Search Legislation

Rheoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3806 (Cy.314)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

28 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd- destun yn mynnu fel arall —

  • ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person neu bersonau sydd wedi cael cymorth ariannol;

  • ystyr “busnes perthnasol” (“relevant business”) yw busnes fferm cymwys:

    (i)

    ag unig berchennog sy'n ffermwr ifanc sydd wrthi'n weithredol yn cynnal gweithgareddau amaethyddol ar ran y busnes, neu

    (ii)

    heb fwy na 4 partner neu gyfranddeiliad, y mae o leiaf un ohonynt yn ffermwr ifanc sydd wrthi'n weithredol yn cynnal gweithgareddau amaethyddol ar ran y busnes, neu

    (iii)

    â 5 neu fwy o bartneriaid neu gyfranddeiliaid, y mae o leiaf dau ohonynt yn ffermwyr ifanc sydd wrthi'n weithredol yn cynnal gweithgareddau amaethyddol ar ran y busnes;

  • ystyr “busnes fferm” (“farming business”) yw busnes gyda rhif Daliad Plwyf Sir a gofrestrwyd yn ei enw ac sy'n cynnal gweithgareddau amaethyddol ar y daliad hwnnw am o leiaf 550 awr y flwyddyn;

  • ystyr “busnes fferm cymwys” (“eligible farming business”) yw busnes fferm neu grŵ p o fusnesau fferm sydd wedi bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod wedi cwblhau Cynllun Datblygu Busnes Fferm neu Adolygiad o Opsiynau Busnes Fferm a'u bod ym mhob manylyn o bwys yn bodloni'r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i dderbyn grant fel y'u cyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol;

  • ystyr “y CDGC” (“the RDPW”) yw Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000—2006 a gymeradwywyd gan Benderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Hydref 2000 y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Rheoliadau hyn, ac ystyr “y rhan berthnasol o'r CDGC” (“the relevant part of the RDPW”) yw'r rhan honno o'r CDGC sy'n ymwneud â gwariant y gall cymorth gael ei roi ar ei gyfer yn unol ag Erthyglau 4 a 33 o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;

  • ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian y trefnir ei fod ar gael gan —

    (a)

    corff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig; neu

    (b)

    y Cymunedau Ewropeaidd;

  • mae i “cyfathrebu electronig” (“electronic communication”) yr un ystyr ag sydd i “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(3);

  • ystyr “cylch grantiau” (“grant cycle”) yw, ynghylch unrhyw fusnes fferm cymwys, —

    (a)

    y cyfnod o 24 mis yn cychwyn ar y dyddiad y cymeradwywyd y prosiect gyntaf gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cymorth ariannol, a

    (b)

    unrhyw gyfnod pellach o 24 mis yn dilyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (a);

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial support”) yw swm sy'n cael ei dalu o dan y Rheoliadau hyn neu sy'n daladwy odanynt;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community support”) yw cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop sy'n daladwy yn unol â'r ddeddfwriaeth Gymunedol;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn cais am grant o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “y ddeddfwriaeth Gymunedol” (“the Community legislation”) yw'r offerynnau a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn ymwneud â gwariant y gall cymorth gael ei roi ar ei gyfer yn unol ag Erthyglau 4 a 33 o Reoliad y Cyngor 1257/1999/EC;

  • ystyr “y DRS” (“the SPD”) yw'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol y Gymuned o dan Amcan 1 ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a gymeradwywyd gan Benderfyniad y Comisiwn dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “ffermwr ifanc” (“young farmer”) yw ffermwr sy'n 18 oed neu'n hŷn nad ydyw hyd yma wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 40 ar y diwrnod perthnasol ac a fydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn cael budd uniongyrchol o'r gweithrediad a fydd yn derbyn cymorth trwy gyfrwng grant o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”), mewn perthynas ag unrhyw weithrediad, yw gwariant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo ar gyfer derbyn cymorth ariannol, a dehonglir “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) yn unol â hynny;

  • ystyr “gweithrediad” (“operation”) yw buddsoddiad neu brosiect;

  • ystyr “person a awdurdodwyd” (“authorised person”) yw person a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol naill ai'n gyffredinol neu'n benodol i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn sy'n mynd gyda pherson a awdurdodwyd;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999(4) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2000(5);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF)(6); ac

  • ystyr “ymrwymiad” (“commitment”) yw unrhyw rwymedigaeth a osodir ar fuddiolwr, o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a/neu'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir mewn ysgrifen neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebiad electronig sydd wedi'i gofnodi ac a all gael ei atgynhyrchu o ganlyniad i hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud.

Grant Menter Ffermydd

3.—(1Gall y Cynulliad Cenedlaethol, pan fydd wedi'i fodloni bod gweithrediad yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol, dalu grant, o'r enw Grant Menter Ffermydd, i fusnes fferm cymwys, tuag at wariant a gymeradwywyd sy'n cael ei dynnu gan y busnes hwnnw mewn cysylltiad â'r gweithrediad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ac i reoliad 6 a rheoliad 7, ni fydd swm y grant a delir o dan baragraff (1) yn fwy na 35% o'r gwariant a gymeradwywyd.

(3£525 fydd isafswm y grant sy'n daladwy o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw gais am gymorth ariannol.

Grant Gwella Ffermydd

4.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod gweithrediad yn cydymffurfio â gofynion y deddfwriaeth Gymunedol, gall dalu grant, o'r enw Grant Gwella Ffermydd, i fusnes fferm cymwys, tuag at wariant a gymeradwywyd sy'n cael ei dynnu gan y busnes hwnnw mewn cysylltiad â'r gweithrediad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ac i reoliad 6 a rheoliad 7, ni fydd swm y grant a delir o dan baragraff (1) yn fwy na 30% o'r gwariant a gymeradwywyd.

(3£450 fydd isafswm y grant a delir o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw gais am gymorth ariannol.

Grant Ychwanegol

5.—(1Pan fo busnes ffermio cymwys hefyd yn fusnes perthnasol gall y Cynulliad Cenedlaethol gynyddu'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 3 neu reoliad 4 gan swm sy'n cyfateb i 10 y cant o'r gwariant a gymeradwywyd.

(2Pan fo grŵp o fusnesau fferm cymwys, sy'n cynnwys un busnes perthnasol neu fwy, wedi gwneud cais am gymorth ariannol, fe gaiff y grant ychwanegol y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ei ddyfarnu yn y swm y barna'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn gyfrannol i'r nifer o fusnesau perthnasol a gynhwysir yn y grŵp.

Terfynau Grant

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), bydd talu'r Grant Gwella Ffermydd o dan reoliad 4 yn cael ei gyfyngu i swm o £16,000 i bob busnes fferm cymwys fesul pob cylch grant.

(2Pan fo busnes fferm cymwys yn gymwys i dderbyn grant ychwanegol o dan reoliad 5, £20,000 i bob busnes fferm cymwys fesul pob cylch grant fydd terfyn y grant a bennir ym mharagraff (1).

(3Caiff cyfanswm cronnol y grant sy'n daladwy o dan reoliad 3 a 4 ei gyfyngu i swm o £75,000 i bob busnes fferm fesul pob cylch grant.

Gostwng Grantiau

7.  Os oes unrhyw grant arall yn daladwy o gronfeydd cyhoeddus mewn cysylltiad â'r gwariant a gymeradwywyd, swm y grant a delir fydd swm a fyddai, ar ôl ei ychwanegu i'r grant arall hwnnw, yn arwain at y gwerthoedd canlynol,

(a)mewn cysylltiad â symiau sy'n daladwy o dan reoliad 3, 35 y cant, (neu yn achos busnesau perthnasol, 45 y cant), o'r gwariant a gymeradwywyd, neu

(b)mewn cysylltiad â symiau sy'n daladwy o dan reoliad 4, 30 y cant, (neu yn achos busnesau perthnasol, 40 y cant), o'r gwariant a gymeradwywyd.

Cymeradwyo gwariant

8.—(1Rhaid i gais am gymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â gweithrediad gael ei wneud ar y ffurf ac ar yr adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i gais gynnwys unrhyw wybodaeth arall y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â gweithrediad, neu ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ond, beth bynnag fo'r achos, ni chaiff ei gymeradwyo oni bai ei fod wedi'i fodloni ei fod yn gymwys i dderbyn cymorth Cymunedol yn unol â'r rhan berthnasol o'r CDGC a/neu'r DRS.

(4Gall cymeradwyaeth gael ei roi o dan unrhyw amodau y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol armywio unrhyw gymeradwyaeth o'r fath drwy amrywio unrhyw amod y mae'n ddarostyngedig iddo, neu drwy osod amodau.

(6Cyn amrywio cymeradwyaeth o dan baragraff (5), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)roi hysbysiad ysgrifenedig i'r buddiolwyr ei fod yn bwriadu gwneud hynny gyda datganiad o'i resymau;

(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

(7Rhaid i gymeradwyaeth neu amrywiad o dan y rheoliad hwn fod mewn ysgrifen.

Hawliadau

9.  Rhaid i hawliad am gymorth ariannol gael ei wneud ar adeg ac ar ffurf a chael ei anfon ynghyd a'r wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

Talu

10.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant mewn perthynas â gwariant a gymeradwywyd mewn cysylltiad â gweithrediad mewn un cyfandaliad neu mewn rhandaliadau.

(2Gall taliadau gael eu gwneud—

(a)ar yr adeg adeg neu adegau y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn rhesymol arnynt; a

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gall y Cynulliad Cenedlaethol benederfynu yn rhesymol arnynt.

Gwybodaeth

11.—(1Rhaid i fuddiolwr roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unryw wybodaeth am unrhyw wariant a gymeradwywyd ac unrhyw weithrediad y mae gwariant o'r fath yn cael ei dynnu mewn cysylltiad ag ef ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth o'r fath, rhaid i'r buddiolwr ei rhoi o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn rhesymol arno.

Cadw cofnodion

12.—(1Rhaid i fuddiolwr gadw unrhyw anfoneb, cyfrif neu ddogfen arall sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd neu unrhyw weithrediad yr eir i wariant mewn perthynas â hwy am y cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau â'r diwrnod pan wneir taliad olaf y gefnogaeth ariannol o dan y Rheoliadau hyn iddo mewn cysylltiad â'r gwariant neu'r gweithrediad hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3).

(2Os yw'r gwreiddiol o unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei throsglwyddo gan fuddiolwr i berson arall fel rhan o'i waith beunyddiol, rhaid i'r buddiolwr gadw copi o'r ddogfen honno ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r ddogfen wedi cael ei symud oddi yno gan unrhyw berson a awdurdowyd yn gyfreithlon i wneud hynny.

Pwerau personau awdurdodedig

13.—(1Gall person awdurdodedig ar bob adeg rhesymol, os bydd yn cyflwyno dogfen wedi'i dilysu yn briodol, os bydd galw am hynny, yn dangos ei awdurdod, fynd ar dir, heblaw am dir a ddefnyddir yn unig at ddiben tŷ annedd:

(a)y mae cymorth ariannol neu ymrwymiad yn gysylltiedig ag ef, neu

(b)y mae ganddo seiliau rhesymol dros gredu bod y dogfennau sy'n ymwneud â chefnogaeth ariannol neu ymrwymiad yn cael eu cadw,

ar gyfer unrhyw un o'r dibenion a grybwyllwyd ym mharagraff (2).

(2Y dibenion hynny yw —

(a)archwilio'r tir y mae'r cymorth ariannol neu ymrwymiad yn gysylltiedig ag ef;

(b)gwirio cywrideb unrhyw wybodaeth a ddarperir gan fuddiolwr sy'n ymwnued â chymorth ariannol neu ymrwymiad; a

(c)penderfynu p'un a ydyw buddiolwr wedi cydymffurfio ag ymrwymiad ai peidio.

(3Gall person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir o dan baragraff (1) —

(a)archwilio'r tir ac unrhyw ddogfen, cofnod neu offer arno, y mae'n credu'n rhesymol eu bod yn ymwneud â chymorth ariannol neu ag ymrwymiad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r buddiolwr, neu i unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr o'r fath gyflwyno neu sicrhau y cyflwynir, unrhyw ddogfen neu y cyflwynir unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth sy'n ymwneud â chymorth ariannol neu ymrwymiad;

(c)os oes unrhyw wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio i storio'r wybodaeth honno, a'i gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth gael ei chyflwyno mewn ffurf sy'n ddarllenadwy ac a all gael ei chymryd i ffwrdd;

(ch)ei gwneud yn ofynnol i gopïau neu ddetholiadau o unrhyw ddogfen neu gofnod arall o'r fath y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) gael eu cyflwyno;

(d)cadw copi o unrhyw ddogfen a gyflwynir iddo; ac

(dd)cipio a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod arall y mae'n credu'n rhesymol y gall fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i fuddiolwyr neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr roi i berson awdurdodedig bob cymorth rhesymol mewn perthynas ag arfer ei bwerau o dan baragraffau (1) a (3).

(5Caiff person awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw dir o dan baragraff (1) fynd yng nghwmni —

(a)unrhyw swyddog o'r Comisiwn, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol,

a bydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw bersonau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) wrth weithredu o dan gyfarwyddiadau person awdurdodedig, fel pe bai'n berson awdurdodedig.

Torri ymrwymiadau

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2),

(a)os oes unrhyw wybodaeth a roddir gan fuddiolwr i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ffug neu'n gamarweiniol,

(b)os yw'r buddiolwr yn torri unrhyw un o delerau ymrwymiad,

(c)os yw'r buddiolwr yn torri unrhyw ofyniad y mae'n ddarostyngedig iddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddeddfwriaeth y Gymuned, neu

(ch)os byddai'r cyfan neu unrhyw ran o'r cymorth ariannol yn dyblygu cymorth a ddarparwyd neu sydd i'w ddarparu, ag arian y trefnwyd ei fod ar gael —

(i)gan y Cymunedau Ewropeaidd;

(ii)gan y Cynulliad Cenedlaethol; neu

(iii)gan gorff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer y pwerau a nodir yn rheoliad 16(1).

(2At ddibenion paragraff (1) (ch), mae swm yn dyblygu cymorth o'r fath os câi ei dalu ar gyfer unrhyw un o'r un dibenion.

(3Os bydd —

(a)buddiolwr wedi trosglwyddo'r cyfan neu ran o'r tir y mae ymrwymiad yn ymwneud ag ef i berson arall (“y trosglwyddai”),

(b)y trosglwyddai, o fewn tri mis o ddyddiad y trosglwyddiad, wedi rhoi ymrwymiad i'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd yn ymgymryd â'r ymrwymiad yn lle'r buddiolwr, ac

(c)y Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn yr ymgymeriad hwnnw,

caiff y buddiolwr ei ryddhau o'i ymrwymiad, heblaw mewn perthynas ag unrhyw doriad neu fater arall sy'n digwydd cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol dderbyn ymgymeriad y trosglwyddai.

Achosion eraill lle mae pwerau adennill ayb. yn gymwys

15.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer y pwerau a bennir ym mharagraffau (1)(a) a (b) o reoliad 16 —

(a)os oes newid o sylwedd wedi bod yn natur, graddfa, costau neu amseriad y gweithrediad y mae cymorth ariannol wedi'i roi neu y mae ymrwymiad wedi'i wneud mewn perthynas ag ef; neu

(b)os yw'r gweithrediad y rhoddwyd y cymorth ariannol neu y gwnaed yr ymrwymiad mewn perthynas ag ef wedi'i ohirio neu'n cael ei ohirio, neu'n annhebyg o gael ei gwblhau.

Pwerau'r Cynulliad i adennill ayb.

16.—(1Y pwerau a roddir gan reoliadau 14(1) a 15 yw —

(a)dal y cyfan neu unrhyw ran o'r symiau sy'n daladwy i'r buddiolwr yn ôl; a

(b)adennill ar gais y cyfan neu ran o'r symiau sydd eisoes wedi'u talu i'r buddiolwr.

(2Pan fydd yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 14(1) wedi eu bwriadu gan y buddiolwr, neu'n codi oherwydd iddo fod yn ddi-hid, caiff y Cynulliad Cenedlaethol hefyd fynnu bod y buddiolwr yn talu iddo swm ychwanegol sy'n cyfateb i ddim mwy na 10% o'r symiau a dalwyd neu sy'n daladwy iddo neu iddi.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), caiff hefyd atal neu derfynu unrhyw gymorth ariannol a/neu unrhyw ymrwymiad a wnaed gan fuddiolwr, ac o wneud hynny bydd unrhyw hawl sydd gan y buddiolwr i gael taliad mewn perthynas â'r cyfnod o'r ymrwymiad sydd heb ddod i ben hefyd yn cael ei hatal neu ei therfynu yn ôl fel y digwydd.

(4Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn terfynu ymrwymiad o dan baragraff (3), caiff hefyd wahardd y buddiolwr rhag gwneud unrhyw ymrwymiad newydd am unrhyw gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) o'r dyddiad terfynu y mae'n ei bennu.

(5Bydd y pwerau a roddir i'r Cynulliad gan baragraffau (2), (3) a (4) yn arferadwy drwy gyfrwng hysbysiad a gyflwynir i'r buddiolwr drwy'r post yn ei gyfeiriad hysbys diwethaf, ac ym mharagraff (4) ystyr “ei bennu” yw ei bennu mewn hysbysiad o'r fath.

(6Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), (2), (3) neu (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr am y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.

Adennill Llog

17.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfer y pŵer a roddir gan reoliad 16(1)(b), fe gaiff hefyd adennill llog ar y swm sydd i'w adennill, ar gais, ac un y cant uwchben LIBOR fesul dydd fydd y gyfradd llog.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “LIBOR” yw'r gyfradd sterling sy'n cael ei gynnig rhwng banciau Llundain am dri mis sydd mewn grym rhwng y dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y taliad sydd i'w adennill a'r dyddiad y mae'n ei adennill.

(3Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan y LIBOR a oedd yn gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r gyfradd a oedd yn gymwys yn ystod y cyfnod penodedig os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi rhoi gwybod am y gyfradd honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol i fod yn adenilladwy fel dyled

18.  Mewn unrhyw achos lle mae swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn (neu yn rhinwedd cam a gymerir odanynt), bydd y swm sydd i'w dalu felly yn adenilladwy fel dyled.

Tramgwyddo a chosbi

19.—(1Mae person yn euog o dramgwydd os yw —

(a)er mwyn sicrhau cymorth ariannol o dan y Rheoliadau hyn iddo'i hun neu i unrhyw berson arall, yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol; neu

(b)yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig (neu berson sy'n mynd gyda pherson awdurdodedig ac sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau) wrth arfer ei bwerau o dan reoliad 13.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1)(a) yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1)(b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4Rhaid peidio â dechrau erlyniad ynglŷn â thramgwydd o dan baragraff (1) a all gael ei brofi, yn rhinwedd paragraff 2(a), yn ddiannod, ar ôl i dair blynedd ddod i ben o gyflawni'r tramgwydd neu un flwyddyn o'r dyddiad y cafodd yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos, pa bynnag un sydd gyntaf.

(5Os yw paragraff (4) yn gymwys —

(a)bydd datganiad o'r dyddiad y cafodd yr erlynydd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'i gynnwys os yw wedi'i lofnodi gan yr erlynydd neu ar ei ran; a

(b)trinnir datganiad sy'n ymhonni ei fod wedi'i lofnodi felly fel pe bai wedi'i lofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

(6Pan brofir bod tramgwydd o dan y rheoliad hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff hwnnw, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, mae'r person hwnnw hefyd yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(7Pan fydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (6) yn gymwys i weithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Tachwedd 2001

Rheoliad 2(1)

YR ATODLENYSTYR “Y DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL”

1.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80).

2.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 dyddiedig 23 Gorffennaf 1999 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) (OJ Rhif L214, 13.8.99, t.31) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2000 dyddiedig 29 Medi 2000 (OJ Rhif L246, 30.9.2000, t.46)).

3.  Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2932 dyddiedig 11 Hydref 2000 yn cymeradwyo dogfen rhaglen datblygu gwledig ar gyfer Cymru (DU) ar gyfer cyfnod rhaglennu 2000 — 06.

4.  Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2049 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer Cymorth Strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1, ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn y Deyrnas Unedig.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol sy'n cael ei rhestru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau (“y ddeddfwriaeth Gymunedol”). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (“cymorth Cymunedol”) tuag at fuddsoddi at ddibenion gwella daliadau amaethyddol. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu o fewn cwmpas y darpariaethau hyn er mwyn caniatáu talu grant tuag at wariant sy'n cael ei dynnu mewn cysylltiad â gweithrediadau sy'n cynnwys gwelliannau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth, fel rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru (“y CDGC”) a'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (“y DRS”), i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) dalu grantiau mewn perthynas ag unrhyw wariant y mae wedi'i gymeradwyo.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer talu dau fath o grant: Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd. O dan y naill 35% o'r gwariant a gymeradwywyd fydd uchafswm y grant fydd ar gael (yn ddarostyngedig i isafswm hawliad o £525) ac o dan y llall 30% o'r gwariant a gymeradwywyd (yn ddarostyngedig i isafswm hawliad o £450). Gellir cynyddu'r uchafswm cyfraddau hyn 10% mewn perthynas â cheisiadau a gyflwynir gan ffermwyr ifanc, neu sy'n ymwneud â hwy (rhwng 18 a 39 oed yn gynwysedig) (rheoliadau 3,4 a 5).

Mae talu'r Grant Gwella Ffermydd yn ddarostyngedig i uchafswm o £16,000 fesul pob cyfnod o 24 mis (£20,000 mewn perthynas â cheisiadau a gyflwynir gan ffermwyr ifanc, neu sy'n ymwneud â hwy). Yn ogystal, cyfanswm cronnol y swm a delir i bob ceisydd mewn perthynas â'r ddau fath o grant fydd £75,000 fesul pob cyfnod o 24 mis (rheoliad 6). Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu i grant gael ei ostwng o dan amgylchiadau penodol (rheoliad 7).

Gellir cymeradwyo gwariant os yw'n gymwys i gael cymorth o dan y ddeddfwriaeth Gymunedol a'i fod yn wariant sy'n dod o fewn y rhannau hynny o'r CDGC neu'r DRS sy'n ymwneud â gwella daliadau amaethyddol (rheoliad 8).

Yn benodol, mae'r Rheoliadau'n gweithredu ac yn cydategu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L214, 13.8.99, t.31) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80) (“Rheoliad y Comisiwn”). Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am grantiau, a thalu grantiau, yn sgil cymeradwyaeth (rheoliadau 9 a 10) ac ar gyfer darparu gwybodaeth, a chadw cofnodion, gan y rhai sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 11 a 12). Mae rheoliad 13 yn rhoi pwerau mynediad a phwerau archwilio i bersonau awdurdodedig penodol (gan gynnwys swyddogion o'r Comisiwn Ewropeaidd).

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu Erthygl 48(2) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau i'w gosod os caiff rhwymedigaeth ei thorri) drwy roi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol ddal taliadau'n ôl neu eu hadennill ac i gymryd camau penodol eraill, gan gynnwys terfynu'r ymrwymiad (a therfynu'r hawl i gael taliadau mewn perthynas ag ef), os caiff rhwymedigaeth sy'n codi o dan y Rheoliadau ei thorri gan rywun sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 14, 15 ac 16).

Mae rheoliad 17 yn darparu pŵer i godi llog ar symiau a gaiff eu hadennill ac mae rheoliad 18 yn darparu bod symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol yn adenilladwy fel dyledion.

Mae'r rheoliadau hefyd yn creu tramgwyddau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth ffug er mwyn sicrhau cymorth ac mewn perthynas â rhwystro personau awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau (rheoliad 19).

Mae copïau o Benderfyniadau'r Comisiwn y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 a 4 o'r Atodlen, y CDGC a'r DRS, ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).

(4)

OJ Rhif L214, 13.8.1999, t.31.

(5)

OJ Rhif L246, 30.9.2000, t.46.

(6)

OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.80.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources