddir y testun canlynol:

  • E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forli-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Apulia; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, East Tyrol, Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands)

8

Yn Atodlen 3, Rhan B (Planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill y gwaherddir eu cyflwyno mewn parthau diogel penodol) yn eitem 1, yn lle'r testun yn yr ail golofn, rhoddir y testun canlynol:

  • E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna; provinces of Forli-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Apulia; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, East Tyrol, Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands)

9

Yn Atodlen 4, Rhan A, Adran 1 yn lle “Directive 77/93/EEC” rhoddir yn y testun yn y golofn ar yr ochr dde y geiriau “Directive 2000/29/EC” yn y mannau canlynol:

a

yn eitem 16.2, paragraffau (b) ac (c);

b

yn eitem 16.3, paragraff (b); ac

c

yn eitem 16.3a, paragraff (b).

10

Yn Atodlen 4, Rhan A, Adran 1, eitem 25.4, yn lle “Article 16a of Council Directive 77/93/EEC” yn y testun yn y golofn ar yr ochr dde rhoddir y geiriau “Article 18 of Directive 2000/29/EC”.

11

Yn Atodlen 4, Rhan B (Gofynion arbennig sydd i'w pennu ar gyfer cyflwyno a symud planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill i barthau diogel penodol ac o'u mewn):

a

dilëir eitem 13;

b

yn eitem 19 yn lle'r testun yn y drydedd golofn rhoddir y testun canlynol:

  • EL, P (Azores; district of Beja: all concelhos; district of Castelo Branco; concelhos de Castelo Branco, Fundão and Penamacôr, Idanha-a-Nova; district of Évora with the exception of concelhos de Montemor-o-Novo, Mora and Vendas Novas; district of Faro: all concelhos; district of Portalegre: concelhos de Arronches, Campo Maior, Elvas, Fronteira, Monforte and Sousel)

c

Yn eitem 21, yn lle'r testun yn y drydedd golofn rhoddir y testun canlynol:

  • E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forlí-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini: Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Apulia; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, East Tyrol, Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands)

ch

yn eitem 24, yn y drydedd golofn, dilëir, “DK”.

12

Diwygir Atodlen 8(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad) fel a ganlyn —

a

yn eitem 2, yn yr ail golofn, dilëir “Denmark”;

b

yn eitem 6, yn lle'r testun yn yr ail golofn rhoddir y testun canlynol:

  • Greece, Portugal (Azores; district of Beja: all concelhos; district of Castelo Branco: concelhos de Castelo Branco, Fundão and Penamacôr, Idanha-a-Nova; district of Évora with the exception of concelhos de Montemor-o-Novo, Mora and Vendas Novas; district of Faro: all concelhos; district of Portalegre: concelhos de Arronches, Campo Maior, Elvas, Fronteira, Monforte and Sousel)

c

yn eitem 12, dilëir y testun yn yr ail golofn ac yn ei le rhoddir y testun canlynol:

  • Spain (Ibiza and Menorca), Ireland, Portugal (Azores and Madeira), Finland (districts of Åland, Håme, Kymi, Pirkanmaa, Satakunta, Turku, Uusimaa), Sweden (counties of Blekinge, Gotlands, Halland, Kalmar and Skåne), United Kingdom

ch

dilëir eitem 14

13

Yn Atodlen 8(b) (Bacteria), yn eitem 2 yn lle'r testun yn yr ail golofn rhoddir y testun canlynol:

  • Spain, France (Corsica), Ireland, Italy (Abruzzi; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forlí-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Apulia; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto), Austria (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, East Tyrol, Styria, Vienna), Portugal, Finland, United Kingdom (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands)

14

Yn Atodlen 8(d) (Organeddau Firws ac Organeddau Tebyg i Firysau), yn eitem 2 yn yr ail golofn, dilëir “Denmark”.

15

Yn Atodlen 13, paragraff 9(1)(a), yn lle “Council Directive 77/93/EEC” rhoddir y geiriau “Council Directive 2000/29/EC”.

16

Dilëir Atodlen 16 (Offerynnau sy'n Diwygio ac yn Cydategu Cyfarwyddeb y Cyngor 77/93/EEC).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987

D.Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 er mwyn rhoi Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif L127, 9.5.2001, t.38) a 2001/33/EC (OJ Rhif L127, 9.5.2001, t.42) ar waith yng Nghymru. Mae'r cyntaf o'r ddwy yn diwygio'r parthau diogel a sefydlwyd o dan y prif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L169, 10.7.2000, t.1) ac mae'r ail yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i rai o Atodiadau'r Gyfarwyddeb honno.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud sawl newid i ddiffiniadau daearyddol amrywiol barthau diogel a restrir yn Atodlen 8 i Orchymyn 1993 a diwygiadau cyfatebol i Atodlenni 1B, 2B, 3B a 4B. Mae'n dileu o Atodlen 8 y parth diogel mewn perthynas â'r pla Pissodes spp. (Ewropeaidd). Gwneir diwygiadau daearyddol eraill i'r parthau a ddiffinnir yn Atodlen 8, gan gynnwys tynnu Denmarc o'r parthau diogel mewn perthynas â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) a firws clefyd gwywo brith Tomato; yn adlewyrchu ailddiffinio ffiniau llywodraeth leol yn Sweden mewn perthynas â'r pla Leptinotarsa decemlineata Say; ac yn adlewyrchu dosbarthiad presennol yr organeddau Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. Et al. yn Ffrainc, yr Eidal ac Awstria, a Gonipterus scutellatus Gyll. ym Mhortiwgal.

Ceir y diwygiadau sy'n rhoi Cyfarwyddeb 2001/33/EC ar waith yn erthygl 2(4) i 2(8) yn gynwysedig ac yn erthygl 2(11), a cheir y rhai sy'n rhoi Cyfarwyddeb 2001/32/EC ar waith yn erthygl 2(12) i 2(14) yn gynwysedig.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diweddaru cyfeiriadau at y brif ddeddfwriaeth Ewropeaidd, gan adlewyrchu'r cydgrynhoi a'r diddymu diweddar ar Gyfarwyddeb 77/93/EEC sydd wedi'i disodli gan Gyfarwyddeb 2000/29/EC. Ceir y diwygiadau hyn yn erthygl 2(2) a 2(3), 2(9) a 2(10) ac yn 2(15) a 2(16) o'r Gorchymyn.