Rheoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol sy'n cael ei rhestru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau (“y ddeddfwriaeth Gymunedol”). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (“cymorth Cymunedol”) tuag at fuddsoddi at ddibenion gwella daliadau amaethyddol. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu o fewn cwmpas y darpariaethau hyn er mwyn caniatáu talu grant tuag at wariant sy'n cael ei dynnu mewn cysylltiad â gweithrediadau sy'n cynnwys gwelliannau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth, fel rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru (“y CDGC”) a'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (“y DRS”), i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) dalu grantiau mewn perthynas ag unrhyw wariant y mae wedi'i gymeradwyo.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer talu dau fath o grant: Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd. O dan y naill 35% o'r gwariant a gymeradwywyd fydd uchafswm y grant fydd ar gael (yn ddarostyngedig i isafswm hawliad o £525) ac o dan y llall 30% o'r gwariant a gymeradwywyd (yn ddarostyngedig i isafswm hawliad o £450). Gellir cynyddu'r uchafswm cyfraddau hyn 10% mewn perthynas â cheisiadau a gyflwynir gan ffermwyr ifanc, neu sy'n ymwneud â hwy (rhwng 18 a 39 oed yn gynwysedig) (rheoliadau 3,4 a 5).

Mae talu'r Grant Gwella Ffermydd yn ddarostyngedig i uchafswm o £16,000 fesul pob cyfnod o 24 mis (£20,000 mewn perthynas â cheisiadau a gyflwynir gan ffermwyr ifanc, neu sy'n ymwneud â hwy). Yn ogystal, cyfanswm cronnol y swm a delir i bob ceisydd mewn perthynas â'r ddau fath o grant fydd £75,000 fesul pob cyfnod o 24 mis (rheoliad 6). Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu i grant gael ei ostwng o dan amgylchiadau penodol (rheoliad 7).

Gellir cymeradwyo gwariant os yw'n gymwys i gael cymorth o dan y ddeddfwriaeth Gymunedol a'i fod yn wariant sy'n dod o fewn y rhannau hynny o'r CDGC neu'r DRS sy'n ymwneud â gwella daliadau amaethyddol (rheoliad 8).

Yn benodol, mae'r Rheoliadau'n gweithredu ac yn cydategu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L214, 13.8.99, t.31) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80) (“Rheoliad y Comisiwn”). Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am grantiau, a thalu grantiau, yn sgil cymeradwyaeth (rheoliadau 9 a 10) ac ar gyfer darparu gwybodaeth, a chadw cofnodion, gan y rhai sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 11 a 12). Mae rheoliad 13 yn rhoi pwerau mynediad a phwerau archwilio i bersonau awdurdodedig penodol (gan gynnwys swyddogion o'r Comisiwn Ewropeaidd).

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu Erthygl 48(2) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau i'w gosod os caiff rhwymedigaeth ei thorri) drwy roi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol ddal taliadau'n ôl neu eu hadennill ac i gymryd camau penodol eraill, gan gynnwys terfynu'r ymrwymiad (a therfynu'r hawl i gael taliadau mewn perthynas ag ef), os caiff rhwymedigaeth sy'n codi o dan y Rheoliadau ei thorri gan rywun sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 14, 15 ac 16).

Mae rheoliad 17 yn darparu pŵer i godi llog ar symiau a gaiff eu hadennill ac mae rheoliad 18 yn darparu bod symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol yn adenilladwy fel dyledion.

Mae'r rheoliadau hefyd yn creu tramgwyddau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth ffug er mwyn sicrhau cymorth ac mewn perthynas â rhwystro personau awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau (rheoliad 19).

Mae copïau o Benderfyniadau'r Comisiwn y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 a 4 o'r Atodlen, y CDGC a'r DRS, ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd.